Return to The Electoral Commission Homepage

Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl

Dylai pob person allu cofrestru a phleidleisio heb wynebu rhwystrau. 

Mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth a chyngor ar y camau y gallwch chi a’ch staff eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau y mae pleidleiswyr anabl yn eu hwynebu wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Ei nod yw eich cynorthwyo i: 

  • nodi a darparu cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio sy'n galluogi neu'n gwneud pleidleisio'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol
  • sicrhau bod y rhai sy'n gweithio i gynorthwyo'r etholiad yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr anabl a'r camau y dylent eu cymryd i'w cynorthwyo

Rydym wedi ymgynghori ag ystod eang o sefydliadau sy’n cynrychioli pobl anabl wrth ddrafftio’r canllawiau hyn. Rhoddodd eu hymatebion wybod i ni beth yw’r profiadau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio i bleidleiswyr anabl a’r arferon a'r cyfarpar a allai helpu i wella eu profiad. Mae'r canllawiau’n adlewyrchu'r adborth a dderbyniwyd gan yr unigolion a'r sefydliadau hynny cyn belled ag y bo modd o fewn cwmpas y canllawiau a'r ddeddfwriaeth berthnasol.  

Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn

Drwy gydol y canllawiau hyn rydym yn defnyddio'r gair rhaid i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol ar gyfer arfer a argymhellir. 

Fel Swyddog Canlyniadau, rhaid i chi ystyried y canllawiau a'r cyfarpar sydd i'w darparu mewn gorsafoedd pleidleisioi  fel rhan o'ch dyletswyddau ehangach i ystyried anghenion pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio, gwneud addasiadau rhesymol a darparu cyfarpar.  

Byddwn yn gofyn am adborth gan bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol ar y cyfarpar a ddarperir i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fel rhan o'n hadroddiadau ar etholiadau ac i gynorthwyo gyda nodi a rhannu arferion da. 

Dylai pob pleidleisiwr gael yr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Fodd bynnag, gwyddom fod pobl anabl, gan gynnwys pobl ddall a rhai â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau i bleidleisio sy'n cynnwys: 

  • peidio â rhannu eu hawliau pleidleisio mewn ffordd hygyrch
  • peidio â chael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth gofrestru i bleidleisio neu wrth bleidleisio
  • rhwystrau corfforol, seicolegol a gwybodaeth wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
  • y dull pleidleisio - rhoi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur - yn ymarfer gweledol yn bennaf

Diffinnir anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar y gallu i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd cyffredin. Gall anabledd fod o ganlyniad i gyflwr meddygol: er enghraifft, efallai y bydd rhywun ag arthritis yn ei ddwylo yn wynebu anhawster i afael mewn pethau heb ddefnyddio cymorth ategol. Ond nid oes rhaid i anabledd fod yn gyflwr meddygol wedi'i ddiagnosio a gall gynnwys namau corfforol neu seicolegol a all fod yn weladwy ac yn anweledig. Er enghraifft, os yw person yn profi iselder, efallai y byddent yn cael trafferth canolbwyntio - yn ogystal â namau corfforol, fel blinder eithafol.  

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ystyried rhwystrau i bleidleisio, sut y gallwch sicrhau eich bod chi a'ch staff yn ymwybodol ohonynt, a sut y gallwch ragweld, nodi a darparu cymorth a chyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi, neu ei gwneud hi'n haws i bobl anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.  

Mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu cyfarpar o'r fath, fel sy'n rhesymol, i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol ym mhob etholiad yn y DUii . Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofynion cyfyngedig a rhagnodol blaenorol, ac mae hefyd yn eistedd o fewn fframwaith cyfreithiol ehangach hawliau ac amddiffyniadau i bobl anabl a darpariaethau penodol mewn cyfraith etholiadol i helpu i ddiogelu a gwella profiad pleidleiswyr anabl. 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan Swyddogion Canlyniadau ym Mhrydain Fawr ddyletswydd i ragweld anghenion pleidleiswyr anabl a gwneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar anfantais sylweddol i'r pleidleiswyr hynny. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau gymryd camau i ddeall a rhagweld anghenion pleidleiswyr anabl yn barhaus - gyda gwahanol fathau o anabledd, cymorth a gofynion hygyrchedd yn eu hardal fel y gallent wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd orau o ddiwallu'r anghenion hyn drwy wneud addasiadau rhesymol, gan gynnwys darparu cyfarpar a chymorth priodol. Gelwir hyn yn ddyletswydd ragweledol.  

Mae Adran 149 o'r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i roi sylw dyledus i'r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal drwy annog cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus, a fyddai'n cynnwys pleidleisio. 

Dylech gysylltu â chydweithwyr sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau bod y dyletswyddau perthnasol dan y darpariaethau hyn yn cael eu cyflawni yn ystod y gwasanaethau gwahanol a gynhelir gan eich sefydliad e.e. yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o sut i gymhwyso'r egwyddorion hyn i'ch rôl fel Swyddogion Canlyniadau ar sail barhaus.    

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi gwybodaeth am y  ddyletswydd ragweledol (Yn agor mewn ffenestr newydd) a  meini prawf ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol (Yn agor mewn ffenestr newydd), a  chanllawiau ar gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Yn agor mewn ffenestr newydd)  dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Er nad yw'r wybodaeth hon wedi'i hysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, mae'n cynnig rhywfaint o ganllawiau defnyddiol ar y canlynol: 

Dylech gymhwyso'r egwyddorion cyffredinol canlynoliii :

  • Dylai fod dadansoddiad priodol o'r holl ddeunydd perthnasol a gwerthfawrogiad o'r ddyletswydd i roi "sylw dyledus".
  • ni ddylai fod yn ymarfer "ticio bocs" ond yn hytrach dylid ei integreiddio yn y broses gwneud penderfyniadau.
  • mae'r ddyletswydd yn un barhau.
  • dylid arfer y ddyletswydd i roi sylw dyledus yn drylwyr ac â meddwl agored.
  • dylai ailystyried y ddyletswydd os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg a dylid cadw cofnodion digonol o'r prosesau ystyried a gwneud penderfyniadau a gynhaliwyd er mwyn dangos bod y dyletswyddau cydraddoldeb wedi'u cyflawni'n gydwybodol.

Deddf Gogledd Iwerddon 1998

Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i holl gyrff y llywodraeth, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rhai ag anabledd a'r rhai heb anabledd wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i ddatblygu polisïau, gweithredu polisïau a darparu gwasanaethau (yn cynnwys cynnal etholiadau). 

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, wneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar unrhyw anfantais sylweddol i bobl anabl. 

Adran 199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

Rhaid i chi, pan fyddwch chi'n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, sicrhau bod hysbysiadau etholiad yn cael eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformatau amgen. Gallwch eu cynhyrchu: 

  • mewn brailleiv  
  • mewn ieithoedd heblaw Saesneg (neu, yng Nghymru, Cymraeg a Saesneg)v  
  • yn defnyddio cynrychioliadau graffigolvi   
  • mewn fformat sainvii
  • yn defnyddio unrhyw fodd arall o wneud gwybodaeth yn hygyrchviii    

Atodlen A1 y Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

Rhaid i chi ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio posibl wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio.ix  Rhaid i'r awdurdod perthnasolx  geisio cynrychiolaethau gan y rhai sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safleoedd neu gyfleusterau ar gyfer pobl sydd â gwahanol fathau o anabledd. xi  

Mae ein canllawiau adolygu ardaloedd pleidleisio yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd hon ac yn cynnwys rhestr wirio hygyrchedd y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a gorsaf bleidleisio.

