Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Rhannu gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr. Gall y gwaith cyfathrebu a wnewch helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau hysbys i bleidleiswyr anabl a gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w helpu i gymryd rhan yn hyderus.
Byddwn yn darparu cyfres o adnoddau a all eich cefnogi i hyrwyddo gwybodaeth am y broses bleidleisio a'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys adnoddau a fydd yn cyfeirio at ganllawiau ar ohebiaeth hygyrch. Byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda sefydliadau anabledd i lywio'r adnoddau a ddarperir gennym, a byddwn yn ceisio adeiladu ar yr adnoddau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn fel rhan o'n gwaith gwerthuso a gwella parhaus. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolenni pan fydd yr adnoddau ar gael.
Darparu gwybodaeth am leoliad gorsafoedd pleidleisio
Yn ôl adborth gan sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, mae rhai pleidleiswyr yn ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth am leoliadau gorsafoedd pleidleisio. Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu adnodd chwilio am godau post ar ein gwefan.
I sicrhau bod y wybodaeth hon mor weladwy â phosibl, dylech hyrwyddo'r adnodd chwilio am godau post gymaint â phosibl. Gallech gynnwys yr adnodd ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn rydym wedi'i ddarparu, neu ychwanegu dolen i'n gwefan. Gallech hefyd rannu'r ddolen â rhwydweithiau mewnol presennol neu sefydliadau allanol rydych yn gweithio gyda nhw a'u hannog i'w rhannu â'u rhanddeiliaid. Hefyd, gallech gynnwys y ddolen ar yr hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Os bydd angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch mewn perthynas â defnyddio'r adnodd chwilio, ewch i wefan Democracy Club.
Darparu gwybodaeth bellach am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
Er mwyn helpu i oresgyn pryderon a lliniaru gorbryder ynghylch sut beth fydd pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth rydych yn ei harddangos ar hysbysfyrddau cyhoeddus, gallech ddarparu tudalen benodol ar eich gwefan sy'n cynnwys deunydd hygyrch i helpu pleidleiswyr sydd am ddysgu mwy am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
Gallai eich cynnwys hygyrch ar y we gynnwys:
- gwybodaeth am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- ymwybyddiaeth y gall cydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr fod yn unrhyw un dros 18 oed ac os ydynt wedi cwblhau'r datganiad, y gall fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w gynorthwyo
- bod Swyddog Llywyddu yn gallu helpu pleidleisiwr
- y math o gyfarpar a fydd ar gael a sut i wneud cais i gael cyfarpar ychwanegol er mwyn diwallu angen penodol
- gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- dolenni i fideos am bleidleisio yn Iaith Arwyddion Prydain a Makaton
- fideos gan Mencap â chanllawiau hawdd eu deall ar bleidleisio
- pan fydd yr orsaf yn debygol o fod yn brysur a phryd mae'n debygol o fod yn dawel
- argaeledd mannau tawel
Byddwn yn datblygu adnodd sy'n cyflwyno gwybodaeth am bleidleisio sydd wedi'i hysgrifennu mewn ffordd hygyrch, y gallech ei defnyddio i ddatblygu eich cynnwys hygyrch eich hun ar y we er mwyn ymgysylltu â phleidleiswyr a chodi eu hymwybyddiaeth. Byddwn hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth i bleidleiswyr am y broses bleidleisio ar ein gwefan y gallwch gyfeirio etholwyr ati drwy ddolen ar ein tudalennau gwe. Byddwn yn diweddaru'r canllawiau hyn drwy gynnwys dolenni pan fydd yr adnoddau ar gael.
Cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar gardiau pleidleisio a sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch
Er bod y testun y mae'n rhaid ei gynnwys ar gardiau pleidleisio wedi'i bennu mewn deddfwriaeth, gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth bellach sy'n briodol yn eich barn chi.1
Yr unig eithriad i hyn yw etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon lle mae cynnwys y cerdyn pleidleisio wedi'i bennu'n union ac ni chewch gynnwys unrhyw wybodaeth arall.2
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cyflwyno heriau eraill i'r broses etholiadol y mae angen eu rhannu â phleidleiswyr cyn y digwyddiad pleidleisio. Bydd hyn yn golygu ar gyfer etholiadau perthnasol y gall fod angen i'r cerdyn pleidleisio fod yn llythyr er mwyn gallu cynnwys y wybodaeth berthnasol. Byddai defnyddio fformat gwahanol ar gyfer y cerdyn pleidleisio yn rhoi cyfle da i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol i bleidleiswyr am eu gorsaf bleidleisio a hygyrchedd y broses bleidleisio. Er enghraifft, gallech gynnwys dolen i dudalen we hygyrch neu ddarparu cod QR ar lythyr y cerdyn pleidleisio sy'n mynd â'r pleidleisiwr yn syth i dudalen we sy'n rhoi gwybodaeth am y broses bleidleisio neu'r cyfarpar a fydd ar gael.
Am nad yw'r wybodaeth a roddir ar y cerdyn pleidleisio yn hygyrch i rai pleidleiswyr, dylech hefyd ystyried sut y gallwch wneud y wybodaeth ar y cerdyn pleidleisio yn fwy hygyrch drwy ei gyhoeddi mewn ffordd arall hefyd.
Er enghraifft, gallech wneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth y cerdyn pleidleisio ar eich gwefan mewn fformat hygyrch, sy'n gydnaws â rhaglenni darllen sgrin.
- darparu fersiynau print bras neu hawdd eu darllen ar gais, a hyrwyddo hyn ar y cerdyn pleidleisio ei hun ac ar eich gwefan.
- anfon cerdyn pleidleisio a gwybodaeth arall yn uniongyrchol at etholwr yn y fformat y mae'n ei ffafrio yn ogystal â thrwy'r post, er enghraifft os byddwch yn gwybod bod angen i wybodaeth gael ei rhannu'n electronig mewn fformat hygyrch.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio data lleol mewn modd rhagweithiol i gysylltu ag unigolion am y fformatau maent yn eu ffafrio ar gyfer cardiau pleidleisio yn Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl.
Gallai anfon yr ohebiaeth ychwanegol hon hefyd gynnig cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r hyn a fydd yn digwydd ar y diwrnod pleidleisio, beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a'r cyfarpar a fydd ar gael.
Darparu papurau pleidleisio enghreifftiol hygyrch
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i rai pleidleiswyr allu edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i'r orsaf bleidleisio er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y broses bleidleisio. Gallech ddarparu papurau pleidleisio enghreifftiol ar eich gwefan er mwyn cefnogi hyn, a sicrhau eu bod yn hygyrch i etholwyr sy'n defnyddio rhaglenni darllen sgrin.
Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid am bleidleisio hygyrch mewn gorsafoedd pleidleisio
Dylech gynnwys gwybodaeth yn y sesiynau briffio y byddwch yn eu rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â sut i wneud cais. Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr ac asiantiaid yn adnabod pleidleiswyr unigol y mae angen cymorth neu gyfarpar penodol arnynt a gallent helpu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt a sut i fanteisio arno.
- 1. Rheol 28(3)(e), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 25(3) Atodlen 5, Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 ↩ Back to content at footnote 2