Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Dylai pob person allu cofrestru a phleidleisio heb wynebu rhwystrau.
Mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth a chyngor ar y camau y gallwch chi a’ch staff eu cymryd i helpu mynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau y mae pleidleiswyr anabl yn eu hwynebu wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Ei nod yw eich cynorthwyo i:
- nodi a darparu cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio sy’n galluogi neu'n gwneud pleidleisio’n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol
- sicrhau bod y rhai sy’n gweithio i gynorthwyo’r etholiad yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr anabl a’r camau y dylent eu cymryd i’w cynorthwyo
Rydym wedi ymgynghori ag ystod eang o sefydliadau sy’n cynrychioli pobl anabl wrth ddrafftio’r canllawiau hyn. Rhoddodd eu hymatebion wybod i ni beth yw’r profiadau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio i bleidleiswyr anabl a’r arferon a'r cyfarpar a allai helpu i wella eu profiad. Mae'r canllawiau’n adlewyrchu'r adborth a dderbyniwyd gan yr unigolion a'r sefydliadau hynny cyn belled ag y bo modd o fewn cwmpas y canllawiau a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Drwy gydol y canllawiau hyn rydym yn defnyddio'r gair rhaid i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol ar gyfer arfer a argymhellir.
Fel Swyddog Canlyniadau, rhaid i chi ystyried y canllawiau a'r cyfarpar sydd i'w darparu mewn gorsafoedd pleidleisio1 fel rhan o'ch dyletswyddau ehangach i ystyried anghenion pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio, gwneud addasiadau rhesymol a darparu cyfarpar.
Rydym yn gofyn am adborth gan bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol ar y cyfarpar a ddarperir i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fel rhan o'n hadroddiadau ar etholiadau ac i gynorthwyo gyda nodi a rhannu arferion da.
Diweddariadau i'n canllawiau
| Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o'r newid |
|---|---|
| Rhagfyr 2025 | Diweddariadau i'r canllawiau yn dilyn cyfnod ymgynghori statudol yn haf 2025, i alinio canllawiau ar gyfer etholiadau'r Senedd a Senedd yr Alban, a chyhoeddi adnoddau ategol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau |
- 1. Rheol 29 (10) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Rheol 37(15) Atodlen 5 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, Rheol 38(4D), Atodlen 2 Gorchymyn Cynulliad y Alban (Etholiadau ac yn y blaen) 2015. ↩ Back to content at footnote 1
Cyfrifoldebau cyfreithiol y Swyddog Canlyniadau i gefnogi pleidleiswyr anabl
Dylai pob pleidleisiwr gael yr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Fodd bynnag, gwyddom fod pobl anabl gan gynnwys pobl ddall a phobl rhannol ddall yn wynebu rhwystrau i bleidleisio sy'n cynnwys:
- y ffaith nad yw eu hawliau pleidleisio'n cael eu cyfathrebu mewn ffordd hygyrch
- y ffaith nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth gofrestru i bleidleisio neu wrth bleidleisio
- rhwystrau corfforol, seicolegol a rhwystrau o ran gwybodaeth wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
- ymarfer gweledol – drwy roi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur – yw'r dull o bleidleisio i bob pwrpas
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio mai ystyr cael anabledd yw cael cyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar y gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Gall anabledd fod o ganlyniad i gyflwr meddygol: er enghraifft, gall rhywun ag arthritis yn ei ddwylo gael anhawster wrth afael mewn pethau heb ddefnyddio cymhorthyn ategol, efallai y bydd rhywun sydd ag imiwnedd gwan yn ofalus ynghylch mannau cyhoeddus caeedig ac yn gwisgo mwgwd wyneb, ac efallai y bydd angen lle i orffwys ar rywun â chymhlethdodau ôl-feirysol fel COVID hir cyn dechrau'r broses bleidleisio. Ond nid oes rhaid i anabledd fod yn gyflwr meddygol â diagnosis a gall gynnwys namau corfforol a seicolegol a all fod yn weladwy ac yn anweladwy. Er enghraifft, os bydd person yn dioddef iselder, mae'n bosibl y bydd yn cael anhawster canolbwyntio, yn ogystal â namau corfforol, megis blinder eithafol.
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ystyried rhwystrau i bleidleisio, sut y gallwch sicrhau eich bod chi a'ch staff yn ymwybodol ohonynt, a sut y gallwch nodi a darparu cymorth a chyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ddarparu offer o'r fath, fel sy'n rhesymol, i alluogi neu i'w gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol ar gyfer pob etholiad a gynhelir ledled y DU1 . Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofynion cyfyngedig a rhagnodol blaenorol ac mae hefyd yn eistedd o fewn y fframwaith cyfreithiol ehangach o hawliau ac amddiffyniadau i bobl anabl a darpariaethau penodol mewn cyfraith etholiadol i helpu i ddiogelu a gwella profiad pleidleiswyr anabl.
Wrth ddarllen y canllawiau hyn, nodwch, lle rydym yn defnyddio'r term deddfwriaeth cydraddoldeb, fod hyn yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth a nodir isod:
Deddf Cydraddoldeb 2010
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan Swyddogion Canlyniadau ym Mhrydain Fawr ddyletswydd i:
- rhagweld anghenion pleidleiswyr anabl a
- gwneud addasiadau rhesymol i ddileu anfantais sylweddol i'r pleidleiswyr hynny.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau gymryd camau i ddeall a rhagweld yn barhaus anghenion pleidleiswyr anabl - gyda mathau gwahanol o ofynion o ran anabledd, cymorth a mynediad yn eu hardal fel y gallant wneud penderfyniadau hyddysg am y ffordd orau o ddiwallu'r anghenion hynny drwy wneud addasiadau rhesymol, gan gynnwys darparu cyfarpar a chymorth priodol. Gelwir hyn yn ddyletswydd ragweledol.
Mae Adran 149 o'r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus a'r rheini sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Fel Swyddog Canlyniadau, dylech ystyried yr angen i ddatblygu cyfle cyfartal drwy annog cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus, a fyddai'n cynnwys pleidleisio.
Dylech ymgysylltu â chydweithwyr sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod dyletswyddau perthnasol o dan y darpariaethau hyn yn cael eu cyflawni ar draws y gwahanol wasanaethau a ddarperir gan eich sefydliad, e.e. yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth glir o sut i gymhwyso'r egwyddorion hyn i'ch rôl fel Swyddog Canlyniadau yn barhaus.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi gwybodaeth am y ddyletswydd ragweledol a'r meini prawf ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol, a chanllawiau ar gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Er nad yw'r wybodaeth hon wedi'i hysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, mae'n cynnig arweiniad defnyddiol ar:
- ystyr y ddyletswydd ragweledol a gwneud addasiadau rhesymol
- enghreifftiau ymarferol o wneud addasiadau rhesymol
- y camau sy'n ofynnol yn gyfreithiol, ynghyd â chamau a argymhellir, i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Wrth ystyried eich dyletswyddau o dan Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, dylech gymhwyso'r egwyddorion cyffredinol canlynol2 :
- dylai fod dadansoddiad priodol o'r holl ddeunydd perthnasol a gwerthfawrogiad o'r ddyletswydd i roi sylw dyledus.
- ni ddylai fod yn ymarfer ticio blychau ond yn hytrach dylid ei integreiddio yn y broses o wneud penderfyniadau.
- mae'r ddyletswydd yn un barhaus.
- dylid arfer y ddyletswydd i roi sylw dyledus yn drylwyr ac â meddwl agored.
