| Argraffu'r canllawiau llawn

Mae'r adran hon yn amlinellu'r wybodaeth i bleidleiswyr y mae'n rhaid ei darparu yn yr orsaf bleidleisio yn ogystal â rhestr o gyfarpar yr ydym yn cynghori y dylid ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i leihau neu ddileu rhwystrau hysbys a sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl i bleidleiswyr anabl.   

Mae hefyd yn tynnu sylw at gyfarpar ychwanegol pellach y gallai fod yn briodol i chi ei ddarparu mewn rhai gorsafoedd pleidleisio os ydych wedi nodi angen fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, neu os cewch eich hysbysu o anghenion penodol pleidleiswyr anabl trwy gais am addasiad rhesymol. 

Gwybodaeth i bleidleiswyr

Er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y broses bleidleisio a sut i farcio eu papur pleidleisio, rhaid i chi ddarparu: 

  • hysbysiad y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio yn rhoi canllawiau ar sut i bleidleisio yn yr etholiadxvi   
  • hysbysiad ym mhob bwth pleidleisio yn darparu gwybodaeth am sut i farcio papur pleidleisio yn yr etholiadxvii      
  • arddangos o leiaf un copi sampl mawr o'r papur pleidleisio y tu mewn i'r orsaf bleidleisioxviii  yn ddelfrydol mewn lleoliad sydd wedi'i oleuo'n dda lle gall pleidleiswyr ei weld yn hawdd cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd papurau pleidleisio sampl print bras a arddangosir yn glir yn yr orsaf yn cynorthwyo pleidleiswyr sydd â golwg rhannol a hefyd pleidleiswyr a hoffai gael rhywfaint o amser i edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i mewn i'r bwth 
  • copi llaw mwy o'r papur pleidleisio. Gellir rhoi hwn i bleidleiswyr sydd â golwg rhannol neu ar gais i unrhyw bleidleisiwr arall a fyddai'n ei chael hi'n ddefnyddiol ei gymryd i'r bwth pleidleisio i gyfeirio ato wrth farcio eu papur pleidleisio.

Rhaid i chi ystyried a yw'n briodol gwneud hysbysiadau'n fwy hygyrch i ystod ehangach o bleidleiswyrxix  drwy eu darparu mewn ieithoedd a fformatau amgen, e.e. mewn Braille, ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, mewn fformatau darluniadolxx  neu ar ffurf glywadwy.xxi  Mae Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth (Yn agor mewn ffenestr newydd) yn darparu canllawiau ar eu gwefan ynghylch gwneud cyfathrebiadau'n hygyrch. 

Yn ogystal â bodloni'r gofynion statudol gofynnol a nodir uchod, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gopïau sampl ychwanegol a chopïau mwy o adnoddau'r papurau pleidleisio ar gael yn hawdd ac yn weladwy yn yr orsaf bleidleisio - bydd eu rhoi yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr eu gweld yn hawdd.  

Cyfarpar i gynorthwyo pleidleiswyr i gymryd rhan 

Mae gennych ddyletswydd i ddarparu cyfarpar rhesymol i bob gorsaf bleidleisio er mwyn galluogi, neu ei gwneud hi'n haws i, bersonau perthnasol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.xxii  Mae gennym ddyletswydd i roi canllawiau mewn perthynas â'ch dyletswydd i ddarparu'r cyfarpar hwn.xxiii  Rhaid i chi ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eich dyletswydd i ddarparu cyfarpar priodol ond yn y pen draw, chi fel Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu ar y trefniadau a'r cyfarpar sy'n rhesymol i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl ar draws eich ardal fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Nod y canllawiau hyn yw eich cynorthwyo drwy dynnu sylw at y mathau o gyfarpar a allai helpu i gael gwared ar rwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. Gall ffactorau sy'n unigryw i'ch ardal leol - sy'n ymwneud â maint a graddfa gorsafoedd pleidleisio, neu ofynion penodol eich etholwyr lleol rydych wedi eu nodi fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, lunio'r dull y byddwch yn penderfynu ei gymryd. 
 

