roi gwybod i'r pleidleisiwr post pa ddyddiad y bydd ei hawl i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau dilynol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dod i ben
cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais newydd am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau dilynol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dod i ben
Dylech hefyd gynnwys gwybodaeth i esbonio'r canlynol:
y mathau o etholiadau na fyddai'r unigolyn yn gallu pleidleisio drwy'r post ynddynt mwyach os na fydd yn ailymgeisio
nad yw'r ffaith bod ei drefniant presennol yn dod i ben yn golygu na chaiff yr etholwr ailymgeisio am bleidlais bost rywbryd eto yn y dyfodol
sut y caiff y llofnod a'r dyddiad geni y gofynnir amdanynt eu defnyddio er mwyn helpu i atal pobl rhag camddefnyddio'r hawl i bleidleisio drwy'r post
o dan ba amgylchiadau y gellir hepgor y gofyniad i ddarparu llofnod
Gallwch hefyd gynnwys gwybodaeth ychwanegol am drefniadau pleidleisio drwy'r post mewn etholiadau eraill. Er enghraifft, os nad oes gan yr unigolyn drefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau eraill, y broses ar gyfer gwneud cais am un neu esboniad o'r hyn y mae ailymgeisio ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau dilynol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ei olygu yn nhermau ei gymhwysedd i barhau i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau eraill.
Mae'n rhaid i chi anfon yr hysbysiad i gyfeiriad cyfredol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y pleidleisiwr post neu'r dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post.2
Dylech gadw cofnod o enw pob unigolyn rydych wedi anfon hysbysiad ato, y cyfeiriad y gwnaethoch anfon yr hysbysiad iddo, a dyddiad yr hysbysiad.