Dyletswydd i ddarparu cyfarpar a rhoi sylw i ganllawiau

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 y darpariaethau cychwynnol i gynorthwyo pleidleiswyr dall, rhai sydd â golwg rhannol ac anableddau eraill mewn gorsafoedd pleidleisio i gyfraith etholiadol y DU. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u hailadrodd ar draws gwahanol etholiadau gan lywodraeth y DU a chan senedd yr Alban a'r Senedd ar gyfer etholiadau ledled Cymru a'r Alban.  

Mae'n ofynnol i chi:

  • ddarparu pob gorsaf bleidleisio â'r cyfarpar y mae'n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi, neu ei gwneud hi'n haws i bersonauxii  perthnasol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol  
  • rhoi sylw i ganllawiau'r Comisiwn ar y cyfarpar i'w ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio.xiii  Gellir dod o hyd i'r canllawiau hyn yn -Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy'n galluogi neu'n gwneud pleidleisio'n haws i bleidleiswyr anabl 

  •  Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1, RPA  1983, rheol 38(4)(b) Atodlen 2, Senedd yr Alban (etholiadau ac ati) Gorchymyn 2015 (Gorchymyn Senedd yr Alban 2015), rheol 37(7)(b) Atodlen 5 Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobol) Gorchymyn 2025 (Gorchymyn y Senedd 2025)   

 
Mae geiriad y darpariaethau yn cydnabod yr amrywiadau yn yr hyn sydd ei angen ar bobl i allu pleidleisio, fel y gallant gael yr hawl i'r cymorth mwyaf priodol i bob un ohonynt, gan sicrhau'r cymorth, y gefnogaeth, yr arloesedd a'r hygyrchedd ehangaf posibl. Mae'r termau a ddefnyddir yn adlewyrchu mai'r ddyletswydd yw i Swyddogion Canlyniadau alluogi pleidleisio i'r rhai sy'n ei chael hi'n amhosibl, a'i gwneud hi'n haws i'r rhai sy'n ei chael hi'n bosibl ond yn anodd.  

Mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol i'r etholiadau canlynol:

  • Etholiadau Seneddol y DU
  • Etholiadau'r Senedd
  • Etholiadau Senedd yr Alban
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • Etholiadau lleol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegrxiv
  • Etholiadau maerol yn Lloegr
  • Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
  • Etholiadau cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
  • Refferenda Cynllunio Cymdogaeth
  • Refferenda Treth Gyngor

Mae'r darpariaethau hefyd yn ymestyn y rheolau ynghylch pwy all weithredu fel cydymaith i gynnwys unrhyw un sydd:  

  • dros 18 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu 
  • dros 16 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymruxv    

Nid yw'r newid hwn yn berthnasol i etholiadau Senedd yr Alban nac etholiadau lleol yr Alban, lle mae'r rheolau'n parhau sef bod yn rhaid i gydymaith fod naill ai'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, neu'n aelod agos o'r teulu (priod/partner sifil/rhiant/taid neu nain/plentyn/brawd/chwaer/ŵyr/wyres) sydd dros 16 oed. 
 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Wrth nodi a deall y rhwystrau corfforol, seicolegol a gwybodaeth y gall pobl anabl eu hwynebu wrth bleidleisio, byddwch mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i helpu i'w cynorthwyo.  

Mae rhai o'r rhwystrau a'r heriau y mae pleidleiswyr anabl yn eu hwynebu yn cynnwys: 

  • dim gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio ar gael 
  • canllawiau ysgrifenedig ddim ar gael mewn Cymraeg eglur neu fformat hawdd ei ddarllen
  • diffyg gwybodaeth am gymdeithion sy'n cynorthwyo gyda'r pleidleisio
  • diffyg gwybodaeth am y profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio sy'n achosi pryder ynghylch pethau fel: 
    • teithio i'r orsaf bleidleisio, yn enwedig os mai am y tro cyntaf ydyw
    • gallu dod o hyd i'r orsaf bleidleisio a'i defnyddio
    • gwybod beth fydd yn digwydd ar ôl cyrraedd
    • gwybod beth yw'r broses ar gyfer pleidleisio
    • y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yno ar yr un pryd
    • y posibilrwydd y bydd llawer o sŵn
    • teimlo'n cael eich rhuthro i wneud penderfyniadau'n gyflym 
    • ciwio
  • yr adeilad/orsaf bleidleisio ddim yn hygyrch - er enghraifft, os oes grisiau neu os yw'r cynllun y tu mewn yn anaddas i gadeiriau olwyn gael mynediad  
  • canllawiau mewn fformat sy'n hygyrch ddim ar gael i gynorthwyo pobl â: 
    • nam ar y golwg neu'n ddall
    • nam ar y clyw neu'n fyddar
    • dyslecsia
    • anableddau dysgu
    • nam gwybyddol
  • staff yr orsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gyfathrebu'n effeithiol
  • cymorth neu gymhorthion ategol ddim yn hygyrch neu ddim ar gael i helpu pleidleiswyr i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol
  • seddi neu drefniadau eraill ddim ar gael i gynorthwyo'r rhai na allant sefyll mewn ciw
  • staff gorsaf bleidleisio ddim yn ymwybodol o risgiau iechyd wrth ofyn i bleidleisiwr sy'n agored i niwed yn glinigol dynnu mwgwd wyneb er mwyn gwirio llun adnabod
  • staff yr orsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gynorthwyo pleidleiswyr gydag anableddau niwrowahaniaeth ac anableddau cudd i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
     

Rhwystrau ychwanegol i bobl ddall a rhai â golwg rhannol

Mae'r dull pleidleisio - rhoi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur - yn ymarfer gweledol yn bennaf. Am y rheswm hwn, mae pobl ddall a rhai â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau ychwanegol nad yw pobl eraill heb olwg rhannol yn eu hwynebu: 

  • gall diffyg cyfarpar ychwanegol neu ddigon o olau ei gwneud hi'n anodd neu'n amhosibl i bobl ddall neu rai sydd â golwg rhannol: 
    • darllen yr enwau ar y papur pleidleisio
    • rhoi marc mewn lleoliad penodol ar y papur pleidleisio 
    • gwirio eu pleidlais yn annibynnol ar ôl rhoi marc ar y papur pleidleisio
  • staff gorsaf bleidleisio ddim yn ymwybodol y gallai pobl ddall a rhai sydd â golwg rhannol brofi rhwystrau wrth lywio'r amgylchedd yr orsaf bleidleisio
  • staff yr orsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gynorthwyo pleidleiswyr dall i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Er enghraifft, ddim yn gyfarwydd â chyfarpar pleidleisio hygyrch 
  • staff gorsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gynorthwyo pleidleiswyr dall a rhai sydd â golwg rhannol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol - er enghraifft, y copi llaw o fersiwn sampl print bras o'r papur pleidleisio a'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol gywir
  • staff gorsafoedd pleidleisio heb ddigon o ymwybyddiaeth am golli golwg a heb wybod sut i ryngweithio'n briodol â rhywun sydd wedi colli eu golwg 
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Mae'r adran hon yn amlinellu'r wybodaeth i bleidleiswyr y mae'n rhaid ei darparu yn yr orsaf bleidleisio yn ogystal â rhestr o gyfarpar yr ydym yn cynghori y dylid ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i leihau neu ddileu rhwystrau hysbys a sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl i bleidleiswyr anabl.   

