Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl

Deall y rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl

Drwy nodi a deall y rhwystrau ffisegol, seicolegol a'r rhwystrau o ran gwybodaeth y gall pobl eu hwynebu wrth bleidleisio, byddwch mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i helpu i'w cefnogi.  

Ymysg rhai o'r rhwystrau a'r heriau a wynebir gan bobl anabl mae'r canlynol:

  • Nid ydynt yn cael gwybodaeth hygyrch am y broses bleidleisio 
  • Nid yw cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gael mewn Cymraeg neu Saesneg clir, neu fformat hawdd ei ddeall
  • Diffyg gwybodaeth am gymdeithion i helpu â phleidleisio
  • Diffyg gwybodaeth am y profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio sy'n achosi pryder am bethau fel:
    • teithio i'r orsaf bleidleisio, yn enwedig os yw am y tro cyntaf
    • gallu dod o hyd i'r orsaf bleidleisio a chael mynediad iddi
    • gwybod beth fydd yn digwydd yno
    • gwybod beth yw'r broses ar gyfer pleidleisio 
    • y posibilrwydd y bydd llawer o bobl yno ar yr un pryd
    • y posibilrwydd y bydd llawer o sŵn
    • teimlo bod rhaid rhuthro i wneud penderfyniadau yn gyflym
    • ciwio
  • Nid yw'r adeilad/yr orsaf bleidleisio yn hygyrch. Er enghraifft, os oes grisiau neu os nad yw'r cynllun y tu mewn yn addas i bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn
  • Nid oes cyfarwyddiadau wedi'u darparu mewn fformat sy'n hygyrch i helpu pobl anabl sydd â:
    • Nam ar y golwg neu ddallineb
    • Nam ar y clyw neu golled clyw
    • Dyslecsia
    • Anawsterau dysgu
    • Nam gwybyddol
  • Nid oes gan staff gorsafoedd pleidleisio y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gyfathrebu'n effeithiol
  • Nid oes cymorth na chymhorthion ategol yn hygyrch nac ar gael yn rhwydd i helpu pleidleiswyr i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol 
  • Nid oes seddi na threfniadau eraill ar gael i gefnogi'r rheini na allant sefyll mewn ciw.
  • Nid oes gan staff gorsafoedd pleidleisio y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gefnogi pleidleiswyr sy'n niwrowahanol ac sydd ag anableddau cudd i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Rhwystrau ychwanegol i bobl ddall a phobl rhannol ddall

Ymarfer gweledol – drwy roi croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur – yw'r dull o bleidleisio i bob pwrpas. Oherwydd hyn, mae pobl ddall a phobl rhannol ddall yn wynebu rhwystrau ychwanegol nad yw pobl eraill nad oes ganddynt golled golwg yn eu hwynebu:

  • Gall prinder cyfarpar ychwanegol neu ddigon o olau ei gwneud hi'n anodd neu'n amhosibl i bobl ddall neu bobl rhannol ddall wneud y canlynol:
    • Darllen yr enwau ar y papur pleidleisio
    • Gwneud marc mewn lleoliad penodol ar y papur pleidleisio
    • Dilysu eu pleidlais yn annibynnol ar ôl gwneud eu marc ar y papur pleidleisio
  • Nid yw staff gorsafoedd pleidleisio'n ymwybodol y gall pobl ddall a phobl rhannol ddall wynebu rhwystrau wrth wneud eu ffordd o amgylch amgylchedd yr orsaf bleidleisio
  • Nid oes gan staff gorsafoedd pleidleisio y sgiliau, yr hyfforddiant na'r profiad i gefnogi pleidleiswyr sydd â cholled golwg i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Er enghraifft os ydynt yn anghyfarwydd â chyfarpar pleidleisio hygyrch
  • Nid yw gorsafoedd pleidleisio'n cynnwys y cyfarpar neu nid yw staff gorsafoedd pleidleisio'n ymwybodol o'r cyfarpar a all gefnogi pobl ddall a phobl rhannol ddall - er enghraifft, y copi llaw o'r fersiwn print bras o'r papur pleidleisio a'r ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy gywir  
  • Nid yw staff gorsafoedd pleidleisio yn ddigon ymwybodol o golled golwg ac nid ydynt yn gwybod sut i ryngweithio'n briodol â rhywun sydd â cholled golwg
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Rhagfyr 2023