Canllawiau diogelu data i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau
Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 yn gymwys i'r gwaith o brosesu pob math o ddata personol.
Nid yw deddfwriaeth diogelu data yn diystyru gofynion i gasglu a phrosesu gwybodaeth fel y nodir mewn cyfraith etholiadol bresennol, ond effeithir ar y ffordd y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu ynghyd â chyfrifoldebau Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i destunau data.
Rydych yn bersonol gyfrifol fel Swyddog Cofrestru Etholiadol a/neu Swyddog Canlyniadau am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data gyfredol.
Mae'r canllawiau hyn, sy'n cynnwys enghreifftiau ymarferol lle y bo'n bosibl, wedi'u cynllunio i'ch helpu i gyflawni:
eich dyletswydd i gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data gyfredol
eich rhwymedigaethau, fel y maent yn ymwneud â'ch cyfrifoldebau gweinyddu etholiadau.
Cawsant eu datblygu mewn cydweithrediad agos â chydweithwyr ar draws y gymuned etholiadol gan gynnwys Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Cymdeithas Aseswyr yr Alban a Chymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol er mwyn nodi effaith y ddeddfwriaeth ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau.1
1. Yn yr adnodd hwn defnyddiwn y term ‘Swyddog Canlyniadau’ i gwmpasu pob math o Swyddog Canlyniadau.↩ Back to content at footnote 1