Mae hefyd yn tynnu sylw at gyfarpar ychwanegol pellach y gallai fod yn briodol i chi ei ddarparu mewn rhai gorsafoedd pleidleisio os ydych wedi nodi angen fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, neu os cewch eich hysbysu o anghenion penodol pleidleiswyr anabl trwy gais am addasiad rhesymol. 

Gwybodaeth i bleidleiswyr

Er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y broses bleidleisio a sut i farcio eu papur pleidleisio, rhaid i chi ddarparu: 

  • hysbysiad y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio yn rhoi canllawiau ar sut i bleidleisio yn yr etholiadxvi   
  • hysbysiad ym mhob bwth pleidleisio yn darparu gwybodaeth am sut i farcio papur pleidleisio yn yr etholiadxvii      
  • arddangos o leiaf un copi sampl mawr o'r papur pleidleisio y tu mewn i'r orsaf bleidleisioxviii  yn ddelfrydol mewn lleoliad sydd wedi'i oleuo'n dda lle gall pleidleiswyr ei weld yn hawdd cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd papurau pleidleisio sampl print bras a arddangosir yn glir yn yr orsaf yn cynorthwyo pleidleiswyr sydd â golwg rhannol a hefyd pleidleiswyr a hoffai gael rhywfaint o amser i edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i mewn i'r bwth 
  • copi llaw mwy o'r papur pleidleisio. Gellir rhoi hwn i bleidleiswyr sydd â golwg rhannol neu ar gais i unrhyw bleidleisiwr arall a fyddai'n ei chael hi'n ddefnyddiol ei gymryd i'r bwth pleidleisio i gyfeirio ato wrth farcio eu papur pleidleisio.

Rhaid i chi ystyried a yw'n briodol gwneud hysbysiadau'n fwy hygyrch i ystod ehangach o bleidleiswyrxix  drwy eu darparu mewn ieithoedd a fformatau amgen, e.e. mewn Braille, ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, mewn fformatau darluniadolxx  neu ar ffurf glywadwy.xxi  Mae Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth (Yn agor mewn ffenestr newydd) yn darparu canllawiau ar eu gwefan ynghylch gwneud cyfathrebiadau'n hygyrch. 

Yn ogystal â bodloni'r gofynion statudol gofynnol a nodir uchod, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gopïau sampl ychwanegol a chopïau mwy o adnoddau'r papurau pleidleisio ar gael yn hawdd ac yn weladwy yn yr orsaf bleidleisio - bydd eu rhoi yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr eu gweld yn hawdd.  

Cyfarpar i gynorthwyo pleidleiswyr i gymryd rhan 

Mae gennych ddyletswydd i ddarparu cyfarpar rhesymol i bob gorsaf bleidleisio er mwyn galluogi, neu ei gwneud hi'n haws i, bersonau perthnasol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.xxii  Mae gennym ddyletswydd i roi canllawiau mewn perthynas â'ch dyletswydd i ddarparu'r cyfarpar hwn.xxiii  Rhaid i chi ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eich dyletswydd i ddarparu cyfarpar priodol ond yn y pen draw, chi fel Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu ar y trefniadau a'r cyfarpar sy'n rhesymol i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl ar draws eich ardal fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Nod y canllawiau hyn yw eich cynorthwyo drwy dynnu sylw at y mathau o gyfarpar a allai helpu i gael gwared ar rwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. Gall ffactorau sy'n unigryw i'ch ardal leol - sy'n ymwneud â maint a graddfa gorsafoedd pleidleisio, neu ofynion penodol eich etholwyr lleol rydych wedi eu nodi fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, lunio'r dull y byddwch yn penderfynu ei gymryd. 
 

Mae yna amrywiol ffyrdd y gallwch chi adeiladu'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o gyfarpar a allai fod yn briodol i'w ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol i gynorthwyo pleidleiswyr ag anableddau gwahanol yn rhagweithiol. Dylech ystyried: 

  • ymgysylltu'n rhagweithiol â grwpiau cymunedol yn eich ardal
  • defnyddio data o fewn eich awdurdod lleol a'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lle mae pleidleiswyr anabl eisoes wedi'u nodi, neu wedi gwneud ceisiadau blaenorol am addasiadau rhesymol sy'n eich galluogi i gysylltu â nhw'n rhagweithiol ynglŷn â'u profiad pleidleisio
  • gweithio gyda ymddiriedolaethau GIG lleol a sefydliadau trydydd sector i gael cyngor arferion da ar gynorthwyo pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a defnyddio eu rhwydweithiau i gasglu gwybodaeth am brofiadau byw a hyrwyddo gwybodaeth am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio. 
  • adborth rydych wedi'i dderbyn gan bleidleiswyr neu staff gorsafoedd pleidleisio yn dilyn etholiad 

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth hon i adolygu'r cyfarpar rydych chi'n ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer etholiadau ac yn eich adolygiadau ôl-etholiad. 

Dylid ystyried penderfyniadau ynghylch cyfarpar priodol yn ofalus, yn dryloyw ac yn rheolaidd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynGwneud penderfyniadau ynghylch darparu gwybodaeth a chymorth ychwanegol i bleidleiswyr. 

Dylech geisio cyngor gan yr adran lywodraeth berthnasol (yn dibynnu ar y math o etholiad) ynghylch a oes unrhyw drefniadau ariannu ar gael.  
 

Isafswm y cyfarpar i'w ddarparu

Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau rydym wedi nodi ystod o gyfarpar allai helpu i oresgyn y rhwystrau hysbys sy'n wynebu pobl anabl. Mae llawer o'r eitemau hyn ar gael ar unrhyw adeg am gost gyfyngedig a gallant gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar brofiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio.  

Dylid darparu'r isafswm canlynol o gyfarpar ym mhob gorsaf bleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl:  

