About our resources

Rydym yn creu ystod o adnoddau ar gyfer cynghorau lleol, elusennau, a sefydliadau eraill sy’n ymgysylltu â phleidleiswyr. Defnyddiwch yr adnoddau hyn ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch democratiaeth, o gofrestru pleidleiswyr i ddewisiadau pleidleisio.

Mae’r adnoddau ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, felly gallwch ddewis yr hyn sydd orau i’ch cynulleidfa. Ceir graffigau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a thempledi negeseuon, yn ogystal â phosteri y gallwch eu hargraffu, a thempledi datganiadau i’r wasg.

Mae rhai o’r adnoddau yn cynnwys dyddiadau a dyddiadau cau, ac rydym yn eu diweddaru bob tro y bydd etholiad.

Bydd adnoddau i'w defnyddio cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU ddydd Iau 4 Gorffennaf yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â ni: [email protected]