Ar ôl pob etholiad, dylech werthuso'r cyfarpar a'r cymorth a ddarparwyd gennych mewn gorsafoedd pleidleisio a sut y gwnaethoch gyfathrebu â phleidleiswyr mewn perthynas â'u hanghenion a beth y gallant ei ddisgwyl. Er mwyn helpu â'ch gweithgareddau gwerthuso, byddwn yn darparu arolwg enghreifftiol i'w ddefnyddio â phleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth bleidleisio. Gellir defnyddio'r arolwg i gasglu eu hadborth ar eu profiad o bleidleisio a'r cymorth a oedd ar gael iddynt.
Dylech wahodd adborth gan bleidleiswyr a grwpiau hygyrchedd ar eu profiad o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, am yr hyn a weithiodd yn dda a beth nad oedd cystal, er mwyn helpu i lywio'r hyn rydych yn ei wneud i gefnogi pleidleiswyr anabl mewn digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol.
Mae dulliau y gallech eu defnyddio i gasglu adborth yn cynnwys y canlynol:
Darparu arolwg hawdd ei ddeall yn yr orsaf bleidleisio am y profiad pleidleisio.
Gwahodd pleidleiswyr a sefydliadau partner i fynychu grwpiau ffocws i drafod eu profiadau o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.
Gwahodd staff gorsafoedd pleidleisio i drafod eu profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio lle darparwyd cyfarpar penodol, sut y gwnaethant ymdopi ag unrhyw sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod, a'u hadborth ar yr hyfforddiant a gawsant.
Adolygu unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
Monitro'r defnydd o'r cyfarpar a ddarperir gennych mewn gorsafoedd pleidleisio drwy ofyn i staff gorsafoedd pleidleisio gadw cofnod yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio neu drwy arolygon neu adborth ar ôl yr etholiad.
I sicrhau eich bod yn cael amrywiaeth eang o adborth allanol, dylech ystyried darparu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer casglu safbwyntiau. Un ffordd dda o ganfod y dull mwyaf priodol o gyrraedd grŵp penodol o bleidleiswyr fyddai gofyn i'r sefydliadau partneriaeth rydych yn gweithio gyda nhw beth fyddai'n gweithio orau i'r pleidleiswyr y maent yn eu cefnogi.
Mae'r Ddeddf Etholiadau'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Comisiwn adrodd ar y broses o roi'r darpariaethau hygyrchedd newydd ar waith. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwnnw, byddwn yn gofyn am ddata ar y cyfarpar a'r cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio a ddylai fod yn wybodaeth sydd ar gael i chi eisoes i gefnogi eich prosesau cynllunio eich hun.
Byddwn yn defnyddio ein gwaith ymgysylltu ac adrodd i dynnu sylw at enghreifftiau o arferion da sy'n dod i'r amlwg ac yn adlewyrchu'r rhain mewn fersiynau o'r canllawiau hyn yn y dyfodol i gefnogi eich gwaith o sicrhau bod y broses bleidleisio'n hygyrch.