  • cadeiriau/seddi – mae hyn yn darparu lle i bleidleiswyr na allant sefyll am gyfnodau hir orffwys a sedd i bleidleiswyr a hoffai gymryd peth amser i feddwl cyn mynd i mewn i'r bwth pleidleisio 
  • chwyddwydrau – gall y rhain ddarparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i bleidleisio'n annibynnol drwy gynyddu maint y testun ar ddogfen. Bydd cryfder y chwyddwydr sydd ei angen yn amrywio yn dibynnu ar faint mae'r pleidleisiwr yn ei weld. Efallai y bydd angen i chi ddarparu chwyddwydrau â mwy nag un cryfder yn dibynnu ar anghenion y pleidleiswyr mewn gorsaf bleidleisio benodol
  • dyfais bleidleisio gyffyrddol – mae dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol yn darparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir, ar yr amod ei fod wedi'i osod ar y papur pleidleisio'n gywir. Maent yn darparu cymorth i gwblhau'r papur pleidleisio unwaith y bydd pleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg yn gwybod safle'r ymgeisydd y maent am bleidleisio drosto ar y papur pleidleisio. Nid ydynt yn caniatáu i bleidleiswyr dall bleidleisio'n annibynnol oni bai bod ganddynt wybodaeth hygyrch hefyd am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio, er enghraifft fersiwn sain neu braille o'r papur pleidleisio
  • bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn – yn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn yn gallu defnyddio arwyneb ysgrifennu is i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth sy'n hygyrch
  • bathodynnau sy'n nodi staff gorsaf bleidleisio –mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i adnabod yn haws pwy sy'n aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio ac felly gellir cysylltu â nhw am gymorth. Gellir teilwra'r math o fathodyn a'r testun a ddefnyddir i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol unigol. Er enghraifft, gallech roi bathodyn i staff gorsafoedd pleidleisio sy'n nodi eu henw cyntaf ac yn egluro eu rôl a'u bod yn hapus i helpu 
  • gafael pensil – gall y rhain helpu pleidleiswyr â nam ar eu medrusrwydd i'w gwneud hi'n haws i ddal a defnyddio pensil yn annibynnol
  • rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau) – mae'r rhain yn cynorthwyo mynediad i orsaf bleidleisio i bleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sy'n cael anhawster defnyddio grisiau
  • rhybuddwyr dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân) – mae'r rhain yn darparu ffordd i bleidleiswyr roi gwybod i staff gorsafoedd pleidleisio fod angen cymorth arnynt i agor y drws fel y gallant ddefnyddio'r orsaf bleidleisio. Nid oes angen gosod y rhain yn barhaol na'u gosod mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio ond gellir eu gosod dros dro ar lefel hygyrch ar fwrdd neu gadair wrth ymyl unrhyw ddrysau y mae'n rhaid iddynt aros ar gau
  • goleuadau priodol – mae gan rai lleoliadau gorsafoedd pleidleisio oleuadau da ond efallai y bydd angen goleuadau ychwanegol ar eraill wrth y ddesg; i sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau staff yn glir, ac yn y bythau pleidleisio; i gynorthwyo pleidleiswyr â nam ar eu golwg i allu darllen a chwblhau'r papur pleidleisio 
  • mannau parcio wedi'u cadw ar gyfer pleidleiswyr anabl (lle mae parcio ar gael yn y lleoliad) – mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos â phosibl at yr orsaf bleidleisio

Nid ydych wedi'ch cyfyngu i ddarparu'r cyfarpar a ddangosir yn y rhestr uchod yn unig, ac ni ddylech leihau na chael gwared ar unrhyw gyfarpar rydych wedi'i ddarparu o'r blaen i gynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal. 

Cyfarpar ychwanegol a allai gynorthwyo pleidleiswyr anabl
 

Bydd eich gwaith i ddeall anghenion pleidleiswyr yn eich ardal yn bwysig i'ch helpu i nodi cyfarpar pellach y mae'n briodol ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol a fyddai'n galluogi neu'n ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Mae enghreifftiau o gyfarpar neu gymorth arall y gallech ei ddarparu yn cynnwys:  

  • dolen anwythol clyw – mae'r rhain yn darparu cymorth i bleidleiswyr sy'n gwisgo cymhorthion clyw i gyfathrebu yn yr orsaf bleidleisio. Mae gan rai adeiladau ddolen anwythol wedi'i gosod yn arferol, ac os felly dylech ei defnyddio, a lle nad oes un ar gael yna gellir defnyddio dolen glyw gludadwy.  
  • datrysiadau sain – mae'r rhain yn fecanweithiau sy'n galluogi pleidleiswyr i wrando ar restrau ymgeiswyr, fel llinellau cymorth, neu fanylion papurau pleidleisio wedi'u recordio ymlaen llaw y gellir eu defnyddio drwy god QR, naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu ymlaen llaw. Gellir defnyddio'r rhain ynghyd â'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol neu ddyfeisiau eraill, i alluogi pleidleiswyr dall a rhai sydd â golwg rhannol i farcio eu papur pleidleisio yn annibynnol. Mae datrysiadau sain/cyffyrddol cyfun hefyd ar gael a gellir eu darparu.
  • gwybodaeth ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen - mae hawdd ei ddarllen yn cyfeirio at gyflwyno testun mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddeall. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu a gall hefyd fod o fudd i bobl â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar sut maen nhw'n prosesu gwybodaeth.
  • gwybodaeth ar gael mewn fformatau print bras - Diffinnir print bras fel print bras 16pt Arial neu fwy ac mae'n cydymffurfio â chanllawiau print clir ynghylch cynllun, defnyddio ffontiau a delweddau. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bleidleiswyr sydd â nam ar y golwg a gall hefyd fod o fudd i bleidleiswyr hŷn, pleidleiswyr dyslecsig a phleidleiswyr sydd â dementia. 
  • cymorth i etholwyr sy'n agored i niwed yn glinigol - ochr yn ochr â chynyddu awyru'r ystafell, darparu masgiau wyneb a chadw pellter cymdeithasol wrth ryngweithio â phleidleiswyr sy'n agored i niwed yn glinigol, dylech ystyried sut y gallwch gynnig cynnal gwiriadau adnabod llun y tu allan i'r pleidleiswyr hyn os oes angen ar gyfer eich etholiad.

    Dylai'r cyfarpar a'r adnoddau a ddarperwch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fod yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir fel y gellir eu hadnabod a'u defnyddio'n hawdd.  
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Fel Swyddog Canlyniadau, dylech ddefnyddio data lleol sydd ar gael yn rhagweithiol i lywio eich penderfyniadau ynghylch y cymorth a'r cyfarpar ychwanegol a ddarparwch mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr dall, sydd â golwg rhannol neu anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Ceir rhagor o wybodaeth am gael yr hawl i ddata a gedwir gan eich awdurdod lleol am drigolion anabl a'i ddefnyddio yn ein canllawiau ar Rannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl. 

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn derbyn ceisiadau am ddarparu cymorth neu gyfarpar ychwanegol, y tu hwnt i'r rhai sydd gennych eisoes neu yr ydych yn bwriadu eu rhoi ar waith.  

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael gwybod gan bleidleisiwr â math penodol o nam eu bod yn parhau i fod dan anfantais sylweddol (h.y. anfantais sy'n fwy na bach neu ddibwys) er gwaethaf eich addasiadau, gan fod ganddynt anghenion ychwanegol.  

Mewn achosion o'r fath, fel rhan o'ch dyletswydd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 rhaid i chi ystyried y cais a phenderfynu a yw'n rhesymol darparu cymorth a/neu gyfarpar ychwanegol i gael gwared ar yr anfantais sylweddol y mae'r pleidleiswyr wedi'i nodi a'i dwyn i'ch sylw. Nid oes proses benodol yn y gyfraith ar gyfer sut y byddwch yn penderfynu pa gyfarpar sy'n rhesymol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi cyngor ynghylch gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle (Yn agor mewn ffenestr newydd).  Er nad yw wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, gall fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu a yw'n rhesymol gwneud addasiad.   

