Canllawiau: Swyddog Canlyniadau - Cymraeg
Intro text - Welsh
Rydym wedi cynhyrchu arweiniad a ddylai ateb unrhyw gwestiynau cychwynnol y gallai fod gennych ynghylch sut i hidlo a chwilio am ganllawiau.
Ystyriaethau ar gyfer cynnal Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ar 4 Gorffennaf 2024
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy’n tynnu sylw at feysydd cynllunio allweddol i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ar 4 Gorffennaf. Mae’r canllawiau yn nodi rhai ystyriaethau allweddol yn ymwneud â chydlynu a chynllunio’r etholiad yn eich ardal. Ni fwriedir i hwn fod yn ddadansoddiad cynhwysfawr o holl elfennau paratoi ar gyfer yr etholiad, ond yn hytrach mae'n rhoi trosolwg o rai meysydd y mae angen eu hystyried ar frys i'ch helpu i flaenoriaethu eich gweithgareddau. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n canllawiau craidd.
Canllawiau ar gyfer pob etholiad arall
Rydym yn darparu canllawiau ac adnoddau i helpu Swyddogion Canlyniadau a'u staff cynnal etholiadau a refferenda yn llwyddiannus.
Yn y ddewislen isod cewch gysylltiadau i’n holl ganllawiau ac adnoddau ar gyfer gweinyddwyr etholiadol, wedi’u trefnu yn ôl math o etholiad. Cliciwch ar y cysylltiad perthnasol i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio ar gyfer a chynnal yr etholiadau sydd i ddod.
Ystyriaethau allweddol ar gyfer rhoi Deddf Etholiadau 2022 ar waith
Rydym wedi cyhoeddi dau ganllaw sy’n tynnu sylw at feysydd cynllunio allweddol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o ran Deddf Etholiadau 2022. Yn y canllaw cyntaf rydym yn cwmpasu’r gofynion newydd o dan y darpariaethau ID Pleidleisiwr a hygyrchedd, ac yn yr ail ganllaw rydym yn cwmpasu’r darpariaethau amrywiol sydd wedi’u cynnwys yng Ngham 2, a fydd yn cael eu rhoi ar waith trwy gydol 2023 a 2024. Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar ein gwybodaeth gyfredol am gynlluniau gweithredu Llywodraeth y DU a byddant yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen. Byddwn yn tynnu sylw at bryd y gwneir unrhyw newidiadau mewn rhifynnau o’r Bwletin Gweinyddu Etholiadol yn y dyfodol.