Canllawiau drafft i Swyddogion Canlyniadau- Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Dylai pob pleidleisiwr gael yr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Fodd bynnag, gwyddom fod pobl anabl, gan gynnwys pobl ddall a rhai â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau i bleidleisio sy'n cynnwys:
- peidio â rhannu eu hawliau pleidleisio mewn ffordd hygyrch
- peidio â chael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth gofrestru i bleidleisio neu wrth bleidleisio
- rhwystrau corfforol, seicolegol a gwybodaeth wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
- y dull pleidleisio - rhoi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur - yn ymarfer gweledol yn bennaf
Diffinnir anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar y gallu i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd cyffredin. Gall anabledd fod o ganlyniad i gyflwr meddygol: er enghraifft, efallai y bydd rhywun ag arthritis yn ei ddwylo yn wynebu anhawster i afael mewn pethau heb ddefnyddio cymorth ategol. Ond nid oes rhaid i anabledd fod yn gyflwr meddygol wedi'i ddiagnosio a gall gynnwys namau corfforol neu seicolegol a all fod yn weladwy ac yn anweledig. Er enghraifft, os yw person yn profi iselder, efallai y byddent yn cael trafferth canolbwyntio - yn ogystal â namau corfforol, fel blinder eithafol.
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ystyried rhwystrau i bleidleisio, sut y gallwch sicrhau eich bod chi a'ch staff yn ymwybodol ohonynt, a sut y gallwch ragweld, nodi a darparu cymorth a chyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi, neu ei gwneud hi'n haws i bobl anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu cyfarpar o'r fath, fel sy'n rhesymol, i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol ym mhob etholiad yn y DUii . Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofynion cyfyngedig a rhagnodol blaenorol, ac mae hefyd yn eistedd o fewn fframwaith cyfreithiol ehangach hawliau ac amddiffyniadau i bobl anabl a darpariaethau penodol mewn cyfraith etholiadol i helpu i ddiogelu a gwella profiad pleidleiswyr anabl.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan Swyddogion Canlyniadau ym Mhrydain Fawr ddyletswydd i ragweld anghenion pleidleiswyr anabl a gwneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar anfantais sylweddol i'r pleidleiswyr hynny. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau gymryd camau i ddeall a rhagweld anghenion pleidleiswyr anabl yn barhaus - gyda gwahanol fathau o anabledd, cymorth a gofynion hygyrchedd yn eu hardal fel y gallent wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd orau o ddiwallu'r anghenion hyn drwy wneud addasiadau rhesymol, gan gynnwys darparu cyfarpar a chymorth priodol. Gelwir hyn yn ddyletswydd ragweledol.
Mae Adran 149 o'r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i roi sylw dyledus i'r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal drwy annog cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus, a fyddai'n cynnwys pleidleisio.
Dylech gysylltu â chydweithwyr sydd â chyfrifoldeb dros sicrhau bod y dyletswyddau perthnasol dan y darpariaethau hyn yn cael eu cyflawni yn ystod y gwasanaethau gwahanol a gynhelir gan eich sefydliad e.e. yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o sut i gymhwyso'r egwyddorion hyn i'ch rôl fel Swyddogion Canlyniadau ar sail barhaus.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi gwybodaeth am y ddyletswydd ragweledol (Yn agor mewn ffenestr newydd) a meini prawf ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol (Yn agor mewn ffenestr newydd), a chanllawiau ar gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Yn agor mewn ffenestr newydd) dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Er nad yw'r wybodaeth hon wedi'i hysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, mae'n cynnig rhywfaint o ganllawiau defnyddiol ar y canlynol:
- beth mae'r ddyletswydd ragweld (Yn agor mewn ffenestr newydd) a gwneud addasiadau rhesymol (Yn agor mewn ffenestr newydd) yn ei olygu
- enghreifftiau ymarferol (Yn agor mewn ffenestr newydd) o wneud addasiadau rhesymol
- y camau sy'n ofynnol yn gyfreithiol, yn ogystal â chamau a argymhellir, i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Dylech gymhwyso'r egwyddorion cyffredinol canlynoliii :
- Dylai fod dadansoddiad priodol o'r holl ddeunydd perthnasol a gwerthfawrogiad o'r ddyletswydd i roi "sylw dyledus".
- ni ddylai fod yn ymarfer "ticio bocs" ond yn hytrach dylid ei integreiddio yn y broses gwneud penderfyniadau.
- mae'r ddyletswydd yn un barhau.
- dylid arfer y ddyletswydd i roi sylw dyledus yn drylwyr ac â meddwl agored.
- dylai ailystyried y ddyletswydd os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg a dylid cadw cofnodion digonol o'r prosesau ystyried a gwneud penderfyniadau a gynhaliwyd er mwyn dangos bod y dyletswyddau cydraddoldeb wedi'u cyflawni'n gydwybodol.
Deddf Gogledd Iwerddon 1998
Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i holl gyrff y llywodraeth, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rhai ag anabledd a'r rhai heb anabledd wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i ddatblygu polisïau, gweithredu polisïau a darparu gwasanaethau (yn cynnwys cynnal etholiadau).
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, wneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar unrhyw anfantais sylweddol i bobl anabl.