Rhaid ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau a gyda'r bwriad o barhau i gynorthwyo hawl pob pleidleisiwr i allu bwrw ei bleidlais. Wrth wneud eich penderfyniad ynghylch a yw'n rhesymol gwneud addasiad, mae yna ystod o ffactorau y dylech eu hystyried, yn cynnwys:

  • a fydd darparu'r cymorth neu'r cyfarpar ychwanegol y gofynnwyd amdano yn galluogi neu'n gwneud pleidleisio'n haws i bleidleiswyr anabl? 
  • eich gallu i ddarparu'r cymorth ychwanegol. Er enghraifft:
    • a yw'r cyfarpar ar gael ar unrhyw adeg i'w brynu, ei fenthyg neu ei logi?
    • a yw'r goblygiadau cost yn rhesymol? 
    • a oes unrhyw ddewisiadau amgen mwy cost-effeithiol neu sydd ar gael ar unrhyw adeg?
    • a yw'r cyfarpar yn ddefnydd sengl neu a ellir ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau yn y dyfodol?
  • a yw'r cyfarpar y gofynnwyd amdano yn gludadwy ac a ellir ei drosglwyddo i orsaf bleidleisio arall os oes angen (er enghraifft, oherwydd newid gorsaf bleidleisio munud olaf)?
  • a oes unrhyw oblygiadau hyfforddi i'w hystyried er mwyn i staff ddarparu'r cymorth sydd ei angen neu i gynorthwyo gyda defnyddio'r cyfarpar?
  • a ydych chi wedi ymgysylltu ag unigolion yn eich awdurdod lleol sydd ag arbenigedd mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael cyngor?

Nid oes gofyn i chi ganiatáu pob cais am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, ond rhaid i chi allu dangos eich bod wedi cyflawni eich dyletswydd ragweld dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac wedi rhoi ystyriaeth briodol i bob cais gan ddefnyddio meini prawf teg a chyson. Dylech hefyd gadw digon o wybodaeth am geisiadau at ddibenion cynllunio yn y dyfodol ac i'ch galluogi i adolygu effeithiolrwydd eich darpariaeth ar gyfer pleidleiswyr anabl.  

Dylech benderfynu sut y byddwch yn hysbysu pleidleisiwr am ganlyniad eich penderfyniad, yn enwedig os nad ydych wedi gallu bodloni eu cais ond eich bod yn gallu cynnig opsiynau eraill. Dylech hefyd roi rhagor o wybodaeth iddynt am y cyfarpar a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio i sicrhau eu bod yn cynnig cymorth i'r pleidleisiwr yn rhagweithiol.  

Dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw benderfyniadau a wnewch fod yn destun her gyfreithiol.  

Cadw gwybodaeth pan gysylltir â chi gan bleidleisiwr anabl am gymorth neu gyfarpar ychwanegol

Pan gysylltir â chi gan bleidleisiwr anabl yn gofyn am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, efallai y byddwch yn derbyn data categori arbennig sensitif am yr unigolyn hwnnw a'i anghenion penodol. Ystyrir chi yn rheolwr data ar gyfer y data sensitif hwn a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rheoli prosesu'r data hwnnw yn unol â gofynion diogelu data, yn cynnwys sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o sut y bydd ei ddata yn cael ei brosesu.  

Dylech gymryd cyngor gan eich Swyddog Diogelu Data ynghylch beth i'w wneud â'r data ar ôl ei brosesu ac a oes angen i chi ddiweddaru unrhyw hysbysiadau preifatrwydd perthnasol. Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am reoli data categori arbennig. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Er mwyn helpu i sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael yr hawl cyfartal i bleidleisio ac yn derbyn cymorth priodol, mae'n bwysig bod pawb sy'n gweithio i gynnal etholiad neu ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr yn ymwybodol o anghenion pobl anabl a'ch dyletswydd i ragweld a gwneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo pleidleiswyr anabl.  

Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth hygyrchedd i'r holl staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, yn cynnwys staff sy'n cynorthwyo gwasanaethau etholiadol, i helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.   

Gan weithio gyda phartneriaid allanol, rydym wedi datblygu adnoddau a allai helpu eich staff i ddeall y rhwystrau i bleidleisio a phrofiadau pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio, yn cynnwys: 

Gallwch gael cyngor gan eich swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant neu'ch adran Adnoddau Dynol ar hyfforddiant ymwybyddiaeth hygyrchedd arall y gallech ei gael. Mae cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb hefyd ar gael gan amrywiol sefydliadau trydydd sector y gallech eu defnyddio i feithrin gwybodaeth o fewn eich tîm ar sut i gynorthwyo gwahanol anableddau. 

Dylai staff hefyd gael gwybod am yr adnoddau sydd gennym ar gael ar ein  gwefana'n  sianel YouTube (Yn agor mewn ffenestr newydd)  i gynorthwyo pobl anabl sydd â namau penodol i helpu gyda dealltwriaeth ynghylch pleidleisio a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. Am ragor o wybodaeth a diweddariadau am yr adnoddau a grëwn, gallwch danysgrifio i Roll Call, ein cylchlythyr cofrestru pleidleiswyr a'ch canllaw i gynorthwyo cofrestru a chyfranogiad pleidleiswyr.

Yn ogystal, gallech feddwl am ddod o hyd i, neu ddatblygu, adnoddau bytholwyrdd nad ydynt yn benodol i etholiadau ac felly y gellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn dros sawl blwyddyn mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil sy'n eiriol dros ac yn cynorthwyo eu rhanddeiliaid ar faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd pleidleisio.  

Hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo hygyrchedd

Mae hefyd yn hanfodol bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn mynd i'r afael â phwysigrwydd bod yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a pha gamau y dylent eu cymryd i'w cynorthwyo.   

Mae gweithgareddau ac ymddygiadau staff gorsafoedd pleidleisio yn allweddol i wneud profiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio yn un cadarnhaol. Gall pethau syml fel sicrhau bod holl staff gorsafoedd pleidleisio yn ymwybodol o'r cyfarpar a'r gefnogaeth sydd ar gael a chynnig cymorth yn rhagweithiol a gwrando ar gwestiynau pleidleiswyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth gyffredinol o anghenion hygyrchedd, mae'n bwysig bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn cwmpasu: 

