Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl

Rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl

Gall rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â phleidleiswyr anabl fod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu mwy am y mathau o ddarpariaeth sydd eu hangen ar bleidleiswyr anabl fel rhan o'ch dyletswydd ragweledol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.  

Mae ymgysylltu ag etholwyr yn gyfle i ddarparu gwybodaeth am y math o gymorth y gellid ei roi i'w helpu i gymryd rhan mewn etholiadau ac i ofyn am y fformat maent yn ei ffafrio ar gyfer gohebiaeth hygyrch, sy'n arbennig o fuddiol i bobl ddall neu bobl rhannol ddall sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.  

Dylech archwilio ffyrdd o weithio gydag eraill yn eich awdurdod lleol a all eich helpu i nodi etholwyr anabl yn eich ardal, i'ch galluogi i gyfathrebu â nhw'n uniongyrchol.  

Mae cofrestrau colled golwg yn rhestru'r bobl yn yr ardal leol sydd ag ardystiad o nam ar eu golwg. 

Yn Lloegr, o dan Ddeddf Gofal 2014, gall awdurdodau lleol ddefnyddio cofrestrau colled golwg i sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau ar gael i'r person hwnnw er enghraifft i ofyn a ellid rhoi cymorth i'w helpu i gymryd rhan mewn digwyddiadau etholiadol.1 Gall y mynediad sydd gennych i'r wybodaeth hon amrywio yn dibynnu a ydych wedi cael eich penodi gan awdurdod dosbarth neu awdurdod unedol. 

Yng Nghymru a'r Alban, gallwch gysylltu â'r adrannau gofal cymdeithasol perthnasol i oedolion ac yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â'r Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol i gael cyngor ar sut y gallwch gael gwybodaeth o gofrestrau colled golwg a ddelir ganddynt.

Gall defnyddio data lleol yn rhagweithiol drwy geisio gwybodaeth o'r gofrestr colled golwg neu drwy ddefnyddio adnodd fel yr adnodd data colled golwg a ddarperir gan yr RNIB eich helpu i ganfod sawl etholwr yn eich ardal y mae colled golwg wedi effeithio arnynt. Gall gwybod mwy am nifer yr etholwyr yr effeithir arnynt eich helpu:

  • i ragweld anghenion pobl ddall a phobl rhannol ddall yn eich ardal, er enghraifft, drwy sicrhau y caiff cardiau pleidleisio eu hanfon yn y fformatau maent yn eu ffafrio gan eu galluogi i gael y wybodaeth amdanynt yn annibynnol
  • i gydymffurfio â'ch dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn gwneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo unigolion ar y gofrestr i gymryd rhan mewn etholiadau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Rhagfyr 2023