- dylid ailystyried y ddyletswydd os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg a dylid cadw cofnodion digonol o'r prosesau ystyried a gwneud penderfyniadau a gynhaliwyd er mwyn dangos bod y dyletswyddau cydraddoldeb wedi'u cyflawni'n gydwybodol.
Gall Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb fod yn ddefnyddiol wrth ddarparu dull cyson o ystyried sut i ragweld anghenion pleidleiswyr anabl ac wrth fonitro eich cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth am gwblhau Asesiadau Effaith ar gael gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Deddf Gogledd Iwerddon 1998
Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini sydd ag anabledd a'r rheini nad oes ganddynt anabledd wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i ddatblygu polisïau rhoi polisïau ar waith a darparu gwasanaethau (gan gynnwys cynnal etholiadau).
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (sy'n parhau i fod yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon yn unig)
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, sy'n cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol, wneud addasiadau rhesymol i ddileu unrhyw anfantais sylweddol i bobl anabl.
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Mae darpariaethau penodol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy'n cefnogi hygyrchedd etholiadau i bleidleiswyr anabl.
Adran 199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Rhaid i chi sicrhau y caiff hysbysiadau etholiad eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformatau eraill, lle y credwch ei bod yn briodol gwneud hynny. Gallwch eu cynhyrchu:
- Mewn Braille3
- Mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg4
- Gan ddefnyddio lluniau5
- Mewn fformat sain6
- Gan ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch.7
Atodlen A1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Rhaid i chi ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio posibl wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio. 8 Rhaid i'r awdurdod perthnasol9 geisio sylwadau gan y rheini sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl sydd â mathau gwahanol o anabledd.10
Mae ein canllawiau ar adolygu dosbarthiadau etholiadol yn cynnwys mwy o wybodaeth am y ddyletswydd hon ac mae'n cynnwys rhestr wirio hygyrchedd y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a gorsaf bleidleisio.
Dyletswydd i ddarparu offer a rhoi sylw i ganllawiau
Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 y darpariaethau cychwynnol i gynorthwyo pleidleiswyr dall, rhannol ddall ac anabl eraill mewn gorsafoedd pleidleisio i gyfraith etholiadol y DU. Mae'r darpariaethau hyn wedi cael eu hailadrodd ar draws gwahanol etholiadau gan Lywodraeth y DU a chan Senedd Cymru a Senedd yr Alban ar gyfer etholiadau ledled Cymru a'r Alban.11
Mae'n ofynnol i chi:
- ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pobl berthnasol12 i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn
- ystyried canllawiau'r Comisiwn ar y cyfarpar y bydd angen ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio.13 Gellir dod o hyd i'r canllawiau hyn yn Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy'n galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn.
Etholiadau trawsffiniol
Mae'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer y bleidlais yn gyfrifol am ddarparu offer i alluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio, mae hyn yn cynnwys lle mae'r ardal etholiadol yn croesi ffiniau awdurdodau lleol.
Dylech gysylltu ag unrhyw Swyddogion Canlyniadau perthnasol i nodi unrhyw anghenion offer penodol hysbys mewn gorsafoedd pleidleisio unigol, yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran darparu offer ar draws yr ardal etholiadol gyfan.
Mae geiriad y darpariaethau yn cydnabod yr amrywiadau yn yr hyn sydd ei angen ar bobl i allu pleidleisio, fel y gallant gael yr hawl i'r cymorth mwyaf priodol i bob un ohonynt, gan sicrhau'r cymorth, y gefnogaeth, yr arloesedd a'r hygyrchedd ehangaf posibl.
Mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol i'r etholiadau canlynol:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau'r Senedd
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau lleol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a'r Alban14
- Etholiadau maerol yn Lloegr
- Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
- Etholiadau'r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
- Refferenda Cynllunio Cymdogaethau
- Refferenda Trethi'r Cyngor
Mae'r darpariaethau hefyd yn ymestyn y rheolau ynghylch pwy all weithredu fel cydymaith i gynnwys unrhyw un sydd:
- dros 18 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu
- sydd dros 16 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru15
Nid yw'r newid hwn yn berthnasol i etholiadau Senedd yr Alban na etholiadau lleol yr Alban, lle mae'r rheolau'n parhau bod yn rhaid i gydymaith fod naill ai'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, neu'n aelod agos o'r teulu (priod/partner sifil/rhiant/taid neu nain/plentyn/brawd/chwaer/wyres/ŵyr) sydd dros 16 oed.
- 1. Disgwylir i ddeddfwriaeth sy'n ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru fod ar waith cyn mis Mai 2026 ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban cyn yr etholiadau cyffredin yn 2027. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. R (Brown) yn erbyn SSWP [2008] ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 199B(2)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 199B(2)(b), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 199B(2)(c), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 199B(3), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 199B(2)(d), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran.18B(4(c)) Atodlen A1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 18E o Ddeddf 1983 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Adran.4(1) Atodlen A1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Disgwylir i ddeddfwriaeth sy'n ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru fod ar waith cyn mis Mai 2026 ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban cyn yr etholiadau cyffredin yn 2027. ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Diffinnir personau perthnasol yn y ddeddfwriaeth fel y rhai sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl pleidleisio oherwydd eu bod yn ddall, yn rhannol ddall neu fod ganddynt anabledd arall. ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Rheol 29(3A)(b), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 38(4)(b), Atodlen 2, Gorchymyn Senedd yr Alban (etholiadau ac ati) 2015 (Gorchymyn Senedd yr Alban 2015); Rheol 37(7)(b), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (Gorchymyn y Senedd 2025) ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Disgwylir i ddeddfwriaeth sy'n ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru fod ar waith cyn mis Mai 2026 ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban cyn yr etholiadau cyffredin yn 2027. ↩ Back to content at footnote 14
- 15. Rheol 39(2)(b)(i), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 48(4) Atodlen 5, Gorchymyn y Senedd 2025. Disgwylir i ddeddfwriaeth sy'n ymestyn y darpariaethau hyn i etholiadau lleol yng Nghymru fod ar waith cyn mis Mai 2026. ↩ Back to content at footnote 15
Deall y rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl
Drwy nodi a deall y rhwystrau ffisegol, seicolegol a'r rhwystrau o ran gwybodaeth y gall pobl eu hwynebu wrth bleidleisio, byddwch mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i helpu i'w cefnogi.
Ymysg rhai o'r rhwystrau a'r heriau a wynebir gan bobl anabl mae'r canlynol:
- Nid ydynt yn cael gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio
- Nid yw cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gael mewn Cymraeg neu Saesneg clir, neu fformat hawdd ei ddeall
- Diffyg gwybodaeth am gymdeithion i helpu â phleidleisio
- Diffyg gwybodaeth am y profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio sy'n achosi pryder am bethau fel:
- teithio i'r orsaf bleidleisio, yn enwedig os yw am y tro cyntaf
- gallu dod o hyd i'r orsaf bleidleisio a chael mynediad iddi
- gwybod beth fydd yn digwydd yno
- gwybod beth yw'r broses ar gyfer pleidleisio
- y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yno ar yr un pryd
- y posibilrwydd y bydd llawer o sŵn
- teimlo bod rhaid rhuthro i wneud penderfyniadau yn gyflym
- ciwio
- Nid yw'r adeilad/yr orsaf bleidleisio yn hygyrch. Er enghraifft, os oes grisiau neu os nad yw'r cynllun y tu mewn yn addas i bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn
- Nid oes cyfarwyddiadau wedi'u darparu mewn fformat sy'n hygyrch i helpu pobl anabl sydd â:
- Nam ar y golwg neu ddallineb
- Nam ar y clyw neu golled clyw
- Dyslecsia
- Anawsterau dysgu
- Nam gwybyddol
- Nid oes gan staff gorsafoedd pleidleisio y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gyfathrebu'n effeithiol
- Nid oes cymorth na chymhorthion ategol yn hygyrch nac ar gael yn rhwydd i helpu pleidleiswyr i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol
- Nid oes seddi na threfniadau eraill ar gael i gefnogi'r rheini na allant sefyll mewn ciw.
