This page

Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.

Sicrhewch eich bod wedi cofrestru

Sicrhewch eich bod wedi cofrestru

I bleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ddydd Iau 2 Mai yw dydd Mawrth 16 Ebrill.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gofrestru a sut mae gwneud cais

ID Pleidleisiwr

O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Dysgwch ragor am ba etholiadau y bydd angen ID ffotograffig arnoch yng Nghymru, mathau o ID ffotograffig a dderbynnir, a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar gyfer yr etholiadau ddydd Iau 2 Mai yw 5pm ddydd Mercher 24 Ebrill.

Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr.

Os caiff eich ID ffotograffig ei wrthod

Os ewch i orsaf bleidleisio heb fath o ID ffotograffig a dderbynnir, gofynnir i chi ddychwelyd gyda math o ID ffotograffig a dderbynnir.

Bydd gorsafoedd pleidleisio yn arddangos y rhestr o ID ffotograffig a dderbynnir a bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn cael eu hyfforddi ar ba fathau o ID a dderbynnir. Os ydych o’r farn bod eich ID wedi'i wrthod ar gam, dylech hysbysu'r Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio. Os na fydd hyn yn datrys y mater, gallwch godi eich pryderon gyda'r Swyddog Canlyniadau. Gallwch ddod o hyd i'w fanylion cyswllt drwy nodi eich cod post yn ein blwch chwilio.

Er na allwch apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddog Llywyddu i wrthod rhoi papur pleidleisio os ydyw wedi gwrthod math penodol o ID, gallwch ddychwelyd i’r orsaf bleidleisio gyda math gwahanol o ID yn hwyrach yn y dydd ac ailymgeisio am bapur pleidleisio.

Bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn cwblhau ffurflen i gofnodi nad oedd modd rhoi papur pleidleisio, a’r rheswm pam.

Bydd cyfanswm y pleidleiswyr a ddychwelodd yn hwyrach gyda math o ID a dderbynnir ac y rhoddwyd papur pleidleisio iddynt hefyd yn cael ei gofnodi.