Adran 199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Rhaid i chi, pan fyddwch chi'n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, sicrhau bod hysbysiadau etholiad yn cael eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformatau amgen. Gallwch eu cynhyrchu:
Atodlen A1 y Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Rhaid i chi ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio posibl wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio.ix Rhaid i'r awdurdod perthnasolx geisio cynrychiolaethau gan y rhai sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safleoedd neu gyfleusterau ar gyfer pobl sydd â gwahanol fathau o anabledd. xi
Mae ein canllawiau adolygu ardaloedd pleidleisio yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd hon ac yn cynnwys rhestr wirio hygyrchedd y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a gorsaf bleidleisio.
Dyletswydd i ddarparu cyfarpar a rhoi sylw i ganllawiau
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 y darpariaethau cychwynnol i gynorthwyo pleidleiswyr dall, rhai sydd â golwg rhannol ac anableddau eraill mewn gorsafoedd pleidleisio i gyfraith etholiadol y DU. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u hailadrodd ar draws gwahanol etholiadau gan lywodraeth y DU a chan senedd yr Alban a'r Senedd ar gyfer etholiadau ledled Cymru a'r Alban.
Mae'n ofynnol i chi:
- ddarparu pob gorsaf bleidleisio â'r cyfarpar y mae'n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi, neu ei gwneud hi'n haws i bersonauxii perthnasol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol
rhoi sylw i ganllawiau'r Comisiwn ar y cyfarpar i'w ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio.xiii Gellir dod o hyd i'r canllawiau hyn yn -Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy'n galluogi neu'n gwneud pleidleisio'n haws i bleidleiswyr anabl
Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1, RPA 1983, rheol 38(4)(b) Atodlen 2, Senedd yr Alban (etholiadau ac ati) Gorchymyn 2015 (Gorchymyn Senedd yr Alban 2015), rheol 37(7)(b) Atodlen 5 Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobol) Gorchymyn 2025 (Gorchymyn y Senedd 2025)
Mae geiriad y darpariaethau yn cydnabod yr amrywiadau yn yr hyn sydd ei angen ar bobl i allu pleidleisio, fel y gallant gael yr hawl i'r cymorth mwyaf priodol i bob un ohonynt, gan sicrhau'r cymorth, y gefnogaeth, yr arloesedd a'r hygyrchedd ehangaf posibl. Mae'r termau a ddefnyddir yn adlewyrchu mai'r ddyletswydd yw i Swyddogion Canlyniadau alluogi pleidleisio i'r rhai sy'n ei chael hi'n amhosibl, a'i gwneud hi'n haws i'r rhai sy'n ei chael hi'n bosibl ond yn anodd.
Mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol i'r etholiadau canlynol:
- Etholiadau Seneddol y DU
- Etholiadau'r Senedd
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau lleol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegrxiv
- Etholiadau maerol yn Lloegr
- Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
- Etholiadau cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
- Refferenda Cynllunio Cymdogaeth
- Refferenda Treth Gyngor
Mae'r darpariaethau hefyd yn ymestyn y rheolau ynghylch pwy all weithredu fel cydymaith i gynnwys unrhyw un sydd:
- dros 18 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu
- dros 16 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymruxv
Nid yw'r newid hwn yn berthnasol i etholiadau Senedd yr Alban nac etholiadau lleol yr Alban, lle mae'r rheolau'n parhau sef bod yn rhaid i gydymaith fod naill ai'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, neu'n aelod agos o'r teulu (priod/partner sifil/rhiant/taid neu nain/plentyn/brawd/chwaer/ŵyr/wyres) sydd dros 16 oed.
- ii. ii Rhagwelir y bydd deddfwriaeth i ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban ar waith ar gyfer etholiadau cyffredin 2027. ↩ Back to content at footnote ii
- iii. R (Brown) yn erbyn SSWP [2008] ↩ Back to content at footnote iii
- iv. Adran 199B(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobol 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote iv
- v. Adran 199B(2)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote v
- vi. Adran 199B(2)(c) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote vi
- vii. Adran 199B(3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote vii
- viii. Adran 199B(2)(d) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote viii
- ix. Adran 18B(4(c)) Atodlen A1, RPA 1983 ↩ Back to content at footnote ix
- x. Adran18E RPA 1983 ↩ Back to content at footnote x
- xi. para 4(1) Atodlen A1 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote xi
- xii. Diffinnir personau perthnasol yn y ddeddfwriaeth fel y rhai sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl i bleidleisio oherwydd eu bod yn ddall, â golwg rhannol neu ag anabledd arall ↩ Back to content at footnote xii
- xiii. Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1, RPA 1983, rheol 38(4)(b) Atodlen 2, Senedd yr Alban (etholiadau ac ati) Gorchymyn 2015 (Gorchymyn Senedd yr Alban 2015), rheol 37(7)(b) Atodlen 5 Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobol) Gorchymyn 2025 (Gorchymyn y Senedd 2025) ↩ Back to content at footnote xiii
- xiv. Rhagwelir y bydd deddfwriaeth i ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban ar waith ar gyfer etholiadau cyffredin 2027. ↩ Back to content at footnote xiv
- xv. Rheol 39(2)(b)(i), Atodlen 1, RPA 1983, rheol 48(4) Atodlen 5, Gorchymyn y Senedd 2025. Rhagwelir y bydd deddfwriaeth i ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban ar waith ar gyfer etholiadau cyffredin 2027. ↩ Back to content at footnote xv