| Argraffu'r canllawiau llawn

Gall rhannu'n uniongyrchol â thrigolion anabl fod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu rhagor am y mathau o ddarpariaeth sydd ei hangen ar bleidleiswyr anabl fel rhan o'ch dyletswydd ragweld dan y Ddeddf Cydraddoldeb. 

Mae ymgysylltu ag etholwyr yn gynnar yn y cyfnod cyn etholiad yn gyfle i ddarparu gwybodaeth am y math o gymorth y gellid ei roi i'w cynorthwyo i gymryd rhan mewn etholiadau. Bydd ymgysylltu cynnar yn rhoi mwy o amser i chi ofyn am eu fformat dewisol ar gyfer cyfathrebu hygyrch, deall pa gymorth a allai eu helpu i bleidleisio ac i ystyried unrhyw geisiadau. Mae meddwl am wahanol ddulliau o ymgysylltu a fformatau gwybodaeth yn arbennig o fuddiol i bobl ddall, pobl â golwg rhannol neu bobl hŷn sy'n fwy tebygol o gael eu heithrio'n ddigidol.  

Dylech ystyried sut y gallwch weithio gydag eraill ar draws eich awdurdod lleol a allai eich cynorthwyo i nodi etholwyr anabl yn eich ardal. Dylech roi cytundebau rhannu data priodol ar waith ar gyfer cael yr hawl i ddata perthnasol am bleidleiswyr a gedwir gan eich awdurdod lleol, a allai hefyd gynnwys gwybodaeth a gesglir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, i'ch galluogi i gyfathrebu â nhw'n uniongyrchol ac yn eu fformat dewisol.   

Dylai eich gwaith ar ymgysylltu cyn yr etholiad a sicrhau bod gennych fynediad at ddata cyfredol gael ei gynnwys yn eich prosiect etholiad a'ch cynlluniau rhannu gwybodaeth.

Ffynonellau data 

Un math o set ddata leol a all eich helpu yw eich cofrestr colli golwg leol. Mae hon yn rhestru pobl yn yr ardal leol sydd â thystysgrif nam ar y golwg.  

Yn Lloegr, dan y Ddeddf Gofal 2014, gall yr awdurdod lleol ddefnyddio cofrestri colli golwg i sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau ar gael i'r person hwnnw, er enghraifft i ofyn a ellid rhoi cymorth i'w cynorthwyo i gymryd rhan mewn digwyddiadau etholiadol.xxiv  Gall yr hawl sydd gennych i'r wybodaeth hon amrywio yn dibynnu a ydych wedi cael eich penodi gan awdurdod dosbarth neu unedol.  

Yng Nghymru a'r Alban gallwch gysylltu â'r adrannau gofal cymdeithasol oedolion perthnasol ac yng Ngogledd Iwerddon, yr Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol, i gael cyngor ar sut y gallwch gael yr hawl i wybodaeth o'r cofrestri colli golwg a gedwir ganddynt. 


Gall defnyddio data lleol yn rhagweithiol drwy geisio gwybodaeth o'r gofrestr colli golwg neu drwy ddefnyddio adnodd fel yr  offeryn data colli golwg (Yn agor mewn ffenestr newydd) a ddarperir gan yr RNIB eich helpu i ddarganfod faint o etholwyr yn eich ardal sydd wedi'u heffeithio gan golli golwg. Gall gwybod mwy am nifer yr etholwyr yr effeithir arnynt eich helpu i: 

  • ragweld anghenion pobl ddall a rhai â golwg rhannol yn eich ardal er enghraifft, sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon yn y fformatau y mae unigolion yn eu dewis gan eu galluogi i gael yr hawl i'r wybodaeth arnynt yn annibynnol
  • cydymffurfio â'ch dyletswydd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo unigolion ar y gofrestr i gymryd rhan mewn etholiadau
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025