Return to The Electoral Commission Homepage

Adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adolygu eu dosbarthiadau etholiadol a'u mannau pleidleisio ar gyfer etholaethau seneddol y DU o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Yn ogystal ag adolygiadau gorfodol, gall awdurdodau lleol hefyd gynnal adolygiadau ychwanegol ar adegau eraill, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol. Nid yw adolygiadau lleol ychwanegol yn effeithio ar yr amserlen ar gyfer adolygiadau gorfodol.

Mae'r canllawiau hyn yn darparu dull fesul cam o gynnal adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio yn unol â'r gofynion deddfwriaethol perthnasol. Cafodd ei lywio gan adborth gan awdurdodau lleol ar eu profiadau o gynnal eu hadolygiadau blaenorol. 

Mae'n cynnwys canllawiau penodol ar gyfer rheoli'r cyfnod adolygu gorfodol nesaf sy'n dechrau ym mis Hydref 2023.

Mae hefyd yn ymgorffori'r hyn y mae'r Comisiwn wedi'i ddysgu drwy ei brofiad o weinyddu'r broses apelio. 

Rydym wedi cynhyrchu rhestr wirio cynllun prosiect adolygu mannau pleidleisio ac arweiniad ar asesu addasrwydd mannau pleidleisio i'ch helpu i ddarparu adolygiad, o ran cynnal yr adolygiad gorfodol, yn ogystal ag unrhyw adolygiadau dros dro a benderfynir yn lleol. 

 

Diweddariadau i'n canllawiau

 

Dyddiad y diweddariadDisgrifiad o'r newid
Hydref 2023Newid i ddyddiad disgwyliedig Gorchymyn i newid Ystyriaethau ffiniau Senedd y DU ar gyfer cyfnod adolygu gorfodol 2023 - 2025

Rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud ag adolygiad o fannau pleidleisio

Yr awdurdod lleol

Yr awdurdod lleol perthnasol sy'n gyfrifol yn statudol am adolygu dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio Seneddol y DU ym Mhrydain Fawr, a hynny am gymaint o unrhyw etholaeth ag sydd wedi'i lleoli yn ei ardal. Awdurdod lleol perthnasol yw:

  • yn Lloegr, y cyngor dosbarth neu'r cyngor bwrdeistref yn Llundain; 
  • yr Alban, awdurdod lleol; 
  • yng Nghymru, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref.

Yn dibynnu ar strwythur yr awdurdod lleol, efallai nad y cyngor llawn fydd yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn ag unrhyw newidiadau i ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio. Mae'n bosibl bod rhai awdurdodau lleol wedi dirprwyo'r swyddogaeth honno. Os felly, daw pwyllgor neu is-bwyllgor yn gyfrifol am y penderfyniad ar ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. Bydd hyn wedi'i nodi yng nghyfansoddiad y cyngor. 

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol

Pan fydd awdurdod lleol yn gwneud unrhyw newidiadau i'r dosbarthiadau etholiadol yn ei ardal, rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ddiwygio'r gofrestr etholwyr yn unol â hynny – naill ai ar hysbysiad newid neu drwy gyhoeddi cofrestr ddiwygiedig. 

Daw'r newidiadau i'r gofrestr yn weithredol ar y dyddiad y mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cyhoeddi hysbysiad ar wahân yn nodi bod y newidiadau wedi cael eu gwneud, a ddylai gael ei wneud i gyd-daro â chyhoeddi hysbysiad newid/cyhoeddi cofrestr ddiwygiedig.

Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)

Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wneud sylwadau yn ystod unrhyw adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio Seneddol y DU ynglŷn â'r gorsafoedd pleidleisio presennol a'r gorsafoedd pleidleisio a fyddai'n debygol o gael eu defnyddio pe bai unrhyw gynnig newydd ar gyfer mannau pleidleisio yn cael ei dderbyn. 

Mae'r rheolau etholiadol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu faint o orsafoedd pleidleisio sydd eu hangen ar gyfer pob man pleidleisio a rhaid iddynt neilltuo etholwyr i'r gorsafoedd pleidleisio yn y fath fodd ag sydd fwyaf cyfleus yn eu barn.  

Y Comisiwn Etholiadol

Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi unrhyw rôl i'r Comisiwn yn y broses adolygu, mae'n rhoi rôl ar ôl i'r adolygiad ddod i ben.

