| Argraffu'r canllawiau llawn

Mae'r adran hon o'r canllawiau yn ymdrin â'r camau y gallwch eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. 

Mae'n bwysig bod gennych strategaeth gyfathrebu glir i helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae rhai pleidleiswyr yn eu hwynebu, yn ogystal â sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w galluogi neu ei gwneud hi'n haws iddynt bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.  

Mae hyn yr un mor bwysig ar gyfer isetholiadau neu bleidleisiau heb eu trefnu, a allai ddigwydd ar fyr rybudd, ag ydyw ar gyfer etholiadau wedi'u hamserlennu. Mae'n bwysig eich bod yn meddwl am amseriad cyfathrebu â phleidleiswyr i sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i ystyried pa gyfarpar a chymorth y gallent fod eu hangen a gwneud unrhyw geisiadau am addasiadau rhesymol mewn da bryd cyn pleidleisio.  

Dylech ddiweddaru eich strategaeth ymwybyddiaeth gyhoeddus drwy nodi sut a phryd y byddwch yn: 

  • nodi a chyfathrebu â phartneriaid a sefydliadau anabledd i ystyried cyfleoedd i gydweithio i godi ymwybyddiaeth
  • hyrwyddo a rhannu gwybodaeth â phleidleiswyr anabl am y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a'r cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael
  • sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, yn cynnwys fersiynau print i gynorthwyo'r rhai na allent gael gwybodaeth yn ddigidol, a fformatau amgen y gellir eu rhannu drwy bartneriaid perthnasol ac mewn canolfannau cymunedol lleol neu lyfrgelloedd. Dylai gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan eich Awdurdod Lleol gydymffurfio â gofynion hygyrchedd gwe ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus.
  • gofyn am adborth ar y cymorth a'r cyfarpar a ddarperir - er enghraifft, drwy wahodd sylwadau'n rhagweithiol drwy eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol, neu drwy sefydliadau partner

I'ch cynorthwyo i gynllunio a datblygu gweithgaredd ymwybyddiaeth gyhoeddus mae gennym ystod o adnoddau i chi a sefydliadau eraill eu defnyddio i hyrwyddo mynediad i etholiadau. Byddwn yn ceisio adeiladu ar yr adnoddau hyn o flwyddyn i flwyddyn fel rhan o'n gwaith gwerthuso a gwella parhaus. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025