| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwneud penderfyniadau ynghylch darparu cymorth a chyfarpar ychwanegol i bleidleiswyr

Fel Swyddog Canlyniadau, gallwch ddefnyddio data lleol a all fod ar gael i lywio eich penderfyniadau am y cymorth a'r cyfarpar ychwanegol rydych yn ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i alluogi pleidleiswyr dall, rhannol ddall neu anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am gyrchu a defnyddio data a ddelir gan eich awdurdod lleol am breswylwyr anabl yn Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl 

Mae'n bosibl y byddwch yn cael ceisiadau i ddarparu cymorth neu gyfarpar ychwanegol, yn ogystal â'r hyn sydd gennych neu rydych eisoes yn bwriadu ei ddarparu.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael gwybod gan bleidleisiwr â math penodol o nam ei fod yn wynebu anfantais sylweddol o hyd (h.y. anfantais sy'n fwy na mân neu ddibwys) er gwaethaf eich addasiadau, am fod ganddo anghenion ychwanegol.

Mewn achosion o'r fath, fel rhan o'ch dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2020, rhaid i chi ystyried y cais a phenderfynu a yw'n rhesymol darparu cymorth a/neu gyfarpar ychwanegol er mwyn dileu'r anfantais sylweddol y mae'r pleidleisiwr wedi'i nodi a thynnu eich sylw ati. Nid oes unrhyw broses benodol yn y gyfraith ar gyfer sut y byddwch yn penderfynu bod cyfarpar yn rhesymol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi cyngor ar wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle. Er nad yw wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, gall fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu a yw'n rhesymol gwneud addasiad.    

Rhaid ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod a gyda'r bwriad o barhau i gefnogi hawl pob pleidleisiwr i allu bwrw ei bleidlais. Pan fyddwch yn gwneud eich penderfyniad ynghylch a yw'n rhesymol gwneud addasiad, mae amrywiaeth o ffactorau y dylech eu hystyried, gan gynnwys y canlynol:

  • A fydd darparu'r cymorth neu'r cyfarpar ychwanegol y gofynnwyd amdano yn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio, neu'n ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn?   
  • Pa mor hawdd neu ymarferol yw darparu'r cymorth ychwanegol neu gyflenwi'r cyfarpar y gofynnwyd amdano? Er enghraifft:
    • A oes modd prynu'r cyfarpar yn hawdd? 
    • A yw'r goblygiadau o ran cost yn rhesymol? 
    • A oes unrhyw opsiynau amgen ar gael sy'n fwy cost effeithiol neu y mae'n haws cael gafael arnynt?
    • Ai cyfarpar untro yw hwn neu a ellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol?
  • A yw'r cyfarpar y gofynnwyd amdano yn gludadwy ac a ellir ei gludo i orsaf bleidleisio arall pe bai angen (er enghraifft, oherwydd newid munud olaf i'r orsaf bleidleisio)?
  • A oes unrhyw oblygiadau hyfforddiant i'w hystyried er mwyn i staff ddarparu'r cymorth gofynnol neu helpu pobl i ddefnyddio'r cyfarpar?
  • A ydych wedi cysylltu ag unigolion yn eich awdurdod lleol sydd ag arbenigedd mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael cyngor?

Nid yw'n ofynnol i chi gytuno i bob cais am gymorth ychwanegol na chyfarpar, ond rhaid i chi allu dangos eich bod wedi cyflawni eich dyletswydd ragweledol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac wedi ystyried pob cais yn briodol gan ddefnyddio meini prawf teg a chyson. Dylech gadw gwybodaeth ddigonol am geisiadau at ddibenion cynllunio yn y dyfodol ac i'ch galluogi i adolygu effeithiolrwydd eich darpariaeth ar gyfer pleidleiswyr anabl. 

Cadw gwybodaeth pan fydd pleidleisiwr anabl yn cysylltu â chi ynghylch cymorth neu gyfarpar ychwanegol 

Os bydd pleidleisiwr anabl yn cysylltu â chi yn gofyn am gymorth neu gyfarpar ychwanegol, mae'n bosibl y byddwch yn cael data categori arbennig sensitif am yr unigolyn hwnnw a'i anghenion penodol. Ystyrir mai chi fydd y rheolydd data ar gyfer y data sensitif hyn a'ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn eu rheoli yn unol â gofynion diogelu data, gan gynnwys sicrhau bod yr unigolyn yn ymwybodol o sut y caiff ei ddata eu prosesu.   

Dylech geisio cyngor gan eich Swyddog Diogelu Data ynghylch beth i'w wneud gyda'r data ar ôl eu prosesu ac a oes angen i chi ddiweddaru unrhyw hysbysiadau preifatrwydd perthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth am reoli data categori arbennig yn ein canllawiau ar ddiogelu data

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Rhagfyr 2025