Unwaith y bydd yr awdurdod lleol wedi cyhoeddi canlyniadau ei adolygiad, caiff partïon â diddordeb a bennwyd wneud sylwadau i'r Comisiwn er mwyn ailystyried unrhyw ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. Gallwn gyfarwyddo'r awdurdod i wneud unrhyw newidiadau i'r mannau pleidleisio ag sy'n angenrheidiol yn ein barn ni ac, os na wneir y newidiadau o fewn deufis, gallwn wneud y newidiadau ein hunain.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Y termau a ddefnyddir mewn adolygiad o fannau pleidleisio

 
Term Diffiniad
Etholaethau Seneddol y DU

Mae Deddf Etholaethau Seneddol 1986 yn nodi: ‘There shall for the purpose of parliamentary elections be the county and borough constituencies (or in Scotland the county and burgh constituencies), each returning a single member, which are described in Orders in Council made under this Act. […] In this Act and, except where the context otherwise requires, in any Act passed after the Representation of the People Act 1948, “constituency” means an area having separate representation in the House of Commons.1

Ni all ffiniau etholaethau Seneddol y DU gael eu newid o dan yr adolygiad.
 

Dosbarth etholiadol

Ystyr dosbarth etholiadol yw ardal ddaearyddol sy'n cael ei chreu drwy is-rannu un o etholaethau Seneddol y DU at ddibenion etholiad Senedd y DU.

Yn Lloegr, bwriedir i bob plwyf fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân ac, yng Nghymru, dylai pob cymuned fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân oni bai bod amgylchiadau arbennig. Mae hyn yn golygu na ddylai plwyf na chymuned fod mewn dosbarth etholiadol y mae rhan o naill ai plwyf neu gymuned wahanol ynddo, neu unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol nad yw'n blwyf ynddo, oni bai bod amgylchiadau arbennig yn gymwys. Gallai'r amgylchiadau arbennig hynny godi, er enghraifft os mai dim ond nifer bach o etholwyr sydd yn y plwyf/y gymuned ac nad yw'n ymarferol i'r plwyf fod yn ddosbarth etholiadol ynddo'i hun.

Yn yr Alban, rhaid i bob ward etholiadol gael ei rhannu'n ddau ddosbarth etholiadol neu fwy oni bai bod amgylchiadau arbennig. O ystyried maint wardiau yn yr Alban, mae'n anodd rhagweld beth fyddai'r amgylchiadau arbennig hynny yn ymarferol.

Pan nad yw plwyf/cymuned yn ddosbarth etholiadol ar wahân neu pan nad yw ward etholiadol yn yr Alban wedi'i rhannu'n ddau ddosbarth etholiadol neu fwy, dylai'r amgylchiadau arbennig a'r argymhelliad sy'n deillio o'r rhain gael eu nodi'n glir yn y ddogfen adolygu er mwyn i'r cyngor neu'r pwyllgor perthnasol eu hystyried.

Man pleidleisio

Man pleidleisio yw'r adeilad neu'r ardal lle y bydd gorsafoedd pleidleisio yn cael eu dewis gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Rhaid i fan pleidleisio o fewn dosbarth etholiadol gael ei ddynodi er mwyn sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio o fewn cyrraedd hawdd i bob etholwr yn y dosbarth etholiadol.

Rydym yn ymwybodol bod rhai awdurdodau yn dynodi'r dosbarth etholiadol gyfan fel y man pleidleisio. Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi bod 'rhaid i'r man pleidleisio fod yn ddigon bach fel y bydd etholwyr mewn rhannau gwahanol o'r dosbarth yn gwybod sut y byddant yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio'.2

Felly, rydym o'r farn y dylid diffinio mannau pleidleisio'n fwy penodol na'r dosbarth etholiadol yn unig – er enghraifft, drwy ddynodi enw'r man pleidleisio (fel arfer adeilad neu ardal benodol a'i gyffiniau). 

Gorsaf bleidleisio Ystyr gorsaf bleidleisio yw'r ystafell neu'r ardal yn y man pleidleisio lle mae etholwyr yn pleidleisio. Yn wahanol i ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio sydd wedi'u pennu gan yr awdurdod lleol, caiff gorsafoedd pleidleisio eu dewis gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol ar gyfer yr etholiad.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cwmpas adolygiadau gorfodol o fannau pleidleisio

Nid yw dosbarthiadau etholiadol na mannau pleidleisio ar gyfer etholiadau eraill o reidrwydd yn rhan o'r adolygiad gorfodol. 

