Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Sicrhau bod y rheini sy'n gweithio i gefnogi'r bleidlais yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd
Er mwyn helpu i sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael mynediad cyfartal i bleidleisio ac yn cael cymorth priodol, mae'n bwysig bod pawb sy'n gweithio i gynnal yr etholiad neu i roi gwybodaeth i bleidleiswyr yn ymwybodol o anghenion pobl anabl.
Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd i'r holl staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, gan gynnwys staff sy'n cefnogi gwasanaethau etholiadol, er mwyn helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.
Gan weithio gyda phartneriaid allanol, rydym wedi datblygu adnoddau a allai helpu eich staff i ddeall rhwystrau i bleidleisio a phrofiadau pleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio, gan gynnwys:
- Fideo RNIB sy'n rhannu'r profiad o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio i'r rheini â cholled golwg
- Fideos Mencap sy'n rhannu profiadau Charlotte a Harry o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ag anabledd dysgu
Gallwch geisio cyngor gan eich swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant neu eich adran Adnoddau Dynol ar hyfforddiant ymwybyddiaeth o hygyrchedd arall y gallech fanteisio arno.
Dylai staff hefyd fod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael gennym ar ein gwefan a'n sianel YouTube i gynorthwyo pobl anabl i ddeall pleidleisio a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ein hadnoddau, gallwch danysgrifio i'r Gofrestr, ef ein cylchlythyr cofrestru i bleidleiswyr a'ch canllaw i gefnogi pleidleiswyr i gofrestru a chymryd rhan.
Yn ogystal, gallech ystyried caffael neu ddatblygu adnoddau bytholwyrdd nad ydynt yn ymwneud ag etholiad penodol fel y gallwch eu defnyddio drwy'r flwyddyn am sawl blynedd mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil sy'n cefnogi eu rhanddeiliaid ac yn dadlau drostynt ar faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd pleidleisio.
Hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn cefnogi hygyrchedd
Mae hefyd yn hanfodol bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn ymdrin â phwysigrwydd bod yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a pha gamau y dylent eu cymryd i'w cefnogi.
Mae gweithredoedd ac ymddygiadau staff gorsafoedd pleidleisio yn allweddol i sicrhau bod profiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio yn un cadarnhaol. Gall pethau syml megis cynnig cymorth a gwrando ar gwestiynau pleidleiswyr wneud gwahaniaeth go iawn.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghenion hygyrchedd yn gyffredinol, mae'n bwysig bod eich hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio yn cwmpasu'r canlynol:
- y rhwystrau a wynebir gan bleidleiswyr anabl yn yr orsaf bleidleisio a sut y gall staff gorsafoedd pleidleisio helpu i'w lleihau
- ymwybyddiaeth nad oes rhwystrau cyfreithiol i atal pobl anabl rhag pleidleisio, gan gynnwys pleidleiswyr ag unrhyw anabledd dysgu neu nam gwybyddol
- ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weledol nac yn amlwg, ac na ddylai staff gorsafoedd pleidleisio wneud rhagdybiaethau ynghylch pa gyfarpar y gall fod ei angen ar bleidleiswyr a phwysigrwydd ystyried anghenion y person, nid anabledd penodol
- ymwybyddiaeth y gall fod gan rai pleidleiswyr fwy nag un nam – er enghraifft, nam ar eu golwg a dementia
- pwysigrwydd cyfathrebu clir mewn perthynas â'r broses bleidleisio
- pwysigrwydd cyfathrebu'n glir fod cymorth ar gael os bydd angen
- ymwybyddiaeth o'r cyfarpar a ddarperir yn yr orsaf bleidleisio, a sut i'w ddefnyddio, er mwyn galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a'i gwneud yn haws iddynt wneud hyn, gan gynnwys yn benodol gyfarpar penodol y gall staff gorsafoedd pleidleisio fod yn llai cyfarwydd ag ef, fel dolenni sain
- ymwybyddiaeth y gall cydymaith sy'n cynorthwyo pleidleisiwr fod yn unrhyw un dros 18 oed ac os ydynt wedi cwblhau'r datganiad, y gall fynd gyda phleidleisiwr i'r bwth i'w gynorthwyo
- ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr anabl gael anifail cymorth gydag ef ac na ddylid atal anifeiliaid cymorth rhag mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio
- ymwybyddiaeth y gall pleidleiswyr â cholled golwg ddefnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu gario cyfarpar cymorth maint poced, fel chwyddwydr fideo i'w helpu i ddarllen dogfennau yn y bwth pleidleisio neu ar y cyd â dyfais bleidleisio gyffyrddadwy
- ymwybyddiaeth ei bod yn dderbyniol defnyddio apiau testun i leferydd mewn gorsafoedd pleidleisio
- ymwybyddiaeth o ddulliau cyfathrebu amgen y gall pleidleiswyr eu defnyddio fel Makaton ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Yn ein canllawiau craidd i Swyddogion Canlyniadau ar gyfer pob math o etholiad, ceir dolenni i hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio sy'n cynnwys gwybodaeth am y rôl sydd gan staff gorsafoedd pleidleisio yn sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch a bod cyfarpar ar gael i gefnogi pleidleiswyr anabl â hygyrchedd, y dylech dynnu sylw ati wrth friffio staff gorsafoedd pleidleisio.