| Argraffu'r canllawiau llawn

Isafswm y cyfarpar i'w ddarparu

Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau rydym wedi nodi ystod o gyfarpar allai helpu i oresgyn y rhwystrau hysbys sy'n wynebu pobl anabl. Mae llawer o'r eitemau hyn ar gael ar unrhyw adeg am gost gyfyngedig a gallant gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar brofiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio. 

Dylid darparu'r isafswm canlynol o gyfarpar ym mhob gorsaf bleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl: 

  • cadeiriau/seddi – mae hyn yn darparu lle i bleidleiswyr na allant sefyll am gyfnodau hir orffwys a sedd i bleidleiswyr a hoffai gymryd peth amser i feddwl cyn mynd i mewn i'r bwth pleidleisio
  • chwyddwydrau – gall y rhain ddarparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i bleidleisio'n annibynnol drwy gynyddu maint y testun ar ddogfen. Bydd cryfder y chwyddwydr sydd ei angen yn amrywio yn dibynnu ar faint mae'r pleidleisiwr yn ei weld. Efallai y bydd angen i chi ddarparu chwyddwydrau â mwy nag un cryfder yn dibynnu ar anghenion y pleidleiswyr mewn gorsaf bleidleisio benodol
  • dyfais bleidleisio gyffyrddol – mae dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol yn darparu cymorth i bleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir, ar yr amod ei fod wedi'i osod ar y papur pleidleisio'n gywir. Maent yn darparu cymorth i gwblhau'r papur pleidleisio unwaith y bydd pleidleiswyr sydd ag amhariad ar eu golwg yn gwybod safle'r ymgeisydd y maent am bleidleisio drosto ar y papur pleidleisio. Nid ydynt yn caniatáu i bleidleiswyr dall bleidleisio'n annibynnol oni bai bod ganddynt wybodaeth hygyrch hefyd am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio, er enghraifft fersiwn sain neu braille o'r papur pleidleisio
  • bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn – yn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn yn gallu defnyddio arwyneb ysgrifennu is i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth sy'n hygyrch
  • bathodynnau sy'n nodi staff gorsaf bleidleisio – mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i adnabod yn haws pwy sy'n aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio ac felly gellir cysylltu â nhw am gymorth. Gellir teilwra'r math o fathodyn a'r testun a ddefnyddir i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol unigol. Er enghraifft, gallech roi bathodyn i staff gorsafoedd pleidleisio sy'n nodi eu henw cyntaf ac yn egluro eu rôl a'u bod yn hapus i helpu
  • gafael pensil – gall y rhain helpu pleidleiswyr â nam ar eu medrusrwydd i'w gwneud hi'n haws i ddal a defnyddio pensil yn annibynnol
  • rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau) – mae'r rhain yn cynorthwyo mynediad i orsaf bleidleisio i bleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sy'n cael anhawster defnyddio grisiau
  • rhybuddwyr dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân) – mae'r rhain yn darparu ffordd i bleidleiswyr roi gwybod i staff gorsafoedd pleidleisio fod angen cymorth arnynt i agor y drws fel y gallant ddefnyddio'r orsaf bleidleisio. Nid oes angen gosod y rhain yn barhaol na'u gosod mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio ond gellir eu gosod dros dro ar lefel hygyrch ar fwrdd neu gadair wrth ymyl unrhyw ddrysau y mae'n rhaid iddynt aros ar gau
  • goleuadau priodol – mae gan rai lleoliadau gorsafoedd pleidleisio oleuadau da ond efallai y bydd angen goleuadau ychwanegol ar eraill wrth y ddesg; i sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau staff yn glir, ac yn y bythau pleidleisio; i gynorthwyo pleidleiswyr â nam ar eu golwg i allu darllen a chwblhau'r papur pleidleisio
  • mannau parcio wedi'u cadw ar gyfer pleidleiswyr anabl (lle mae parcio ar gael yn y lleoliad) – mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos â phosibl at yr orsaf bleidleisio

Nid ydych wedi'ch cyfyngu i ddarparu'r cyfarpar a ddangosir yn y rhestr uchod yn unig, ac ni ddylech leihau na chael gwared ar unrhyw gyfarpar rydych wedi'i ddarparu o'r blaen i gynorthwyo pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal.