- Nid oes gan staff gorsafoedd pleidleisio y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gefnogi pleidleiswyr sy'n niwrowahanol ac sydd ag anableddau cudd i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Rhwystrau ychwanegol i bobl ddall a phobl rhannol ddall
Ymarfer gweledol – drwy roi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur – yw'r dull o bleidleisio i bob pwrpas. Oherwydd hyn, mae pobl ddall a phobl rhannol ddall yn wynebu rhwystrau ychwanegol nad yw pobl eraill nad oes ganddynt golled golwg yn eu hwynebu:
- Gall prinder cyfarpar ychwanegol neu ddigon o olau ei gwneud hi'n anodd neu'n amhosibl i bobl ddall neu bobl rhannol ddall wneud y canlynol:
- Darllen yr enwau ar y papur pleidleisio
- Gwneud marc mewn lleoliad penodol ar y papur pleidleisio
- Dilysu eu pleidlais yn annibynnol ar ôl gwneud eu marc ar y papur pleidleisio
- Nid yw staff gorsafoedd pleidleisio'n ymwybodol y gall pobl ddall a phobl rhannol ddall wynebu rhwystrau wrth wneud eu ffordd o amgylch amgylchedd yr orsaf bleidleisio
- Nid oes gan staff gorsafoedd pleidleisio y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gefnogi pleidleiswyr sydd â cholled golwg i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Er enghraifft os ydynt yn anghyfarwydd â chyfarpar pleidleisio hygyrch
- Nid yw gorsafoedd pleidleisio'n cynnwys y cyfarpar neu nid yw staff gorsafoedd pleidleisio'n ymwybodol o'r cyfarpar a all gefnogi pobl ddall a phobl rhannol ddall - er enghraifft, y copi llaw o'r fersiwn print bras o'r papur pleidleisio a'r ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy gywir
- Nid yw staff gorsafoedd pleidleisio yn ddigon ymwybodol o golled golwg ac nid ydynt yn gwybod sut i ryngweithio'n briodol â rhywun sydd â cholled golwg
Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy’n galluogi neu'n gwneud pleidleisio’n haws i bleidleiswyr anabl
Mae'r adran hon yn amlinellu'r wybodaeth i bleidleiswyr y mae'n rhaid ei darparu yn yr orsaf bleidleisio yn ogystal â rhestr o gyfarpar yr ydym yn cynghori y dylid ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i leihau neu ddileu rhwystrau hysbys a sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl i bleidleiswyr anabl.
Mae hefyd yn tynnu sylw at gyfarpar ychwanegol pellach y gallai fod yn briodol i chi ei ddarparu mewn rhai gorsafoedd pleidleisio os ydych wedi nodi angen fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, neu os cewch eich hysbysu o anghenion penodol pleidleiswyr anabl trwy gais am addasiad rhesymol.
Gwybodaeth i bleidleiswyr
Er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y broses bleidleisio a sut i farcio eu papur pleidleisio, rhaid i chi ddarparu:
- hysbysiad y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio yn rhoi canllawiau ar sut i bleidleisio yn yr etholiad1 2
- hysbysiad ym mhob bwth pleidleisio yn darparu gwybodaeth am sut i farcio papur pleidleisio yn yr etholiad2
- arddangos o leiaf un copi sampl mawr o'r papur pleidleisio y tu mewn i'r orsaf bleidleisio3 , yn ddelfrydol mewn lleoliad sydd wedi'i oleuo'n dda lle gall pleidleiswyr ei weld yn hawdd cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd papurau pleidleisio sampl print bras a arddangosir yn glir yn yr orsaf yn cynorthwyo pleidleiswyr sydd â golwg rhannol a hefyd pleidleiswyr a hoffai gael rhywfaint o amser i edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i mewn i'r bwth
- copi llaw mwy o'r papur pleidleisio. Gellir rhoi hwn i bleidleiswyr sydd â golwg rhannol neu ar gais i unrhyw bleidleisiwr arall a fyddai'n ei chael hi'n ddefnyddiol ei gymryd i'r bwth pleidleisio i gyfeirio ato wrth farcio eu papur pleidleisio.
Rhaid i chi ystyried a yw'n briodol gwneud hysbysiadau'n fwy hygyrch i ystod ehangach o bleidleiswyr4 drwy eu darparu mewn ieithoedd a fformatau amgen, e.e. mewn Braille, ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, mewn fformatau darluniadol5 neu ar ffurf glywadwy6 . Mae Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth yn darparu canllawiau ar eu gwefan ynghylch gwneud cyfathrebiadau'n hygyrch.
Yn ogystal â bodloni'r gofynion statudol gofynnol a nodir uchod, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gopïau sampl ychwanegol a chopïau mwy o adnoddau'r papurau pleidleisio ar gael yn hawdd ac yn weladwy yn yr orsaf bleidleisio - bydd eu rhoi yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr eu gweld yn hawdd.
Cyfarpar i gynorthwyo pleidleiswyr i gymryd rhan
Mae gennych ddyletswydd i ddarparu cyfarpar rhesymol i bob gorsaf bleidleisio er mwyn galluogi, neu ei gwneud hi'n haws i, bersonau perthnasol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol7
. Mae gennym ddyletswydd i roi canllawiau mewn perthynas â'ch dyletswydd i ddarparu'r cyfarpar hwn8
. Rhaid i chi ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eich dyletswydd i ddarparu cyfarpar priodol ond yn y pen draw, chi fel Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu ar y trefniadau a'r cyfarpar sy'n rhesymol i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl ar draws eich ardal fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
Nod y canllawiau hyn yw eich cynorthwyo drwy dynnu sylw at y mathau o gyfarpar a allai helpu i gael gwared ar rwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. Gall ffactorau sy'n unigryw i'ch ardal leol - sy'n ymwneud â maint a graddfa gorsafoedd pleidleisio, neu ofynion penodol eich etholwyr lleol rydych wedi eu nodi fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, lunio'r dull y byddwch yn penderfynu ei gymryd.
Mae yna amrywiol ffyrdd y gallwch chi adeiladu'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o gyfarpar a allai fod yn briodol i'w ddarparu a all cael yr effaith fwyaf mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol i gynorthwyo pleidleiswyr ag anableddau gwahanol yn rhagweithiol. Dylech ystyried:
- ymgysylltu'n rhagweithiol â grwpiau cymunedol yn eich ardal
- defnyddio data o fewn eich awdurdod lleol a'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lle mae pleidleiswyr anabl eisoes wedi'u nodi, neu wedi gwneud ceisiadau blaenorol am addasiadau rhesymol sy'n eich galluogi i gysylltu â nhw'n rhagweithiol ynglŷn â'u profiad pleidleisio
- gweithio gydag ymddiriedolaethau GIG lleol a sefydliadau trydydd sector i gael cyngor arferion da ar gynorthwyo pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a defnyddio eu rhwydweithiau i gasglu gwybodaeth am brofiadau byw a hyrwyddo gwybodaeth am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio.