  • y rhywstrau sy'n wynebu pleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio a sut y gallai staff gorsafoedd pleidleisio helpu i'w lleihau  
  • ymwybyddiaeth nad oes dim rhwystrau cyfreithiol i atal pobl anabl rhag pleidleisio, yn cynnwys pleidleiswyr gydag unrhyw anableddau dysgu neu nam gwybyddol
  • ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weledol neu'n amlwg, ac na ddylai staff gorsafoedd pleidleisio wneud rhagdybiaethau ynghylch pa gyfarpar allai fod ei angen ar bleidleiswyr
  • pwysigrwydd ystyried anghenion y person, nid anabledd penodol
  • ymwybyddiaeth y gallai rhai pleidleiswyr fod â mwy nag un nam - er enghraifft, nam ar y golwg a dementia  
  • pwysigrwydd amgylchedd proffesiynol a chroesawgar gyda:
    • chyfathrebu clir ynghylch y broses bleidleisio, a
    • chyfathrebu clir bod cymorth ar gael os oes angen  
  • ymwybyddiaeth o'r cyfarpar a ddarperir yn yr orsaf bleidleisio i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a sut i'w ddefnyddio. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cyfarpar y gallai staff gorsafoedd pleidleisio fod yn llai cyfarwydd ag ef, fel dolenni clyw neu ddatrysiadau sain
  • pwysigrwydd sicrhau bod unrhyw gyfarpar o'r fath a ddarperir yn cael ei arddangos yn glir ac ar gael i bleidleiswyr ei ddefnyddio
  • ymwybyddiaeth y gall cydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w cynorthwyo ar ôl iddynt gwblhau'r datganiad. Gall hyn fod yn unrhyw un: 
    • dros 18 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu 
    • dros 16 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd, Senedd yr Alban a llywodraeth leol yng Nghymru a'r Alban 
  • Yn yr Alban, rhaid i'r cydymaith hefyd allu pleidleisio yn yr etholiad hwnnw neu fod yn berthynas agos i'r pleidleisiwr. 
  • ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr anabl gael anifail cymorth gyda nhw ac na ddylid atal anifeiliaid cymorth rhag mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio 
  • ymwybyddiaeth y gallai pleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg ddefnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu gario cyfarpar cynorthwyol maint poced, fel chwyddwyr fideo, i'w helpu i ddarllen dogfennau yn yr orsaf bleidleisio neu ar y cyd â dyfais bleidleisio gyffyrddol
  • ymwybyddiaeth bod y defnydd o apiau testun i leferydd yn dderbyniol i'w defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio
  • ymwybyddiaeth o ddulliau amgen o gyfathrebu y gallai pleidleiswyr ei ddefnyddio megis Makaton ac Iaith Arwyddion Prydain (IAP)
  • ymwybyddiaeth bod gan rai pleidleiswyr gyflyrau iechyd sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wisgo masgiau wyneb i leihau ffactorau risg feirysol mewn mannau cyhoeddus a sut y byddech chi'n mynd ati i reoli unrhyw wiriadau adnabod llun os oes angen ar gyfer eich etholiad

Yn ein canllawiau craidd ar gyfer  Swyddogion Canlyniadau ar gyfer pob math o etholiad, rydym yn cysylltu ag adnoddau ar gyfer hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio sy'n cynnwys gwybodaeth am rôl staff gorsafoedd pleidleisio wrth sicrhau bod pleidleisio'n hygyrch a'r cyfarpar sydd ar gael i gynorthwyo pleidleiswyr anabl ar hygyrchedd y dylech dynnu sylw atynt wrth friffio staff gorsafoedd pleidleisio. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Mae'r adran hon o'r canllawiau yn ymdrin â'r camau y gallwch eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. 

Mae'n bwysig bod gennych strategaeth gyfathrebu glir i helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae rhai pleidleiswyr yn eu hwynebu, yn ogystal â sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w galluogi neu ei gwneud hi'n haws iddynt bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.  

Mae hyn yr un mor bwysig ar gyfer isetholiadau neu bleidleisiau heb eu trefnu, a allai ddigwydd ar fyr rybudd, ag ydyw ar gyfer etholiadau wedi'u hamserlennu. Mae'n bwysig eich bod yn meddwl am amseriad cyfathrebu â phleidleiswyr i sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i ystyried pa gyfarpar a chymorth y gallent fod eu hangen a gwneud unrhyw geisiadau am addasiadau rhesymol mewn da bryd cyn pleidleisio.  

Dylech ddiweddaru eich strategaeth ymwybyddiaeth gyhoeddus drwy nodi sut a phryd y byddwch yn: 

  • nodi a chyfathrebu â phartneriaid a sefydliadau anabledd i ystyried cyfleoedd i gydweithio i godi ymwybyddiaeth
  • hyrwyddo a rhannu gwybodaeth â phleidleiswyr anabl am y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a'r cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael
  • sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, yn cynnwys fersiynau print i gynorthwyo'r rhai na allent gael gwybodaeth yn ddigidol, a fformatau amgen y gellir eu rhannu drwy bartneriaid perthnasol ac mewn canolfannau cymunedol lleol neu lyfrgelloedd. Dylai gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan eich Awdurdod Lleol gydymffurfio â gofynion hygyrchedd gwe ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus.
  • gofyn am adborth ar y cymorth a'r cyfarpar a ddarperir - er enghraifft, drwy wahodd sylwadau'n rhagweithiol drwy eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol, neu drwy sefydliadau partner

I'ch cynorthwyo i gynllunio a datblygu gweithgaredd ymwybyddiaeth gyhoeddus mae gennym ystod o adnoddau i chi a sefydliadau eraill eu defnyddio i hyrwyddo mynediad i etholiadau. Byddwn yn ceisio adeiladu ar yr adnoddau hyn o flwyddyn i flwyddyn fel rhan o'n gwaith gwerthuso a gwella parhaus. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Gall rhannu'n uniongyrchol â thrigolion anabl fod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu rhagor am y mathau o ddarpariaeth sydd ei hangen ar bleidleiswyr anabl fel rhan o'ch dyletswydd ragweld dan y Ddeddf Cydraddoldeb. 

Mae ymgysylltu ag etholwyr yn gynnar yn y cyfnod cyn etholiad yn gyfle i ddarparu gwybodaeth am y math o gymorth y gellid ei roi i'w cynorthwyo i gymryd rhan mewn etholiadau. Bydd ymgysylltu cynnar yn rhoi mwy o amser i chi ofyn am eu fformat dewisol ar gyfer cyfathrebu hygyrch, deall pa gymorth a allai eu helpu i bleidleisio ac i ystyried unrhyw geisiadau. Mae meddwl am wahanol ddulliau o ymgysylltu a fformatau gwybodaeth yn arbennig o fuddiol i bobl ddall, pobl â golwg rhannol neu bobl hŷn sy'n fwy tebygol o gael eu heithrio'n ddigidol.  

Dylech ystyried sut y gallwch weithio gydag eraill ar draws eich awdurdod lleol a allai eich cynorthwyo i nodi etholwyr anabl yn eich ardal. Dylech roi cytundebau rhannu data priodol ar waith ar gyfer cael yr hawl i ddata perthnasol am bleidleiswyr a gedwir gan eich awdurdod lleol, a allai hefyd gynnwys gwybodaeth a gesglir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, i'ch galluogi i gyfathrebu â nhw'n uniongyrchol ac yn eu fformat dewisol.   

Dylai eich gwaith ar ymgysylltu cyn yr etholiad a sicrhau bod gennych fynediad at ddata cyfredol gael ei gynnwys yn eich prosiect etholiad a'ch cynlluniau rhannu gwybodaeth.

Ffynonellau data 

Un math o set ddata leol a all eich helpu yw eich cofrestr colli golwg leol. Mae hon yn rhestru pobl yn yr ardal leol sydd â thystysgrif nam ar y golwg.  

Yn Lloegr, dan y Ddeddf Gofal 2014, gall yr awdurdod lleol ddefnyddio cofrestri colli golwg i sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau ar gael i'r person hwnnw, er enghraifft i ofyn a ellid rhoi cymorth i'w cynorthwyo i gymryd rhan mewn digwyddiadau etholiadol.xxiv  Gall yr hawl sydd gennych i'r wybodaeth hon amrywio yn dibynnu a ydych wedi cael eich penodi gan awdurdod dosbarth neu unedol.  

Yng Nghymru a'r Alban gallwch gysylltu â'r adrannau gofal cymdeithasol oedolion perthnasol ac yng Ngogledd Iwerddon, yr Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol, i gael cyngor ar sut y gallwch gael yr hawl i wybodaeth o'r cofrestri colli golwg a gedwir ganddynt. 


