Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl

Gweithio gyda rhwydweithiau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil yn eich ardal

Mae'n bosibl y bydd gennych gydberthnasau â rhwydweithiau grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil eisoes. Os nad yw'r cydberthnasau hyn gennych, mae'n bosibl y bydd angen i chi weithio gyda phobl eraill sydd wedi meithrin cydberthnasau o'r fath, er enghraifft:   

  • Timau ledled eich awdurdod lleol a all fod mewn cysylltiad â phobl anabl 
  • Darparwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a chanolfannau dydd
  • Swyddogion cydraddoldeb
  • Timau cyfathrebu
  • Swyddogion tai
  • Swyddogion Partneriaeth/Ymgysylltu â'r Cyhoedd
  • Cynghorau Gwirfoddol Sirol/Grwpiau Pobl yn Gyntaf (Cymru)

Gall meithrin cydberthnasau â grwpiau anabledd a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n weithredol yn eich ardal leol fod yn fuddiol oherwydd gallant roi cyngor i chi ar gamau penodol y gallwch eu cymryd i wella hygyrchedd pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai lleoliadau. Gallant hefyd gynnig cyngor ar y mathau o ddulliau cyfathrebu y dylech eu defnyddio i hyrwyddo'r cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ogystal â gwybodaeth am etholiadau yn fwy cyffredinol.      

Efallai y gall rhai timau yn eich awdurdod lleol neu sefydliadau lleol eraill hefyd roi cyngor i chi ar sut i benderfynu a ddylid darparu unrhyw gyfarpar penodol mewn gorsafoedd pleidleisio penodol i alluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Mae'n bosibl hefyd y bydd ganddynt fynediad at gyfarpar arbenigol y gallech ei fenthyg neu ei logi a all fod o fudd i bleidleiswyr anabl yn lleol sydd ag anghenion penodol. Efallai y bydd sefydliadau a phartneriaid lleol hefyd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y mathau o adnoddau neu gymorth y gallech eu darparu er mwyn lleihau rhwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Rhagfyr 2023