- adborth rydych wedi'i dderbyn gan bleidleiswyr neu staff gorsafoedd pleidleisio yn dilyn etholiad
- cymryd cyngor ar iechyd a diogelwch gan arbenigwyr yn eich awdurdod lleol ynghylch defnyddio cyfarpar fel rampiau a gorchuddion llawr dros dro.
Dylech ddefnyddio'r wybodaeth hon i adolygu'r cyfarpar rydych chi'n ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer etholiadau ac yn eich adolygiadau ôl-etholiad.
Dylid ystyried penderfyniadau ynghylch cyfarpar priodol yn ofalus, yn dryloyw ac yn rheolaidd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn Gwneud penderfyniadau ynghylch darparu cymorth a chyfarpar ychwanegol i bleidleiswyr
Dylech geisio cyngor gan yr adran lywodraeth berthnasol (yn dibynnu ar y math o etholiad) ynghylch a oes unrhyw drefniadau ariannu ar gael.
- 1. Rheol 29(4) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobol 1983 (RPA 1983); Rheol 26(4) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962, Rheol 38(11), Atodlen 2 Senedd yr Alban (etholiadau ac ati) Gorchymyn 2015 (Gorchymyn Senedd yr Alban 2015), Rheol 37(10), Atodlen 2 Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) Gorchymyn 2025 (Gorchymyn y Senedd 2025)– hysbysiad penodol. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1, rheol 29(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(4) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 – hysbysiad penodedig↩ Back to content at footnote 2 a b
- 3. Rheol 29(3A)(a), Atodlen 1 RPA 1983; Rheol 26(3A(a)) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962, Rheol 38(4)(a), Atodlen 2 Gorchymyn Senedd yr Alban 2015, Rheol 37(6), Atodlen 5 Gorchymyn y Senedd 2025. ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 199B(2) o’r RPA 1983; mae adran199B RPA 1983 berthnasol i Ogledd Iwerddon yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyfraith Etholiadol 2006 (Dechrau Rhif 7) Gorchymyn 2008, erthygl 86(3) Gorchymyn Senedd yr Alban 2015, Erthygl 138(2) Gorchymyn y Senedd 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 199B(2) o’r RPA 1983; mae adran199B RPA 1983 berthnasol i Ogledd Iwerddon yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyfraith Etholiadol 2006 (Dechrau Rhif 7) Gorchymyn 2008, erthygl 86(3) Gorchymyn Senedd yr Alban 2015, Erthygl 138(2) Gorchymyn y Senedd 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 199B(2) o’r RPA 1983; mae adran199B RPA 1983 berthnasol i Ogledd Iwerddon yn unol ag adran 3 o Ddeddf Cyfraith Etholiadol 2006 (Dechrau Rhif 7) Gorchymyn 2008, erthygl 86(3) Gorchymyn Senedd yr Alban 2015, Erthygl 138(2) Gorchymyn y Senedd 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 29(3A)(b)(i) Atodlen 1, RPA 1983 (fel y diwygiwyd gan adran 9 Deddf Etholiadau 2022), Rheol 38(4)(b), atodlen 2 Gorchymyn Senedd yr Alban 2015, Rheol 37(7)(b) Atodlen 5, Gorchymyn y Senedd 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 9 (8), Deddf Etholiadau 2022, Rheol 38(4D), Atodlen 2 Gorchymyn Senedd yr Alban 2015, Rheol 37(15), Atodlen 5 Gorchymyn y Senedd 2025. ↩ Back to content at footnote 8
Isafswm y cyfarpar i'w ddarparu
Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau rydym wedi nodi ystod o gyfarpar allai helpu i oresgyn y rhwystrau hysbys sy'n wynebu pobl anabl. Mae llawer o'r eitemau hyn ar gael ar unrhyw adeg am gost gyfyngedig a gallant gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar brofiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio.
Dylid darparu'r isafswm canlynol o gyfarpar ym mhob gorsaf bleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl:
- cadeiriau/seddi – mae hyn yn darparu lle i bleidleiswyr na allant sefyll am gyfnodau hir orffwys a sedd i bleidleiswyr a hoffai gymryd peth amser i feddwl cyn mynd i mewn i'r bwth pleidleisio
- chwyddwydrau – gall y rhain ddarparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i bleidleisio'n annibynnol drwy gynyddu maint y testun ar ddogfen. Bydd cryfder y chwyddwydr sydd ei angen yn amrywio yn dibynnu ar faint mae'r pleidleisiwr yn ei weld. Efallai y bydd angen i chi ddarparu chwyddwydrau â mwy nag un cryfder yn dibynnu ar anghenion y pleidleiswyr mewn gorsaf bleidleisio benodol
- dyfais bleidleisio gyffyrddol – mae dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol yn darparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir, ar yr amod ei fod wedi'i osod ar y papur pleidleisio'n gywir. Maent yn darparu cymorth i gwblhau'r papur pleidleisio unwaith y bydd pleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg yn gwybod safle'r ymgeisydd y maent am bleidleisio drosto ar y papur pleidleisio. Nid ydynt yn caniatáu i bleidleiswyr dall bleidleisio'n annibynnol oni bai bod ganddynt wybodaeth hygyrch hefyd am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio, er enghraifft fersiwn sain neu braille o'r papur pleidleisio
- bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn – yn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn yn gallu defnyddio arwyneb ysgrifennu is i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth sy'n hygyrch
- bathodynnau sy'n nodi staff gorsaf bleidleisio – mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i adnabod yn haws pwy sy'n aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio ac felly gellir cysylltu â nhw am gymorth. Gellir teilwra'r math o fathodyn a'r testun a ddefnyddir i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol unigol. Er enghraifft, gallech roi bathodyn i staff gorsafoedd pleidleisio sy'n nodi eu henw cyntaf ac yn egluro eu rôl a'u bod yn hapus i helpu
- gafael pensil – gall y rhain helpu pleidleiswyr â nam ar eu medrusrwydd i'w gwneud hi'n haws i ddal a defnyddio pensil yn annibynnol
- rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau) – mae'r rhain yn cynorthwyo mynediad i orsaf bleidleisio i bleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sy'n cael anhawster defnyddio grisiau
- rhybuddwyr dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân) – mae'r rhain yn darparu ffordd i bleidleiswyr roi gwybod i staff gorsafoedd pleidleisio fod angen cymorth arnynt i agor y drws fel y gallant ddefnyddio'r orsaf bleidleisio. Nid oes angen gosod y rhain yn barhaol na'u gosod mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio ond gellir eu gosod dros dro ar lefel hygyrch ar fwrdd neu gadair wrth ymyl unrhyw ddrysau y mae'n rhaid iddynt aros ar gau
- goleuadau priodol – mae gan rai lleoliadau gorsafoedd pleidleisio oleuadau da ond efallai y bydd angen goleuadau ychwanegol ar eraill wrth y ddesg; i sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau staff yn glir, ac yn y bythau pleidleisio; i gynorthwyo pleidleiswyr â nam ar eu golwg i allu darllen a chwblhau'r papur pleidleisio
- mannau parcio wedi'u cadw ar gyfer pleidleiswyr anabl (lle mae parcio ar gael yn y lleoliad) – mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos â phosibl at yr orsaf bleidleisio
Nid ydych wedi'ch cyfyngu i ddarparu'r cyfarpar a ddangosir yn y rhestr uchod yn unig, ac ni ddylech leihau na chael gwared ar unrhyw gyfarpar rydych wedi'i ddarparu o'r blaen i gynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal.