Gall defnyddio data lleol yn rhagweithiol drwy geisio gwybodaeth o'r gofrestr colli golwg neu drwy ddefnyddio adnodd fel yr  offeryn data colli golwg (Yn agor mewn ffenestr newydd)a ddarperir gan yr RNIB eich helpu i ddarganfod faint o etholwyr yn eich ardal sydd wedi'u heffeithio gan golli golwg. Gall gwybod mwy am nifer yr etholwyr yr effeithir arnynt eich helpu i: 

  • ragweld anghenion pobl ddall a rhai â golwg rhannol yn eich ardal er enghraifft, sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon yn y fformatau y mae unigolion yn eu dewis gan eu galluogi i gael yr hawl i'r wybodaeth arnynt yn annibynnol
  • cydymffurfio â'ch dyletswydd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo unigolion ar y gofrestr i gymryd rhan mewn etholiadau
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Mae yna amrywiaeth o ffyrdd y gallwch ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. Gall y gwaith rhannu gwybodaeth a wnewch helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau hysbys i bleidleiswyr anabl a gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w helpu i gymryd rhan yn hyderus. 

Rydym wedi comisiynu, neu gymeradwyo, amrywiaeth o adnoddau a grëwyd ar y cyd gan elusennau anabledd gan gynnwys United Response, y Royal National Institute for Deaf People a’r Royal National Institute of Blind People, gyda phleidleiswyr anabl.  Gallwch ddefnyddio'r rhain i hyrwyddo gwybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a pha gymorth sydd ar gael i bleidleiswyr anabl, yn ogystal â gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio a'r gofynion Adnabod Llun Pleidleiswyr.  Byddwn yn ceisio adeiladu ar yr adnoddau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn fel rhan o'n gwaith gwerthuso a gwella parhaus. 

Darparu gwybodaeth am leoliad gorsafoedd pleidleisio 

Mae adborth gan sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl yn nodi bod rhai pleidleiswyr yn ei chael hi'n anodd cael yr hawl i wybodaeth am leoliadau gorsafoedd pleidleisio. Rydym yn darparu teclyn chwilio cod post ar ein  gwefan.

Er mwyn cynyddu gwelededd y wybodaeth hon, dylech hyrwyddo'r teclyn chwilio cod post gymaint â phosibl. Er enghraifft, gallech fewnosod yr offeryn ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r wybodaeth rydyn ni wedi'i darparu yma, neu ychwanegu dolen at ein gwefan ni. Gallech hefyd rannu'r ddolen gyda rhwydweithiau mewnol presennol neu sefydliadau allanol rydych chi'n gweithio gyda nhw a'u hannog i'w rhannu gyda'u rhanddeiliaid. Yn ogystal, gallech gynnwys y ddolen ar yr hysbysiad o sefyllfa gorsafoedd pleidleisio. Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach arnoch i ddefnyddio'r offeryn chwilio, cysylltwch â'ch tîm Comisiwn lleol

Darparu gwybodaeth ymlaen llaw am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio

Er mwyn helpu i oresgyn pryderon a phryder ynghylch sut beth fydd pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei harddangos ar fyrddau hysbysiadau cyhoeddus, gallech ddarparu tudalen bwrpasol ar eich gwefan sydd â chynnwys i helpu pleidleiswyr sydd eisiau gwybod mwy am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, neu ddarparu manylion i sefydliadau eraill sydd â rôl wrth gyhoeddi'r wybodaeth hon.  

Dylai eich cynllun rhannu gwybodaeth gynnwys sut y byddwch yn hyrwyddo argaeledd y wybodaeth hon.  

Gallech hefyd gael gwybodaeth wedi'i hargraffu ar gael i bleidleiswyr ei darllen wrth fynedfa'r orsaf bleidleisio, gyda chodau QR i wybodaeth berthnasol ar y we, ar gyfer pleidleiswyr a allai elwa o sicrwydd ac atgoffa wrth iddynt fynd i mewn i'r lleoliad.

Gallech ddarparu: 

  • gwybodaeth am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio yn cynnwys:
    • ymwybyddiaeth o bwy all weithredu fel cydymaith ac, os ydynt wedi cwblhau'r ffurflen, y gall y cydymaith fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w cynorthwyo
    • y gall Swyddog Canlyniadau helpu pleidleisiwr
    • y math o gyfarpar fydd ar gael a sut i wneud cais am gyfarpar ychwanegol i ddiwallu angen penodol 
  • gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn cynnwys:
    • dolenni i fideos ynghylch pleidleisio mewn IAP a Makaton 
    • fideos canllawiau hawdd i bleidleisio gan Mencap 
    • pryd y bydd yr orsaf yn debygol o fod yn brysur a phryd y bydd yn debygol o fod yn dawel
    • argaeledd lle tawel

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth ar gyfer pleidleiswyr ynghylch y broses bleidleisio ar ein gwefan y gallwch gyfeirio pleidleiswyr atynt drwy ddolen ar eich tudalennau gwe. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r gyfres hon o adnoddau, gan gynnwys adnoddau am, gyflwyno gwybodaeth am bleidleisio mewn ffordd hygyrch, i'ch helpu i ddatblygu eich cynnwys gwe hygyrch eich hun i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth gyda phleidleiswyr.  

Cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar gardiau pleidleisio a gwneud y wybodaeth yn hygyrch

Er bod y cynnwys y mae'n rhaid ei gynnwys ar gardiau pleidleisio wedi'i ragnodi mewn deddfwriaeth, gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth bellach yr ydych yn credu sy'n briodol.xxv

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 newidiadau eraill i'r broses etholiadol ar gyfer etholiadau lle mae'n ofynnol cael llun adnabod pleidleiswyr a'r angen i gyfleu hynny i bleidleiswyr cyn y bleidlais.  O ganlyniad, mae llawer o Swyddogion Canlyniadau bellach yn cynhyrchu'r cerdyn pleidleisio ar ffurf llythyr er mwyn galluogi'r wybodaeth berthnasol i gael ei chynnwys.  

Mae defnyddio fformat gwahanol ar gyfer y cerdyn pleidleisio hefyd yn rhoi cyfle i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol i bleidleiswyr am eu gorsaf bleidleisio a hygyrchedd y broses bleidleisio.  

Gallech gynnwys dolen i dudalen we hygyrch neu ddarparu cod QR ar lythyr y cerdyn pleidleisio sy'n mynd â'r pleidleisiwr yn uniongyrchol i dudalen we sy'n darparu gwybodaeth am y broses bleidleisio neu'r cyfarpar a fydd ar gael. 

Gan fod rhai pleidleiswyr yn gweld y wybodaeth a ddarperir ar y cerdyn pleidleisio yn anhygyrch, dylech hefyd feddwl am sut y gallwch wneud y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y cerdyn pleidleisio yn fwy hygyrch drwy ei chyhoeddi mewn ffordd arall hefyd. 

Er enghraifft, fe allech:

  • roi gwybodaeth y cerdyn pleidleisio ar eich gwefan mewn fformat hygyrch, sy'n gydnaws â darllenwyr sgrin
  • sicrhau bod fersiynau hawdd eu darllen neu brint bras ar gael ar gais, a chyhoeddi hyn drwy'r cerdyn pleidleisio ei hun ac ar eich gwefan
  • anfon cerdyn pleidleisio a gwybodaeth arall yn uniongyrchol at etholwr yn eu fformat dewisol yn ogystal â thrwy'r post, er enghraifft os ydych chi'n gwybod bod arnynt angen cael y wybodaeth yn electronig mewn fformat hygyrch

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio data lleol yn rhagweithiol i gysylltu ag unigolion am eu fformatau dewisol ar gyfer cardiau pleidleisio yn  Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl 

Gallai anfon y wybodaeth ychwanegol hyn hefyd roi cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd ar ddiwrnod y pleidleisio, beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a'r cyfarpar a fydd ar gael.  

