| Argraffu'r canllawiau llawn

Fel Swyddog Canlyniadau, dylech ddefnyddio data lleol sydd ar gael yn rhagweithiol i lywio eich penderfyniadau ynghylch y cymorth a'r cyfarpar ychwanegol a ddarparwch mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr dall, sydd â golwg rhannol neu anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Ceir rhagor o wybodaeth am gael yr hawl i ddata a gedwir gan eich awdurdod lleol am drigolion anabl a'i ddefnyddio yn ein canllawiau ar Rannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl. 

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn derbyn ceisiadau am ddarparu cymorth neu gyfarpar ychwanegol, y tu hwnt i'r rhai sydd gennych eisoes neu yr ydych yn bwriadu eu rhoi ar waith.  

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael gwybod gan bleidleisiwr â math penodol o nam eu bod yn parhau i fod dan anfantais sylweddol (h.y. anfantais sy'n fwy na bach neu ddibwys) er gwaethaf eich addasiadau, gan fod ganddynt anghenion ychwanegol.  

Mewn achosion o'r fath, fel rhan o'ch dyletswydd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 rhaid i chi ystyried y cais a phenderfynu a yw'n rhesymol darparu cymorth a/neu gyfarpar ychwanegol i gael gwared ar yr anfantais sylweddol y mae'r pleidleiswyr wedi'i nodi a'i dwyn i'ch sylw. Nid oes proses benodol yn y gyfraith ar gyfer sut y byddwch yn penderfynu pa gyfarpar sy'n rhesymol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi cyngor ynghylch gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle (Yn agor mewn ffenestr newydd).  Er nad yw wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, gall fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu a yw'n rhesymol gwneud addasiad.   

Rhaid ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau a gyda'r bwriad o barhau i gynorthwyo hawl pob pleidleisiwr i allu bwrw ei bleidlais. Wrth wneud eich penderfyniad ynghylch a yw'n rhesymol gwneud addasiad, mae yna ystod o ffactorau y dylech eu hystyried, yn cynnwys:

  • a fydd darparu'r cymorth neu'r cyfarpar ychwanegol y gofynnwyd amdano yn galluogi neu'n gwneud pleidleisio'n haws i bleidleiswyr anabl? 
  • eich gallu i ddarparu'r cymorth ychwanegol. Er enghraifft:
    • a yw'r cyfarpar ar gael ar unrhyw adeg i'w brynu, ei fenthyg neu ei logi?
    • a yw'r goblygiadau cost yn rhesymol? 
    • a oes unrhyw ddewisiadau amgen mwy cost-effeithiol neu sydd ar gael ar unrhyw adeg?
    • a yw'r cyfarpar yn ddefnydd sengl neu a ellir ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau yn y dyfodol?
  • a yw'r cyfarpar y gofynnwyd amdano yn gludadwy ac a ellir ei drosglwyddo i orsaf bleidleisio arall os oes angen (er enghraifft, oherwydd newid gorsaf bleidleisio munud olaf)?
  • a oes unrhyw oblygiadau hyfforddi i'w hystyried er mwyn i staff ddarparu'r cymorth sydd ei angen neu i gynorthwyo gyda defnyddio'r cyfarpar?
  • a ydych chi wedi ymgysylltu ag unigolion yn eich awdurdod lleol sydd ag arbenigedd mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael cyngor?

Nid oes gofyn i chi ganiatáu pob cais am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, ond rhaid i chi allu dangos eich bod wedi cyflawni eich dyletswydd ragweld dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac wedi rhoi ystyriaeth briodol i bob cais gan ddefnyddio meini prawf teg a chyson. Dylech hefyd gadw digon o wybodaeth am geisiadau at ddibenion cynllunio yn y dyfodol ac i'ch galluogi i adolygu effeithiolrwydd eich darpariaeth ar gyfer pleidleiswyr anabl.  

Dylech benderfynu sut y byddwch yn hysbysu pleidleisiwr am ganlyniad eich penderfyniad, yn enwedig os nad ydych wedi gallu bodloni eu cais ond eich bod yn gallu cynnig opsiynau eraill. Dylech hefyd roi rhagor o wybodaeth iddynt am y cyfarpar a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio i sicrhau eu bod yn cynnig cymorth i'r pleidleisiwr yn rhagweithiol.  

Dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw benderfyniadau a wnewch fod yn destun her gyfreithiol.  

Cadw gwybodaeth pan gysylltir â chi gan bleidleisiwr anabl am gymorth neu gyfarpar ychwanegol

Pan gysylltir â chi gan bleidleisiwr anabl yn gofyn am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, efallai y byddwch yn derbyn data categori arbennig sensitif am yr unigolyn hwnnw a'i anghenion penodol. Ystyrir chi yn rheolwr data ar gyfer y data sensitif hwn a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rheoli prosesu'r data hwnnw yn unol â gofynion diogelu data, yn cynnwys sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o sut y bydd ei ddata yn cael ei brosesu.  

Dylech gymryd cyngor gan eich Swyddog Diogelu Data ynghylch beth i'w wneud â'r data ar ôl ei brosesu ac a oes angen i chi ddiweddaru unrhyw hysbysiadau preifatrwydd perthnasol. Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am reoli data categori arbennig. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2025