Cyfarpar ychwanegol a allai gynorthwyo pleidleiswyr anabl
Bydd eich gwaith i ddeall anghenion pleidleiswyr yn eich ardal yn bwysig i'ch helpu i nodi cyfarpar pellach y mae'n briodol ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol a fyddai'n galluogi neu'n ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae enghreifftiau o gyfarpar neu gymorth arall y gallech ei ddarparu yn cynnwys:
- Dolen anwythol clyw – mae'r rhain yn darparu cymorth i bleidleiswyr sy'n gwisgo cymhorthion clyw i gyfathrebu yn yr orsaf bleidleisio. Mae gan rai adeiladau ddolen anwythol wedi'i gosod yn arferol, ac os felly dylech ei defnyddio, a lle nad oes un ar gael yna gellir defnyddio dolen glyw gludadwy.
- Gwasanaeth Dehongli Fideo (VRI) Iaith Arwyddion Prydain (BSL) – mae hyn yn galluogi pleidleiswyr sy'n defnyddio BSL i wneud galwad fideo at ddehonglydd a all gyfieithu'r hyn sy'n cael ei ddweud rhwng y staff pleidleisio a'r pleidleisiwr.
- Datrysiadau sain – mecanweithiau yw'r rhain sy'n galluogi pleidleiswyr i wrando ar fanylion papurau pleidleisio wedi'u recordio ymlaen llaw, gan gynnwys rhestr yr ymgeiswyr, naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu ymlaen llaw, megis llinellau cymorth dros y ffôn, dolenni recordio ar wefan yr awdurdod lleol, neu ddyfeisiau sain symudol. Gellir defnyddio'r rhain ynghyd â'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol neu ddyfeisiau eraill, i alluogi pleidleiswyr dall a rhai sydd â golwg rhannol i farcio eu papur pleidleisio yn annibynnol. Mae datrysiadau sain/cyffyrddol cyfun hefyd ar gael a gellir eu darparu.
- Gwybodaeth ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen - mae hawdd ei ddarllen yn cyfeirio at gyflwyno testun mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddeall. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu a gall hefyd fod o fudd i bobl â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar sut maen nhw'n prosesu gwybodaeth. Er bod yr hysbysiadau i'w harddangos mewn gorsafoedd pleidleisio wedi'u wneud ymlaen llaw, gallech ystyried sut i arddangos y rhain hefyd mewn fformatau darluniadol neu hawdd eu darllen yn ac o amgylch yr orsaf bleidleisio.
- Gwybodaeth ar gael mewn fformatau print bras - Diffinnir print bras fel print bras 16pt Arial neu fwy ac mae'n cydymffurfio â chanllawiau print clir ynghylch cynllun, defnyddio ffontiau a delweddau. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bleidleiswyr sydd â nam ar y golwg a gall hefyd fod o fudd i bleidleiswyr hŷn, pleidleiswyr dyslecsig a phleidleiswyr sydd â dementia.
- Cymorth i etholwyr sy'n agored i niwed yn glinigol - ochr yn ochr â chynyddu awyru'r ystafell naill ai trwy agor ffenestri neu ddrysau neu ddefnyddio hidlwyr HEPA lle na ellir cadw ffenestri neu ddrysau ar agor, gallwch sicrhau bod masgiau wyneb yn cael eu darparu i staff yr orsaf bleidleisio eu defnyddio (gan ddefnyddio 'gweld mwgwd, gwisgo mwgwd' fel sail) a hyrwyddo'r defnydd o bellter cymdeithasol wrth ryngweithio â phleidleiswyr sy'n agored i niwed yn glinigol. Dylai eich hyfforddiant staff gwmpasu sut y gallwch gynnig cynnal gwiriadau adnabod llun ar gyfer pobl sy'n gwisgo masgiau, gan gynnwys a ellid cynnal gwiriadau y tu allan ar gyfer y pleidleiswyr hyn os oes angen adnabod llun ar gyfer eich etholiad.
Dylai'r cyfarpar a'r adnoddau a ddarparwch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fod yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir fel y gellir eu hadnabod a'u defnyddio'n hawdd.
Gwneud penderfyniadau ynghylch darparu cymorth a chyfarpar ychwanegol i bleidleiswyr
Fel Swyddog Canlyniadau, gallwch ddefnyddio data lleol a all fod ar gael i lywio eich penderfyniadau am y cymorth a'r cyfarpar ychwanegol rydych yn ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi pleidleiswyr dall, rhannol ddall neu anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am gyrchu a defnyddio data a ddelir gan eich awdurdod lleol am breswylwyr anabl yn Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl
Mae'n bosibl y byddwch yn cael ceisiadau i ddarparu cymorth neu gyfarpar ychwanegol, yn ogystal â'r hyn sydd gennych neu rydych eisoes yn bwriadu ei ddarparu.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael gwybod gan bleidleisiwr â math penodol o nam ei fod yn wynebu anfantais sylweddol o hyd (h.y. anfantais sy'n fwy na mân neu ddibwys) er gwaethaf eich addasiadau, am fod ganddo anghenion ychwanegol.
Mewn achosion o'r fath, fel rhan o'ch dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2020, rhaid i chi ystyried y cais a phenderfynu a yw'n rhesymol darparu cymorth a/neu gyfarpar ychwanegol er mwyn dileu'r anfantais sylweddol y mae'r pleidleisiwr wedi'i nodi a thynnu eich sylw ati. Nid oes unrhyw broses benodol yn y gyfraith ar gyfer sut y byddwch yn penderfynu bod cyfarpar yn rhesymol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi cyngor ar wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle. Er nad yw wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, gall fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu a yw'n rhesymol gwneud addasiad.
Rhaid ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod a gyda'r bwriad o barhau i gefnogi hawl pob pleidleisiwr i allu bwrw ei bleidlais. Pan fyddwch yn gwneud eich penderfyniad ynghylch a yw'n rhesymol gwneud addasiad, mae amrywiaeth o ffactorau y dylech eu hystyried, gan gynnwys y canlynol:
- A fydd darparu'r cymorth neu'r cyfarpar ychwanegol y gofynnwyd amdano yn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio, neu'n ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn?
- Pa mor hawdd neu ymarferol yw darparu'r cymorth ychwanegol neu gyflenwi'r cyfarpar y gofynnwyd amdano? Er enghraifft:
- A oes modd prynu'r cyfarpar yn hawdd?
- A yw'r goblygiadau o ran cost yn rhesymol?
- A oes unrhyw opsiynau amgen ar gael sy'n fwy cost effeithiol neu y mae'n haws cael gafael arnynt?
- Ai cyfarpar untro yw hwn neu a ellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol?
- A yw'r cyfarpar y gofynnwyd amdano yn gludadwy ac a ellir ei gludo i orsaf bleidleisio arall pe bai angen (er enghraifft, oherwydd newid munud olaf i'r orsaf bleidleisio)?
- A oes unrhyw oblygiadau hyfforddiant i'w hystyried er mwyn i staff ddarparu'r cymorth gofynnol neu helpu pobl i ddefnyddio'r cyfarpar?
- A ydych wedi cysylltu ag unigolion yn eich awdurdod lleol sydd ag arbenigedd mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael cyngor?