Darparu papurau pleidleisio hygyrch

Efallai y bydd rhai pleidleiswyr yn ei chael hi'n ddefnyddiol edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i'r orsaf bleidleisio i'w helpu i baratoi ar gyfer y broses bleidleisio.  

Fe allech chi ddarparu papurau pleidleisio sampl ar eich gwefan i gynorthwyo hyn, a sicrhau bod unrhyw rai a ddarparwch yn hygyrch i etholwyr sy'n defnyddio darllenwyr sgrin.  

Gallech hefyd ddarparu cynnwys papurau pleidleisio mewn fformatau sain naill ai fel dolenni i ffeiliau sain ar eich gwefan neu fel negeseuon wedi'u recordio drwy linellau ffôn pwrpasol.  

Darparu gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantau hygyrch mewn gorsafoedd pleidleisio

Dylech gynnwys gwybodaeth yn y briffiau a ddarparwch i ymgeiswyr ac asiantau am y gefnogaeth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio yn ogystal â sut i wneud cais. Gall ymgeiswyr ac asiantau adnabod pleidleiswyr unigol sydd angen cymorth neu gyfarpar penodol a gallant helpu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt a sut y gallant ei gael. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Efallai bod gennych berthnasoedd presennol gyda rhwydweithiau o grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil. Os nad oes gennych y perthnasoedd hyn, efallai y bydd angen i chi weithio gydag eraill sydd â pherthnasoedd, er enghraifft:

  • timau ar draws eich awdurdod lleol a allai fod â chysylltiad â phobl anabl
  • darparwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a chanolfannau dydd 
  • swyddogion cydraddoldeb
  • timau cyfathrebu
  • swyddogion tai
  • swyddogion partneriaeth/Ymgysylltu â'r Gymuned
  • Cynghorau Gwirfoddol Sirol/Grwpiau Pobl yn Gyntaf (Cymru)

Gall sefydlu perthnasoedd â grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n weithgar yn eich ardal leol fod o fudd gan y gallant eich cynghori ar gamau penodol y gallwch eu cymryd i wella hygyrchedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai lleoliadau. Gallant hefyd roi cyngor ar y mathau a'r dulliau rhannu gwybodaeth y dylech eu defnyddio i hyrwyddo'r cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio yn ogystal â gwybodaeth am etholiadau yn fwy cyffredinol.  

Er y gallai dulliau cyfathrebu digidol fod yn well gan rai pobl anabl, gall ffurfiau ffisegol o wybodaeth fel taflenni neu bosteri fod yn fwy hygyrch i eraill, fel pobl hŷn sy'n fwy tebygol o gael eu heithrio'n ddigidol. Byddai trafod hyn gyda grwpiau lleol yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r ystyriaethau ar gyfer eich cynllun rhannu gwybodaeth.  

Efallai y bydd rhai timau yn eich awdurdod lleol neu sefydliadau lleol eraill hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch sut i benderfynu a ddylid darparu unrhyw gyfarpar neilltuol mewn gorsafoedd pleidleisio penodol i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio. Efallai y bydd ganddynt hefyd yr hawl i gyfarpar arbenigol a allai fod o fudd i bleidleiswyr anabl lleol sydd ag anableddau ac anghenion penodol y gallech eu benthyg neu eu llogi. Efallai y bydd sefydliadau a phartneriaid lleol hefyd yn gallu eich cynghori ar y mathau o adnoddau neu gefnogaeth y gallech eu darparu i leihau rhwystrau i bleidleisio i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025

Ar ôl pob etholiad, dylech werthuso'r cyfarpar a'r cymorth a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio a sut y gwnaethoch gyfathrebu â phleidleiswyr ynghylch eu hanghenion a'r hyn y gallent ei ddisgwyl. I helpu gyda'ch gweithgareddau gwerthuso, rydym wedi darparu arolwg templed i'w ddefnyddio gyda phleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio a oedd angen cymorth ychwanegol wrth bleidleisio. Gellir defnyddio'r arolwg i gasglu eu hadborth ar eu profiad o bleidleisio a'r cymorth a oedd ar gael. 

Dylech wahodd adborth gan bleidleiswyr a grwpiau hygyrchedd ar eu profiad o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, am yr hyn a weithiodd yn dda a'r hyn na weithiodd, i helpu i lywio'r hyn a wnewch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn etholiadau yn y dyfodol. 

Mae mecanweithiau y gallech eu defnyddio i gasglu adborth yn cynnwys: 

  • darparu arolwg hawdd ei ddarllen yn yr orsaf bleidleisio am y profiad pleidleisio
  • gwahodd pleidleiswyr a sefydliadau partneriaeth i fynychu grwpiau ffocws i drafod eu profiadau o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
  • gwahodd staff yr orsaf bleidleisio i drafod eu profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio lle darparwyd cyfarpar penodol, sut y gwnaethon nhw ddelio ag unrhyw sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod, a'u hadborth ar yr hyfforddiant a gawsant 
  • adolygu unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a ddychwelwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
  • monitro'r defnydd o'r cyfarpar a ddarparwch mewn gorsafoedd pleidleisio drwy ofyn i staff yr orsaf bleidleisio gadw cofnod yn llyfr log yr orsaf bleidleisio neu drwy arolygon neu adborth ar ôl yr etholiad
  • adolygu'r ffordd y gwnaethoch chi ymdrin â'ch dyletswyddau dan y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gyda chydweithwyr perthnasol yn yr awdurdodau lleol fel swyddogion cyfreithiol ac EDI. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau'n cael eu cofnodi'n briodol, a bod arfer dda yn cael ei nodi a'i hymgorffori yn eich cynllunio ar gyfer etholiadau yn y dyfodol

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael ystod eang o adborth allanol, dylech ystyried darparu ystod o opsiynau ar gyfer casglu barn. Ffordd dda o ddarganfod y dull mwyaf priodol o gyrraedd grwpiau penodol o bleidleiswyr fyddai gofyn i'r sefydliadau partneriaeth rydych chi'n gweithio gyda nhw beth fyddai'n gweithio orau i'r pleidleiswyr maen nhw'n eu cynorthwyo. 

Mae'n ofynnol i'r Comisiwn adrodd ar y camau a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau i gynorthwyo pobl anabl ar gyfer rhai etholiadau.xxvi  Er mwyn bodloni'r gofyniad hwnnw, byddwn yn gofyn i chi am ddata ar ddarparu cyfarpar a chymorth mewn gorsafoedd pleidleisio a ddylai fod yn wybodaeth sydd ar gael gennych eisoes i gynorthwyo eich prosesau cynllunio eich hun.


Byddwn yn defnyddio ein gwaith ymgysylltu ac adrodd i dynnu sylw at enghreifftiau o arferion da sy'n dod i'r amlwg i gefnogi eich gwaith o sicrhau bod pleidleisio'n hygyrch.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025