Canllawiau drafft i Swyddogion Canlyniadau- Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Wrth nodi a deall y rhwystrau corfforol, seicolegol a gwybodaeth y gall pobl anabl eu hwynebu wrth bleidleisio, byddwch mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i helpu i'w cynorthwyo.
Mae rhai o'r rhwystrau a'r heriau y mae pleidleiswyr anabl yn eu hwynebu yn cynnwys:
- dim gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio ar gael
- canllawiau ysgrifenedig ddim ar gael mewn Cymraeg eglur neu fformat hawdd ei ddarllen
- diffyg gwybodaeth am gymdeithion sy'n cynorthwyo gyda'r pleidleisio
- diffyg gwybodaeth am y profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio sy'n achosi pryder ynghylch pethau fel:
- teithio i'r orsaf bleidleisio, yn enwedig os mai am y tro cyntaf ydyw
- gallu dod o hyd i'r orsaf bleidleisio a'i defnyddio
- gwybod beth fydd yn digwydd ar ôl cyrraedd
- gwybod beth yw'r broses ar gyfer pleidleisio
- y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yno ar yr un pryd
- y posibilrwydd y bydd llawer o sŵn
- teimlo'n cael eich rhuthro i wneud penderfyniadau'n gyflym
- ciwio
- yr adeilad/orsaf bleidleisio ddim yn hygyrch - er enghraifft, os oes grisiau neu os yw'r cynllun y tu mewn yn anaddas i gadeiriau olwyn gael mynediad
- canllawiau mewn fformat sy'n hygyrch ddim ar gael i gynorthwyo pobl â:
- nam ar y golwg neu'n ddall
- nam ar y clyw neu'n fyddar
- dyslecsia
- anableddau dysgu
- nam gwybyddol
- staff yr orsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gyfathrebu'n effeithiol
- cymorth neu gymhorthion ategol ddim yn hygyrch neu ddim ar gael i helpu pleidleiswyr i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol
- seddi neu drefniadau eraill ddim ar gael i gynorthwyo'r rhai na allant sefyll mewn ciw
- staff gorsaf bleidleisio ddim yn ymwybodol o risgiau iechyd wrth ofyn i bleidleisiwr sy'n agored i niwed yn glinigol dynnu mwgwd wyneb er mwyn gwirio llun adnabod
- staff yr orsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gynorthwyo pleidleiswyr gydag anableddau niwrowahaniaeth ac anableddau cudd i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Rhwystrau ychwanegol i bobl ddall a rhai â golwg rhannol
Mae'r dull pleidleisio - rhoi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur - yn ymarfer gweledol yn bennaf. Am y rheswm hwn, mae pobl ddall a rhai â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau ychwanegol nad yw pobl eraill heb olwg rhannol yn eu hwynebu:
- gall diffyg cyfarpar ychwanegol neu ddigon o olau ei gwneud hi'n anodd neu'n amhosibl i bobl ddall neu rai sydd â golwg rhannol:
- darllen yr enwau ar y papur pleidleisio
- rhoi marc mewn lleoliad penodol ar y papur pleidleisio
- gwirio eu pleidlais yn annibynnol ar ôl rhoi marc ar y papur pleidleisio
- staff gorsaf bleidleisio ddim yn ymwybodol y gallai pobl ddall a rhai sydd â golwg rhannol brofi rhwystrau wrth lywio'r amgylchedd yr orsaf bleidleisio
- staff yr orsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gynorthwyo pleidleiswyr dall i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Er enghraifft, ddim yn gyfarwydd â chyfarpar pleidleisio hygyrch
- staff gorsaf bleidleisio heb y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gynorthwyo pleidleiswyr dall a rhai sydd â golwg rhannol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol - er enghraifft, y copi llaw o fersiwn sampl print bras o'r papur pleidleisio a'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol gywir
- staff gorsafoedd pleidleisio heb ddigon o ymwybyddiaeth am golli golwg a heb wybod sut i ryngweithio'n briodol â rhywun sydd wedi colli eu golwg
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025