Mae yna amrywiol ffyrdd y gallwch chi adeiladu'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o gyfarpar a allai fod yn briodol i'w ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol i gynorthwyo pleidleiswyr ag anableddau gwahanol yn rhagweithiol. Dylech ystyried: 

  • ymgysylltu'n rhagweithiol â grwpiau cymunedol yn eich ardal
  • defnyddio data o fewn eich awdurdod lleol a'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lle mae pleidleiswyr anabl eisoes wedi'u nodi, neu wedi gwneud ceisiadau blaenorol am addasiadau rhesymol sy'n eich galluogi i gysylltu â nhw'n rhagweithiol ynglŷn â'u profiad pleidleisio
  • gweithio gyda ymddiriedolaethau GIG lleol a sefydliadau trydydd sector i gael cyngor arferion da ar gynorthwyo pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a defnyddio eu rhwydweithiau i gasglu gwybodaeth am brofiadau byw a hyrwyddo gwybodaeth am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio. 
  • adborth rydych wedi'i dderbyn gan bleidleiswyr neu staff gorsafoedd pleidleisio yn dilyn etholiad 

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth hon i adolygu'r cyfarpar rydych chi'n ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer etholiadau ac yn eich adolygiadau ôl-etholiad. 

Dylid ystyried penderfyniadau ynghylch cyfarpar priodol yn ofalus, yn dryloyw ac yn rheolaidd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynGwneud penderfyniadau ynghylch darparu gwybodaeth a chymorth ychwanegol i bleidleiswyr. 

Dylech geisio cyngor gan yr adran lywodraeth berthnasol (yn dibynnu ar y math o etholiad) ynghylch a oes unrhyw drefniadau ariannu ar gael.  
 

Isafswm y cyfarpar i'w ddarparu

Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau rydym wedi nodi ystod o gyfarpar allai helpu i oresgyn y rhwystrau hysbys sy'n wynebu pobl anabl. Mae llawer o'r eitemau hyn ar gael ar unrhyw adeg am gost gyfyngedig a gallant gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar brofiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio.  

Dylid darparu'r isafswm canlynol o gyfarpar ym mhob gorsaf bleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl:  

  • cadeiriau/seddi – mae hyn yn darparu lle i bleidleiswyr na allant sefyll am gyfnodau hir orffwys a sedd i bleidleiswyr a hoffai gymryd peth amser i feddwl cyn mynd i mewn i'r bwth pleidleisio 
  • chwyddwydrau – gall y rhain ddarparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i bleidleisio'n annibynnol drwy gynyddu maint y testun ar ddogfen. Bydd cryfder y chwyddwydr sydd ei angen yn amrywio yn dibynnu ar faint mae'r pleidleisiwr yn ei weld. Efallai y bydd angen i chi ddarparu chwyddwydrau â mwy nag un cryfder yn dibynnu ar anghenion y pleidleiswyr mewn gorsaf bleidleisio benodol
  • dyfais bleidleisio gyffyrddol – mae dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol yn darparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir, ar yr amod ei fod wedi'i osod ar y papur pleidleisio'n gywir. Maent yn darparu cymorth i gwblhau'r papur pleidleisio unwaith y bydd pleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg yn gwybod safle'r ymgeisydd y maent am bleidleisio drosto ar y papur pleidleisio. Nid ydynt yn caniatáu i bleidleiswyr dall bleidleisio'n annibynnol oni bai bod ganddynt wybodaeth hygyrch hefyd am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio, er enghraifft fersiwn sain neu braille o'r papur pleidleisio
  • bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn – yn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn yn gallu defnyddio arwyneb ysgrifennu is i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth sy'n hygyrch
  • bathodynnau sy'n nodi staff gorsaf bleidleisio –mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i adnabod yn haws pwy sy'n aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio ac felly gellir cysylltu â nhw am gymorth. Gellir teilwra'r math o fathodyn a'r testun a ddefnyddir i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol unigol. Er enghraifft, gallech roi bathodyn i staff gorsafoedd pleidleisio sy'n nodi eu henw cyntaf ac yn egluro eu rôl a'u bod yn hapus i helpu 
  • gafael pensil – gall y rhain helpu pleidleiswyr â nam ar eu medrusrwydd i'w gwneud hi'n haws i ddal a defnyddio pensil yn annibynnol
  • rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau) – mae'r rhain yn cynorthwyo mynediad i orsaf bleidleisio i bleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sy'n cael anhawster defnyddio grisiau
  • rhybuddwyr dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân) – mae'r rhain yn darparu ffordd i bleidleiswyr roi gwybod i staff gorsafoedd pleidleisio fod angen cymorth arnynt i agor y drws fel y gallant ddefnyddio'r orsaf bleidleisio. Nid oes angen gosod y rhain yn barhaol na'u gosod mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio ond gellir eu gosod dros dro ar lefel hygyrch ar fwrdd neu gadair wrth ymyl unrhyw ddrysau y mae'n rhaid iddynt aros ar gau
  • goleuadau priodol – mae gan rai lleoliadau gorsafoedd pleidleisio oleuadau da ond efallai y bydd angen goleuadau ychwanegol ar eraill wrth y ddesg; i sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau staff yn glir, ac yn y bythau pleidleisio; i gynorthwyo pleidleiswyr â nam ar eu golwg i allu darllen a chwblhau'r papur pleidleisio 
  • mannau parcio wedi'u cadw ar gyfer pleidleiswyr anabl (lle mae parcio ar gael yn y lleoliad) – mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos â phosibl at yr orsaf bleidleisio