Nid yw'n ofynnol i chi gytuno i bob cais am gymorth ychwanegol na chyfarpar, ond rhaid i chi allu dangos eich bod wedi cyflawni eich dyletswydd ragweledol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac wedi ystyried pob cais yn briodol gan ddefnyddio meini prawf teg a chyson. Dylech gadw gwybodaeth ddigonol am geisiadau at ddibenion cynllunio yn y dyfodol ac i'ch galluogi i adolygu effeithiolrwydd eich darpariaeth ar gyfer pleidleiswyr anabl.
Cadw gwybodaeth pan fydd pleidleisiwr anabl yn cysylltu â chi ynghylch cymorth neu gyfarpar ychwanegol
Os bydd pleidleisiwr anabl yn cysylltu â chi yn gofyn am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, mae'n bosibl y byddwch yn cael data categori arbennig sensitif am yr unigolyn hwnnw a'i anghenion penodol. Ystyrir mai chi fydd y rheolydd data ar gyfer y data sensitif hyn a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn eu rheoli yn unol â gofynion diogelu data, gan gynnwys sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o sut y caiff ei ddata eu prosesu.
Dylech geisio cyngor gan eich Swyddog Diogelu Data ynghylch beth i'w wneud gyda'r data ar ôl eu prosesu ac a oes angen i chi ddiweddaru unrhyw hysbysiadau preifatrwydd perthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth am reoli data categori arbennig yn ein canllawiau ar ddiogelu data.
Sicrhau bod y rheini sy'n gweithio i gefnogi'r bleidlais yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd
Er mwyn helpu i sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael mynediad cyfartal i bleidleisio ac yn cael cymorth priodol, mae'n bwysig bod pawb sy'n gweithio i gynnal yr etholiad neu i roi gwybodaeth i bleidleiswyr yn ymwybodol o anghenion pobl anabl.
Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd i'r holl staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, gan gynnwys staff sy'n cefnogi gwasanaethau etholiadol, er mwyn helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.
Gan weithio gyda phartneriaid allanol, rydym wedi datblygu adnoddau a allai helpu eich staff i ddeall rhwystrau i bleidleisio a phrofiadau pleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- Fideo RNIB sy'n rhannu'r profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio i'r rheini â cholled golwg
- Fideos Mencap sy'n rhannu profiadau Charlotte a Harry o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ag anabledd dysgu
Gallwch geisio cyngor gan eich swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant neu eich adran Adnoddau Dynol ar hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd arall y gallech fanteisio arno.
Dylai staff hefyd fod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael gennym ar ein gwefan a'n sianel YouTube i gynorthwyo pobl anabl i ddeall pleidleisio a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ein hadnoddau, gallwch danysgrifio i'r Gofrestr, ef ein cylchlythyr cofrestru i bleidleiswyr a'ch canllaw i gefnogi pleidleiswyr i gofrestru a chymryd rhan.
Yn ogystal, gallech ystyried caffael neu ddatblygu adnoddau bytholwyrdd nad ydynt yn ymwneud ag etholiad penodol fel y gallwch eu defnyddio drwy'r flwyddyn am sawl blynedd mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil sy'n cefnogi eu rhanddeiliaid ac yn dadlau drostynt ar faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd pleidleisio.
Hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn cefnogi hygyrchedd
Mae hefyd yn hanfodol bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn ymdrin â phwysigrwydd bod yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a pha gamau y dylent eu cymryd i'w cefnogi.
Mae gweithredoedd ac ymddygiadau staff gorsafoedd pleidleisio yn allweddol i sicrhau bod profiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio yn un cadarnhaol. Gall pethau syml megis cynnig cymorth a gwrando ar gwestiynau pleidleiswyr wneud gwahaniaeth go iawn.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghenion hygyrchedd yn gyffredinol, mae'n bwysig bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn cwmpasu'r canlynol:
- y rhwystrau a wynebir gan bleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio a sut y gall staff gorsafoedd pleidleisio helpu i'w lleihau
- ymwybyddiaeth nad oes rhwystrau cyfreithiol i atal pobl anabl rhag pleidleisio, gan gynnwys pleidleiswyr ag unrhyw anabledd dysgu neu nam gwybyddol
- ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weledol nac yn amlwg, ac na ddylai staff gorsafoedd pleidleisio wneud rhagdybiaethau ynghylch pa gyfarpar y gall fod ei angen ar bleidleiswyr a phwysigrwydd ystyried anghenion y person, nid anabledd penodol
- ymwybyddiaeth y gall fod gan rai pleidleiswyr fwy nag un nam – er enghraifft, nam ar eu golwg a dementia
- pwysigrwydd cyfathrebu clir mewn perthynas â'r broses bleidleisio
- pwysigrwydd cyfathrebu'n glir fod cymorth ar gael os bydd angen
- ymwybyddiaeth o'r cyfarpar a ddarperir yn yr orsaf bleidleisio, a sut i'w ddefnyddio, er mwyn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a'i gwneud yn haws iddynt wneud hyn, gan gynnwys yn benodol gyfarpar penodol y gall staff gorsafoedd pleidleisio fod yn llai cyfarwydd ag ef, fel dolenni sain
- ymwybyddiaeth y gall cydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr fod yn unrhyw un dros 18 oed ac os ydynt wedi cwblhau'r datganiad, y gall fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w gynorthwyo
- ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr anabl gael anifail cymorth gydag ef ac na ddylid atal anifeiliaid cymorth rhag mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio
- ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr â cholled golwg ddefnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu gario cyfarpar cymorth maint poced, fel chwyddwydr fideo i'w helpu i ddarllen dogfennau yn y bwth pleidleisio neu ar y cyd â dyfais bleidleisio gyffyrddadwy
- ymwybyddiaeth ei bod yn dderbyniol defnyddio apiau testun i leferydd mewn gorsafoedd pleidleisio
- ymwybyddiaeth o ddulliau cyfathrebu amgen y gall pleidleiswyr eu defnyddio fel Makaton ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Yn ein canllawiau craidd i Swyddogion Canlyniadau ar gyfer pob math o etholiad, ceir dolenni i hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio sy'n cynnwys gwybodaeth am y rôl sydd gan staff gorsafoedd pleidleisio yn sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch a bod cyfarpar ar gael i gefnogi pleidleiswyr anabl â hygyrchedd, y dylech dynnu sylw ati wrth friffio staff gorsafoedd pleidleisio.
Codi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael
Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn cwmpasu'r camau y gallwch eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr.
Mae'n bwysig bod gennych strategaeth gyfathrebu glir er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau a wynebir gan rai pleidleiswyr, yn ogystal â sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w galluogi i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Mae hyn yr un mor bwysig ar gyfer is-etholiadau neu ddigwyddiadau pleidleisio annisgwyl, a all gael eu cynnal ar fyr rybudd, ag y mae ar gyfer etholiadau a drefnwyd.
Dylech ddiweddaru eich strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy nodi sut a phryd y byddwch yn gwneud y canlynol:
- Nodi partneriaid a sefydliadau anabledd perthnasol a chyfathrebu â nhw er mwyn ystyried cyfleoedd i gydweithio a chodi ymwybyddiaeth
- Hyrwyddo a rhannu gwybodaeth â phleidleiswyr anabl am y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a'r cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael
- Gofyn am adborth ar y cymorth a'r cyfarpar a ddarperir – er enghraifft, drwy wneud ymdrech ragweithiol i wahodd sylwadau drwy eich gwefan neu eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Er mwyn eich cefnogi i gynllunio a datblygu eich gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, byddwn yn darparu cyfres o asedau cyfryngau cymdeithasol enghreifftiol a thempledi copi gwe a fydd ar gael ar ein gwefan. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn â dolen i'r adnoddau newydd pan fyddant ar gael.
Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl
Gall rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl fod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu mwy am y mathau o ddarpariaeth sydd eu hangen ar bleidleiswyr anabl fel rhan o'ch dyletswydd ragweledol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Mae ymgysylltu ag etholwyr yn gyfle i ddarparu gwybodaeth am y math o gymorth y gellid ei roi i'w helpu i gymryd rhan mewn etholiadau ac i ofyn am y fformat maent yn ei ffafrio ar gyfer gohebiaeth hygyrch, sy'n arbennig o fuddiol i bobl ddall neu bobl rhannol ddall sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Dylech archwilio ffyrdd o weithio gydag eraill yn eich awdurdod lleol a all eich helpu i nodi etholwyr anabl yn eich ardal, i'ch galluogi i gyfathrebu â nhw'n uniongyrchol.
Mae cofrestrau colled golwg yn rhestru'r bobl yn yr ardal leol sydd ag ardystiad o nam ar eu golwg.
Yn Lloegr, o dan Ddeddf Gofal 2014, gall awdurdodau lleol ddefnyddio cofrestrau colled golwg i sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau ar gael i'r person hwnnw er enghraifft i ofyn a ellid rhoi cymorth i'w helpu i gymryd rhan mewn digwyddiadau etholiadol.1 Gall y mynediad sydd gennych i'r wybodaeth hon amrywio yn dibynnu a ydych wedi cael eich penodi gan awdurdod dosbarth neu awdurdod unedol.
Yng Nghymru a'r Alban, gallwch gysylltu â'r adrannau gofal cymdeithasol perthnasol i oedolion ac yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â'r Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol i gael cyngor ar sut y gallwch gael gwybodaeth o gofrestrau colled golwg a ddelir ganddynt.
Gall defnyddio data lleol yn rhagweithiol drwy geisio gwybodaeth o'r gofrestr colled golwg neu drwy ddefnyddio adnodd fel yr adnodd data colled golwg a ddarperir gan yr RNIB eich helpu i ganfod sawl etholwr yn eich ardal y mae colled golwg wedi effeithio arnynt. Gall gwybod mwy am nifer yr etholwyr yr effeithir arnynt eich helpu:
- i ragweld anghenion pobl ddall a phobl rhannol ddall yn eich ardal, er enghraifft, drwy sicrhau y caiff cardiau pleidleisio eu hanfon yn y fformatau maent yn eu ffafrio gan eu galluogi i gael y wybodaeth amdanynt yn annibynnol
- i gydymffurfio â'ch dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn gwneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo unigolion ar y gofrestr i gymryd rhan mewn etholiadau.
- 1. https://www.gov.uk/government/publications/care-act-statutory-guidance/care-and-support-statutory-guidance ↩ Back to content at footnote 1
Rhannu gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. Gall y gwaith cyfathrebu a wnewch helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau hysbys i bleidleiswyr anabl a gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w helpu i gymryd rhan yn hyderus.
Byddwn yn darparu cyfres o adnoddau a all eich cefnogi i hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys adnoddau a fydd yn cyfeirio at ganllawiau ar ohebiaeth hygyrch. Byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda sefydliadau anabledd i lywio'r adnoddau a ddarperir gennym, a byddwn yn ceisio adeiladu ar yr adnoddau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn fel rhan o'n gwaith gwerthuso a gwella parhaus. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolenni pan fydd yr adnoddau ar gael.
Darparu gwybodaeth am leoliad gorsafoedd pleidleisio
Yn ôl adborth gan sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, mae rhai pleidleiswyr yn ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth am leoliadau gorsafoedd pleidleisio. Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu adnodd chwilio am godau post ar ein gwefan.
I sicrhau bod y wybodaeth hon mor weladwy â phosibl, dylech hyrwyddo'r adnodd chwilio am godau post gymaint â phosibl. Gallech gynnwys yr adnodd ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn rydym wedi'i ddarparu, neu ychwanegu dolen i'n gwefan. Gallech hefyd rannu'r ddolen â rhwydweithiau mewnol presennol neu sefydliadau allanol rydych yn gweithio gyda nhw a'u hannog i'w rhannu â'u rhanddeiliaid. Hefyd, gallech gynnwys y ddolen ar yr hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Os bydd angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch mewn perthynas â defnyddio'r adnodd chwilio, ewch i wefan Democracy Club.
Darparu gwybodaeth bellach am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
Er mwyn helpu i oresgyn pryderon a lliniaru gorbryder ynghylch sut beth fydd pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth rydych yn ei harddangos ar hysbysfyrddau cyhoeddus, gallech ddarparu tudalen benodol ar eich gwefan sy'n cynnwys deunydd hygyrch i helpu pleidleiswyr sydd am ddysgu mwy am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
Gallai eich cynnwys hygyrch ar y we gynnwys:
- gwybodaeth am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- ymwybyddiaeth y gall cydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr fod yn unrhyw un dros 18 oed ac os ydynt wedi cwblhau'r datganiad, y gall fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w gynorthwyo
- bod Swyddog Llywyddu yn gallu helpu pleidleisiwr
- y math o gyfarpar a fydd ar gael a sut i wneud cais i gael cyfarpar ychwanegol er mwyn diwallu angen penodol
- gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- dolenni i fideos am bleidleisio yn Iaith Arwyddion Prydain a Makaton
- fideos gan Mencap â chanllawiau hawdd eu deall ar bleidleisio
- pan fydd yr orsaf yn debygol o fod yn brysur a phryd mae'n debygol o fod yn dawel
- argaeledd mannau tawel
Byddwn yn datblygu adnodd sy'n cyflwyno gwybodaeth am bleidleisio sydd wedi'i hysgrifennu mewn ffordd hygyrch, y gallech ei defnyddio i ddatblygu eich cynnwys hygyrch eich hun ar y we er mwyn ymgysylltu â phleidleiswyr a chodi eu hymwybyddiaeth. Byddwn hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth i bleidleiswyr am y broses bleidleisio ar ein gwefan y gallwch gyfeirio etholwyr ati drwy ddolen ar ein tudalennau gwe. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolenni pan fydd yr adnoddau ar gael.
Cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar gardiau pleidleisio a sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch
Er bod y testun y mae'n rhaid ei gynnwys ar gardiau pleidleisio wedi'i bennu mewn deddfwriaeth, gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth bellach sy'n briodol yn eich barn chi.1
Yr unig eithriad i hyn yw etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon lle mae cynnwys y cerdyn pleidleisio wedi'i bennu'n union ac ni chewch gynnwys unrhyw wybodaeth arall.2
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cyflwyno heriau eraill i'r broses etholiadol y mae angen eu rhannu â phleidleiswyr cyn y digwyddiad pleidleisio. Bydd hyn yn golygu ar gyfer etholiadau perthnasol y gall fod angen i'r cerdyn pleidleisio fod yn llythyr er mwyn gallu cynnwys y wybodaeth berthnasol. Byddai defnyddio fformat gwahanol ar gyfer y cerdyn pleidleisio yn rhoi cyfle da i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol i bleidleiswyr am eu gorsaf bleidleisio a hygyrchedd y broses bleidleisio. Er enghraifft, gallech gynnwys dolen i dudalen we hygyrch neu ddarparu cod QR ar lythyr y cerdyn pleidleisio sy'n mynd â'r pleidleisiwr yn syth i dudalen we sy'n rhoi gwybodaeth am y broses bleidleisio neu'r cyfarpar a fydd ar gael.
