Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl

Codi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael

Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn cwmpasu'r camau y gallwch eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr.

Mae'n bwysig bod gennych strategaeth gyfathrebu glir er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau a wynebir gan rai pleidleiswyr, yn ogystal â sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w galluogi i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Mae hyn yr un mor bwysig ar gyfer is-etholiadau neu ddigwyddiadau pleidleisio annisgwyl, a all gael eu cynnal ar fyr rybudd, ag y mae ar gyfer etholiadau a drefnwyd. 

Dylech ddiweddaru eich strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy nodi sut a phryd y byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Nodi partneriaid a sefydliadau anabledd perthnasol a chyfathrebu â nhw er mwyn ystyried cyfleoedd i gydweithio a chodi ymwybyddiaeth
  • Hyrwyddo a rhannu gwybodaeth â phleidleiswyr anabl am y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a'r cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael
  • Gofyn am adborth ar y cymorth a'r cyfarpar a ddarperir – er enghraifft, drwy wneud ymdrech ragweithiol i wahodd sylwadau drwy eich gwefan neu eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn eich cefnogi i gynllunio a datblygu eich gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, byddwn yn darparu cyfres o asedau cyfryngau cymdeithasol enghreifftiol a thempledi copi gwe a fydd ar gael ar ein gwefan. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn â dolen i'r adnoddau newydd pan fyddant ar gael.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Rhagfyr 2023