Nid ydych wedi'ch cyfyngu i ddarparu'r cyfarpar a ddangosir yn y rhestr uchod yn unig, ac ni ddylech leihau na chael gwared ar unrhyw gyfarpar rydych wedi'i ddarparu o'r blaen i gynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal. 

Cyfarpar ychwanegol a allai gynorthwyo pleidleiswyr anabl
 

Bydd eich gwaith i ddeall anghenion pleidleiswyr yn eich ardal yn bwysig i'ch helpu i nodi cyfarpar pellach y mae'n briodol ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol a fyddai'n galluogi neu'n ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Mae enghreifftiau o gyfarpar neu gymorth arall y gallech ei ddarparu yn cynnwys:  

  • dolen anwythol clyw – mae'r rhain yn darparu cymorth i bleidleiswyr sy'n gwisgo cymhorthion clyw i gyfathrebu yn yr orsaf bleidleisio. Mae gan rai adeiladau ddolen anwythol wedi'i gosod yn arferol, ac os felly dylech ei defnyddio, a lle nad oes un ar gael yna gellir defnyddio dolen glyw gludadwy.  
  • datrysiadau sain – mae'r rhain yn fecanweithiau sy'n galluogi pleidleiswyr i wrando ar restrau ymgeiswyr, fel llinellau cymorth, neu fanylion papurau pleidleisio wedi'u recordio ymlaen llaw y gellir eu defnyddio drwy god QR, naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu ymlaen llaw. Gellir defnyddio'r rhain ynghyd â'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol neu ddyfeisiau eraill, i alluogi pleidleiswyr dall a rhai sydd â golwg rhannol i farcio eu papur pleidleisio yn annibynnol. Mae datrysiadau sain/cyffyrddol cyfun hefyd ar gael a gellir eu darparu.
  • gwybodaeth ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen - mae hawdd ei ddarllen yn cyfeirio at gyflwyno testun mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddeall. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu a gall hefyd fod o fudd i bobl â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar sut maen nhw'n prosesu gwybodaeth.
  • gwybodaeth ar gael mewn fformatau print bras - Diffinnir print bras fel print bras 16pt Arial neu fwy ac mae'n cydymffurfio â chanllawiau print clir ynghylch cynllun, defnyddio ffontiau a delweddau. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bleidleiswyr sydd â nam ar y golwg a gall hefyd fod o fudd i bleidleiswyr hŷn, pleidleiswyr dyslecsig a phleidleiswyr sydd â dementia. 
  • cymorth i etholwyr sy'n agored i niwed yn glinigol - ochr yn ochr â chynyddu awyru'r ystafell, darparu masgiau wyneb a chadw pellter cymdeithasol wrth ryngweithio â phleidleiswyr sy'n agored i niwed yn glinigol, dylech ystyried sut y gallwch gynnig cynnal gwiriadau adnabod llun y tu allan i'r pleidleiswyr hyn os oes angen ar gyfer eich etholiad.

    Dylai'r cyfarpar a'r adnoddau a ddarperwch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fod yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir fel y gellir eu hadnabod a'u defnyddio'n hawdd.  
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025