Ar ôl pob etholiad, dylech werthuso'r cyfarpar a'r cymorth a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio a sut y gwnaethoch gyfathrebu â phleidleiswyr ynghylch eu hanghenion a'r hyn y gallent ei ddisgwyl. I helpu gyda'ch gweithgareddau gwerthuso, rydym wedi darparu arolwg templed i'w ddefnyddio gyda phleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio a oedd angen cymorth ychwanegol wrth bleidleisio. Gellir defnyddio'r arolwg i gasglu eu hadborth ar eu profiad o bleidleisio a'r cymorth a oedd ar gael.
Dylech wahodd adborth gan bleidleiswyr a grwpiau hygyrchedd ar eu profiad o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, am yr hyn a weithiodd yn dda a'r hyn na weithiodd, i helpu i lywio'r hyn a wnewch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn etholiadau yn y dyfodol.
Mae mecanweithiau y gallech eu defnyddio i gasglu adborth yn cynnwys:
darparu arolwg hawdd ei ddarllen yn yr orsaf bleidleisio am y profiad pleidleisio
gwahodd pleidleiswyr a sefydliadau partneriaeth i fynychu grwpiau ffocws i drafod eu profiadau o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
gwahodd staff yr orsaf bleidleisio i drafod eu profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio lle darparwyd cyfarpar penodol, sut y gwnaethon nhw ddelio ag unrhyw sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod, a'u hadborth ar yr hyfforddiant a gawsant
adolygu unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a ddychwelwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
monitro'r defnydd o'r cyfarpar a ddarparwch mewn gorsafoedd pleidleisio drwy ofyn i staff yr orsaf bleidleisio gadw cofnod yn llyfr log yr orsaf bleidleisio neu drwy arolygon neu adborth ar ôl yr etholiad
adolygu'r ffordd y gwnaethoch chi ymdrin â'ch dyletswyddau dan y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gyda chydweithwyr perthnasol yn yr awdurdodau lleol fel swyddogion cyfreithiol ac EDI. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau'n cael eu cofnodi'n briodol, a bod arfer dda yn cael ei nodi a'i hymgorffori yn eich cynllunio ar gyfer etholiadau yn y dyfodol
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael ystod eang o adborth allanol, dylech ystyried darparu ystod o opsiynau ar gyfer casglu barn. Ffordd dda o ddarganfod y dull mwyaf priodol o gyrraedd grwpiau penodol o bleidleiswyr fyddai gofyn i'r sefydliadau partneriaeth rydych chi'n gweithio gyda nhw beth fyddai'n gweithio orau i'r pleidleiswyr maen nhw'n eu cynorthwyo.
Mae'n ofynnol i'r Comisiwn adrodd ar y camau a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau i gynorthwyo pobl anabl ar gyfer rhai etholiadau.xxvi Er mwyn bodloni'r gofyniad hwnnw, byddwn yn gofyn i chi am ddata ar ddarparu cyfarpar a chymorth mewn gorsafoedd pleidleisio a ddylai fod yn wybodaeth sydd ar gael gennych eisoes i gynorthwyo eich prosesau cynllunio eich hun.
Byddwn yn defnyddio ein gwaith ymgysylltu ac adrodd i dynnu sylw at enghreifftiau o arferion da sy'n dod i'r amlwg i gefnogi eich gwaith o sicrhau bod pleidleisio'n hygyrch.