Dylai pob person allu cofrestru a phleidleisio heb wynebu rhwystrau.
Mae'r canllawiau hyn yn cynnig gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â'r camau y gallwch chi a'ch staff eu cymryd i helpu dileu rhai o’r rhwystrau a’r heriau y gall pleidleiswyr anabl eu hwynebu wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Maent hefyd yn ceisio eich helpu i nodi a darparu cyfarpar ar gyfer gorsafoedd pleidleisio a fydd yn helpu i wneud pleidleisio yn haws i bleidleiswyr anabl.
Rydym wedi ymgynghori gydag ystod eang o sefydliadau sy’n cynrychioli pobl anabl wrth ddrafftio’r canllawiau hyn. Rhoddodd yr ymatebion a gawsom wybod i ni sut oedd y profiad pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio i bleidleiswyr anabl a beth oedd yr arferion a’r cyfarpar a allai helpu i wella’u profiad. Mae’r canllawiau’n adlewyrchu’r adborth a gafwyd gan yr unigolion a’r sefydliadau hynny cyn belled ag sy’n bosibl o fewn cwmpas y canllawiau a’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Drwy gydol y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio'r gair ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a'r gair ‘dylai’ ar gyfer arfer a argymhellir.
Fel Swyddog Canlyniadau, mae'n rhaid i chi ystyried y canllawiau ar gyfarpar y bydd angen ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio1
fel rhan o'ch dyletswyddau ehangach i ystyried anghenion pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio, gwneud addasiadau rhesymol a darparu cyfarpar.
Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd, gan gynnwys mewn perthynas â’r cyfarpar a ddylai gael ei ddarparu fel gofyniad sylfaenol, ac unrhyw gyfarpar a chymorth ychwanegol. Byddwn yn gofyn am adborth gan bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol ar y cyfarpar a ddarparwyd i gynorthwyo pleidleiswyr anabl fel rhan o’n hadrodd ar etholiadau ac i helpu gydag adnabod a rhannu arfer da.