Rydym am ddangos i bobl ifanc bod gwleidyddiaeth a democratiaeth yn effeithio ar bopeth o’u hamgylch. O ba mor hir maent yn aros yn y system addysg, i reolau rhentu; o argaeledd 5G, i ba mor aml y caiff biniau eu casglu.
Gall trafod y materion hyn, a deall dewisiadau fel person ifanc, eu helpu i ddod yn bleidleiswyr a dinasyddion ymrwymedig am flynyddoedd i ddod.
Gall mwy o bobl bleidleisio yng Nghymru nawr. Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol, a does dim ots ble cawsant eu geni na beth yw eu cenedligrwydd, cyn belled ag y bônt yn byw yng Nghymru.
Rydym am roi i bobl ifanc yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd ei hangen arnynt i wneud newid yn eu cymunedau a’u helpu i deimlo’n hyderus wrth bleidleisio a gwybod bod eu pleidlais nhw o bwys.