Am nad yw'r wybodaeth a roddir ar y cerdyn pleidleisio yn hygyrch i rai pleidleiswyr, dylech hefyd ystyried sut y gallwch wneud y wybodaeth ar y cerdyn pleidleisio yn fwy hygyrch drwy ei gyhoeddi mewn ffordd arall hefyd.
Er enghraifft, gallech wneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth y cerdyn pleidleisio ar eich gwefan mewn fformat hygyrch, sy'n gydnaws â rhaglenni darllen sgrin.
- darparu fersiynau print bras neu hawdd eu darllen ar gais, a hyrwyddo hyn ar y cerdyn pleidleisio ei hun ac ar eich gwefan.
- anfon cerdyn pleidleisio a gwybodaeth arall yn uniongyrchol at etholwr yn y fformat y mae'n ei ffafrio yn ogystal â thrwy'r post, er enghraifft os byddwch yn gwybod bod angen i wybodaeth gael ei rhannu'n electronig mewn fformat hygyrch.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio data lleol mewn modd rhagweithiol i gysylltu ag unigolion am y fformatau maent yn eu ffafrio ar gyfer cardiau pleidleisio yn Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl.
Gallai anfon yr ohebiaeth ychwanegol hon hefyd gynnig cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r hyn a fydd yn digwydd ar y diwrnod pleidleisio, beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a'r cyfarpar a fydd ar gael.
Darparu papurau pleidleisio enghreifftiol hygyrch
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i rai pleidleiswyr allu edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i'r orsaf bleidleisio er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y broses bleidleisio. Gallech ddarparu papurau pleidleisio enghreifftiol ar eich gwefan er mwyn cefnogi hyn, a sicrhau eu bod yn hygyrch i etholwyr sy'n defnyddio rhaglenni darllen sgrin.
Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid am bleidleisio hygyrch mewn gorsafoedd pleidleisio
Dylech gynnwys gwybodaeth yn y sesiynau briffio y byddwch yn eu rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â sut i wneud cais. Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr ac asiantiaid yn adnabod pleidleiswyr unigol y mae angen cymorth neu gyfarpar penodol arnynt a gallent helpu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt a sut i fanteisio arno.
- 1. Rheol 28(3)(e), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 25(3) Atodlen 5, Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 ↩ Back to content at footnote 2
Gweithio gyda rhwydweithiau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil yn eich ardal
Mae'n bosibl y bydd gennych gydberthnasau â rhwydweithiau grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil eisoes. Os nad yw'r cydberthnasau hyn gennych, mae'n bosibl y bydd angen i chi weithio gyda phobl eraill sydd wedi meithrin cydberthnasau o'r fath, er enghraifft:
- Timau ledled eich awdurdod lleol a all fod mewn cysylltiad â phobl anabl
- Darparwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a chanolfannau dydd
- Swyddogion cydraddoldeb
- Timau cyfathrebu
- Swyddogion tai
- Swyddogion Partneriaeth/Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Cynghorau Gwirfoddol Sirol/Grwpiau Pobl yn Gyntaf (Cymru)
Gall meithrin cydberthnasau â grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n weithredol yn eich ardal leol fod yn fuddiol oherwydd gallant roi cyngor i chi ar gamau penodol y gallwch eu cymryd i wella hygyrchedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai lleoliadau. Gallant hefyd gynnig cyngor ar y mathau o ddulliau cyfathrebu y dylech eu defnyddio i hyrwyddo'r cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ogystal â gwybodaeth am etholiadau yn fwy cyffredinol.
Efallai y gall rhai timau yn eich awdurdod lleol neu sefydliadau lleol eraill hefyd roi cyngor i chi ar sut i benderfynu a ddylid darparu unrhyw gyfarpar penodol mewn gorsafoedd pleidleisio penodol i alluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Mae'n bosibl hefyd y bydd ganddynt fynediad at gyfarpar arbenigol y gallech ei fenthyg neu ei logi a all fod o fudd i bleidleiswyr anabl yn lleol sydd ag anghenion penodol. Efallai y bydd sefydliadau a phartneriaid lleol hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y mathau o adnoddau neu gymorth y gallech eu darparu er mwyn lleihau rhwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl.
Adolygu'r etholiad
Ar ôl pob etholiad, dylech werthuso'r cyfarpar a'r cymorth a ddarparwyd gennych mewn gorsafoedd pleidleisio a sut y gwnaethoch gyfathrebu â phleidleiswyr mewn perthynas â'u hanghenion a beth y gallant ei ddisgwyl. Er mwyn helpu â'ch gweithgareddau gwerthuso, byddwn yn darparu arolwg enghreifftiol i'w ddefnyddio â phleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth bleidleisio. Gellir defnyddio'r arolwg i gasglu eu hadborth ar eu profiad o bleidleisio a'r cymorth a oedd ar gael iddynt.
Dylech wahodd adborth gan bleidleiswyr a grwpiau hygyrchedd ar eu profiad o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, am yr hyn a weithiodd yn dda a beth nad oedd cystal, er mwyn helpu i lywio'r hyn rydych yn ei wneud i gefnogi pleidleiswyr anabl mewn digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol.
Mae dulliau y gallech eu defnyddio i gasglu adborth yn cynnwys y canlynol:
- Darparu arolwg hawdd ei ddeall yn yr orsaf bleidleisio am y profiad pleidleisio.
- Gwahodd pleidleiswyr a sefydliadau partner i fynychu grwpiau ffocws i drafod eu profiadau o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
- Gwahodd staff gorsafoedd pleidleisio i drafod eu profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio lle darparwyd cyfarpar penodol, sut y gwnaethant ymdopi ag unrhyw sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod, a'u hadborth ar yr hyfforddiant a gawsant.
- Adolygu unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
- Monitro'r defnydd o'r cyfarpar a ddarperir gennych mewn gorsafoedd pleidleisio drwy ofyn i staff gorsafoedd pleidleisio gadw cofnod yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio neu drwy arolygon neu adborth ar ôl yr etholiad.
I sicrhau eich bod yn cael amrywiaeth eang o adborth allanol, dylech ystyried darparu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer casglu safbwyntiau. Un ffordd dda o ganfod y dull mwyaf priodol o gyrraedd grŵp penodol o bleidleiswyr fyddai gofyn i'r sefydliadau partneriaeth rydych yn gweithio gyda nhw beth fyddai'n gweithio orau i'r pleidleiswyr y maent yn eu cefnogi.
Mae'r Ddeddf Etholiadau'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Comisiwn adrodd ar y broses o roi'r darpariaethau hygyrchedd newydd ar waith. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwnnw, byddwn yn gofyn am ddata ar y cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio a ddylai fod yn wybodaeth sydd ar gael i chi eisoes i gefnogi eich prosesau cynllunio eich hun.
Byddwn yn defnyddio ein gwaith ymgysylltu ac adrodd i dynnu sylw at enghreifftiau o arferion da sy'n dod i'r amlwg ac yn adlewyrchu'r rhain mewn fersiynau o'r canllawiau hyn yn y dyfodol i gefnogi eich gwaith o sicrhau bod y broses bleidleisio'n hygyrch.