Efallai bod gennych berthnasoedd presennol gyda rhwydweithiau o grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil. Os nad oes gennych y perthnasoedd hyn, efallai y bydd angen i chi weithio gydag eraill sydd â pherthnasoedd, er enghraifft:
timau ar draws eich awdurdod lleol a allai fod â chysylltiad â phobl anabl
darparwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a chanolfannau dydd
swyddogion cydraddoldeb
timau cyfathrebu
swyddogion tai
swyddogion partneriaeth/Ymgysylltu â'r Gymuned
Cynghorau Gwirfoddol Sirol/Grwpiau Pobl yn Gyntaf (Cymru)
Gall sefydlu perthnasoedd â grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n weithgar yn eich ardal leol fod o fudd gan y gallant eich cynghori ar gamau penodol y gallwch eu cymryd i wella hygyrchedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai lleoliadau. Gallant hefyd roi cyngor ar y mathau a'r dulliau rhannu gwybodaeth y dylech eu defnyddio i hyrwyddo'r cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio yn ogystal â gwybodaeth am etholiadau yn fwy cyffredinol.
Er y gallai dulliau cyfathrebu digidol fod yn well gan rai pobl anabl, gall ffurfiau ffisegol o wybodaeth fel taflenni neu bosteri fod yn fwy hygyrch i eraill, fel pobl hŷn sy'n fwy tebygol o gael eu heithrio'n ddigidol. Byddai trafod hyn gyda grwpiau lleol yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r ystyriaethau ar gyfer eich cynllun rhannu gwybodaeth.
Efallai y bydd rhai timau yn eich awdurdod lleol neu sefydliadau lleol eraill hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch sut i benderfynu a ddylid darparu unrhyw gyfarpar neilltuol mewn gorsafoedd pleidleisio penodol i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio. Efallai y bydd ganddynt hefyd yr hawl i gyfarpar arbenigol a allai fod o fudd i bleidleiswyr anabl lleol sydd ag anableddau ac anghenion penodol y gallech eu benthyg neu eu llogi. Efallai y bydd sefydliadau a phartneriaid lleol hefyd yn gallu eich cynghori ar y mathau o adnoddau neu gefnogaeth y gallech eu darparu i leihau rhwystrau i bleidleisio i bleidleisio i bleidleiswyr anabl.