Cyfarpar ychwanegol a allai gynorthwyo pleidleiswyr anabl

Bydd eich gwaith i ddeall anghenion pleidleiswyr yn eich ardal yn bwysig i'ch helpu i nodi cyfarpar pellach y mae'n briodol ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol a fyddai'n galluogi neu'n ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae enghreifftiau o gyfarpar neu gymorth arall y gallech ei ddarparu yn cynnwys: 

  • Dolen anwythol clyw – mae'r rhain yn darparu cymorth i bleidleiswyr sy'n gwisgo cymhorthion clyw i gyfathrebu yn yr orsaf bleidleisio. Mae gan rai adeiladau ddolen anwythol wedi'i gosod yn arferol, ac os felly dylech ei defnyddio, a lle nad oes un ar gael yna gellir defnyddio dolen glyw gludadwy.  
  • Gwasanaeth Dehongli Fideo (VRI) Iaith Arwyddion Prydain (BSL) – mae hyn yn galluogi pleidleiswyr sy'n defnyddio BSL i wneud galwad fideo at ddehonglydd a all gyfieithu'r hyn sy'n cael ei ddweud rhwng y staff pleidleisio a'r pleidleisiwr.
  • Datrysiadau sain – mecanweithiau yw'r rhain sy'n galluogi pleidleiswyr i wrando ar fanylion papurau pleidleisio wedi'u recordio ymlaen llaw, gan gynnwys rhestr yr ymgeiswyr, naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu ymlaen llaw, megis llinellau cymorth dros y ffôn, dolenni recordio ar wefan yr awdurdod lleol, neu ddyfeisiau sain symudol. Gellir defnyddio'r rhain ynghyd â'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol neu ddyfeisiau eraill, i alluogi pleidleiswyr dall a rhai sydd â golwg rhannol i farcio eu papur pleidleisio yn annibynnol. Mae datrysiadau sain/cyffyrddol cyfun hefyd ar gael a gellir eu darparu.
  • Gwybodaeth ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen - mae hawdd ei ddarllen yn cyfeirio at gyflwyno testun mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddeall. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu a gall hefyd fod o fudd i bobl â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar sut maen nhw'n prosesu gwybodaeth. Er bod yr hysbysiadau i'w harddangos mewn gorsafoedd pleidleisio wedi'u wneud ymlaen llaw, gallech ystyried sut i arddangos y rhain hefyd mewn fformatau darluniadol neu hawdd eu darllen yn ac o amgylch yr orsaf bleidleisio.
  • Gwybodaeth ar gael mewn fformatau print bras - Diffinnir print bras fel print bras 16pt Arial neu fwy ac mae'n cydymffurfio â chanllawiau print clir ynghylch cynllun, defnyddio ffontiau a delweddau. Yn aml mae'n ddefnyddiol i bleidleiswyr sydd â nam ar y golwg a gall hefyd fod o fudd i bleidleiswyr hŷn, pleidleiswyr dyslecsig a phleidleiswyr sydd â dementia.
  • Cymorth i etholwyr sy'n agored i niwed yn glinigol - ochr yn ochr â chynyddu awyru'r ystafell naill ai trwy agor ffenestri neu ddrysau neu ddefnyddio hidlwyr HEPA lle na ellir cadw ffenestri neu ddrysau ar agor, gallwch sicrhau bod masgiau wyneb yn cael eu darparu i staff yr orsaf bleidleisio eu defnyddio (gan ddefnyddio 'gweld mwgwd, gwisgo mwgwd' fel sail) a hyrwyddo'r defnydd o bellter cymdeithasol wrth ryngweithio â phleidleiswyr sy'n agored i niwed yn glinigol. Dylai eich hyfforddiant staff gwmpasu sut y gallwch gynnig cynnal gwiriadau adnabod llun ar gyfer pobl sy'n gwisgo masgiau, gan gynnwys a ellid cynnal gwiriadau y tu allan ar gyfer y pleidleiswyr hyn os oes angen adnabod llun ar gyfer eich etholiad.

Dylai'r cyfarpar a'r adnoddau a ddarparwch i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fod yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir fel y gellir eu hadnabod a'u defnyddio'n hawdd. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Rhagfyr 2025