| Argraffu'r canllawiau llawn

Er mwyn helpu i sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael yr hawl cyfartal i bleidleisio ac yn derbyn cymorth priodol, mae'n bwysig bod pawb sy'n gweithio i gynnal etholiad neu ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr yn ymwybodol o anghenion pobl anabl a'ch dyletswydd i ragweld a gwneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo pleidleiswyr anabl.  

Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth hygyrchedd i'r holl staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, yn cynnwys staff sy'n cynorthwyo gwasanaethau etholiadol, i helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.   

Gan weithio gyda phartneriaid allanol, rydym wedi datblygu adnoddau a allai helpu eich staff i ddeall y rhwystrau i bleidleisio a phrofiadau pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio, yn cynnwys: 

Gallwch gael cyngor gan eich swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant neu'ch adran Adnoddau Dynol ar hyfforddiant ymwybyddiaeth hygyrchedd arall y gallech ei gael. Mae cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb hefyd ar gael gan amrywiol sefydliadau trydydd sector y gallech eu defnyddio i feithrin gwybodaeth o fewn eich tîm ar sut i gynorthwyo gwahanol anableddau. 

Dylai staff hefyd gael gwybod am yr adnoddau sydd gennym ar gael ar ein  gwefana'n  sianel YouTube (Yn agor mewn ffenestr newydd)  i gynorthwyo pobl anabl sydd â namau penodol i helpu gyda dealltwriaeth ynghylch pleidleisio a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. Am ragor o wybodaeth a diweddariadau am yr adnoddau a grëwn, gallwch danysgrifio i Roll Call, ein cylchlythyr cofrestru pleidleiswyr a'ch canllaw i gynorthwyo cofrestru a chyfranogiad pleidleiswyr.

Yn ogystal, gallech feddwl am ddod o hyd i, neu ddatblygu, adnoddau bytholwyrdd nad ydynt yn benodol i etholiadau ac felly y gellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn dros sawl blwyddyn mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil sy'n eiriol dros ac yn cynorthwyo eu rhanddeiliaid ar faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd pleidleisio.  

Hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo hygyrchedd

Mae hefyd yn hanfodol bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn mynd i'r afael â phwysigrwydd bod yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a pha gamau y dylent eu cymryd i'w cynorthwyo.   

Mae gweithgareddau ac ymddygiadau staff gorsafoedd pleidleisio yn allweddol i wneud profiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio yn un cadarnhaol. Gall pethau syml fel sicrhau bod holl staff gorsafoedd pleidleisio yn ymwybodol o'r cyfarpar a'r gefnogaeth sydd ar gael a chynnig cymorth yn rhagweithiol a gwrando ar gwestiynau pleidleiswyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth gyffredinol o anghenion hygyrchedd, mae'n bwysig bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn cwmpasu: 

  • y rhywstrau sy'n wynebu pleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio a sut y gallai staff gorsafoedd pleidleisio helpu i'w lleihau  
  • ymwybyddiaeth nad oes dim rhwystrau cyfreithiol i atal pobl anabl rhag pleidleisio, yn cynnwys pleidleiswyr gydag unrhyw anableddau dysgu neu nam gwybyddol
  • ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weledol neu'n amlwg, ac na ddylai staff gorsafoedd pleidleisio wneud rhagdybiaethau ynghylch pa gyfarpar allai fod ei angen ar bleidleiswyr
  • pwysigrwydd ystyried anghenion y person, nid anabledd penodol
  • ymwybyddiaeth y gallai rhai pleidleiswyr fod â mwy nag un nam - er enghraifft, nam ar y golwg a dementia  
  • pwysigrwydd amgylchedd proffesiynol a chroesawgar gyda:
    • chyfathrebu clir ynghylch y broses bleidleisio, a
    • chyfathrebu clir bod cymorth ar gael os oes angen  
  • ymwybyddiaeth o'r cyfarpar a ddarperir yn yr orsaf bleidleisio i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a sut i'w ddefnyddio. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cyfarpar y gallai staff gorsafoedd pleidleisio fod yn llai cyfarwydd ag ef, fel dolenni clyw neu ddatrysiadau sain
  • pwysigrwydd sicrhau bod unrhyw gyfarpar o'r fath a ddarperir yn cael ei arddangos yn glir ac ar gael i bleidleiswyr ei ddefnyddio
  • ymwybyddiaeth y gall cydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w cynorthwyo ar ôl iddynt gwblhau'r datganiad. Gall hyn fod yn unrhyw un: 
    • dros 18 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu 
    • dros 16 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd, Senedd yr Alban a llywodraeth leol yng Nghymru a'r Alban 
  • Yn yr Alban, rhaid i'r cydymaith hefyd allu pleidleisio yn yr etholiad hwnnw neu fod yn berthynas agos i'r pleidleisiwr. 
  • ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr anabl gael anifail cymorth gyda nhw ac na ddylid atal anifeiliaid cymorth rhag mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio 
  • ymwybyddiaeth y gallai pleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg ddefnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu gario cyfarpar cynorthwyol maint poced, fel chwyddwyr fideo, i'w helpu i ddarllen dogfennau yn yr orsaf bleidleisio neu ar y cyd â dyfais bleidleisio gyffyrddol
  • ymwybyddiaeth bod y defnydd o apiau testun i leferydd yn dderbyniol i'w defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio
  • ymwybyddiaeth o ddulliau amgen o gyfathrebu y gallai pleidleiswyr ei ddefnyddio megis Makaton ac Iaith Arwyddion Prydain (IAP)
  • ymwybyddiaeth bod gan rai pleidleiswyr gyflyrau iechyd sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wisgo masgiau wyneb i leihau ffactorau risg feirysol mewn mannau cyhoeddus a sut y byddech chi'n mynd ati i reoli unrhyw wiriadau adnabod llun os oes angen ar gyfer eich etholiad

Yn ein canllawiau craidd ar gyfer  Swyddogion Canlyniadau ar gyfer pob math o etholiad, rydym yn cysylltu ag adnoddau ar gyfer hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio sy'n cynnwys gwybodaeth am rôl staff gorsafoedd pleidleisio wrth sicrhau bod pleidleisio'n hygyrch a'r cyfarpar sydd ar gael i gynorthwyo pleidleiswyr anabl ar hygyrchedd y dylech dynnu sylw atynt wrth friffio staff gorsafoedd pleidleisio. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025