Fodd bynnag, gan fod dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio ar gyfer etholiadau eraill yn seiliedig ar drefniadau pleidleisio Senedd y DU, dylid ystyried gofynion unrhyw etholiadau eraill a gynhelir o fewn ardal yr awdurdod lleol fel rhan o'r adolygiad. Mae hyn yn golygu, er mai'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yw'r prif Swyddog Canlyniadau at ddibenion yr adolygiad, ac mae'n chwarae rôl statudol ynddo, dylid cynnwys pob Swyddog Canlyniadau o fewn yr etholaeth (os nad yw hefyd yn Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)) yn y broses adolygu.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Gofynion deddfwriaethol adolygiad o fannau pleidleisio

Rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol canlynol o ran dynodi dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio 1 :

  • bydd pob plwyf yn Lloegr a phob cymuned yng Nghymru yn ddosbarth etholiadol ar wahân, oni bai bod amgylchiadau arbennig yn gymwys 
  • yn yr Alban, rhaid i bob ward etholiadol gael ei rhannu'n ddwy neu fwy o ddosbarthiadau etholiadol ar wahân, oni bai bod amgylchiadau arbennig yn gymwys
  • rhaid i'r cyngor ddynodi man pleidleisio ar gyfer pob dosbarth etholiadol, oni bai bod maint dosbarth etholiadol neu amgylchiadau eraill yn golygu nad yw sefyllfa'r gorsafoedd pleidleisio yn effeithio'n sylweddol ar gyfleuster yr etholwyr          
  • rhaid i'r man pleidleisio fod yn ardal yn y dosbarth, oni bai bod amgylchiadau arbennig yn golygu ei bod yn ddymunol dynodi ardal sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol y tu allan i'r dosbarth (er enghraifft, os na ellir nodi unrhyw fan pleidleisio hygyrch yn y dosbarth)
  • rhaid i'r man pleidleisio fod yn ddigon bach fel y bydd etholwyr mewn rhannau gwahanol o'r dosbarth yn gwybod sut y byddant yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd gydymffurfio â'r gofynion o ran hygyrchedd y gallwch eu gweld yn ein canllawiau ar ofynion hygyrchedd adolygiad o fannau pleidleisio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Gofynion hygyrchedd adolygiad o fannau pleidleisio


Dylai pob person allu pleidleisio heb wynebu rhwystrau. Drwy nodi a deall y rhwystrau ffisegol a seicolegol y gall pobl anabl eu hwynebu, yn ogystal â rhwystrau o ran gwybodaeth, bydd Swyddogion Canlyniadau mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i’w helpu.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Deall y rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl.

Fel rhan o’r adolygiad gorfodol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio dichonadwy wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio. Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio sicrhau'r canlynol:

  • bydd gan bob etholwr mewn etholaeth yn ardal yr awdurdod lleol y cyfryw gyfleusterau rhesymol i bleidleisio ag sy'n ymarferol o dan yr amgylchiadau
  • i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol, bydd pob man pleidleisio y mae'n gyfrifol amdano yn hygyrch i etholwyr sy'n anabl

Ymgysylltu ag arbenigwyr ar hygyrchedd 

Fel rhan o'r adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol ofyn am sylwadau gan y rhai sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau ar gyfer pobl sydd â gwahanol fathau o anabledd, yn ogystal ag ymgysylltu ag unrhyw grwpiau mynediad i bobl anabl a/neu swyddog anabledd.

Eich dyletswydd i ystyried y materion hygyrchedd 

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu hygyrchedd pob man pleidleisio i bleidleiswyr anabl a sicrhau bod pob man pleidleisio, a phob man pleidleisio posibl, y mae'n gyfrifol amdano yn hygyrch i bleidleiswyr anabl i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol. 

Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol, mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys tri gofyniad. 

Ar gyfer darparwyr gwasanaethau a'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus, mae'r gofynion hyn fel a ganlyn:

  • Pan fo darpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â rhai nad ydynt yn anabl, mae gofyniad i gymryd camau rhesymol i osgoi'r anfantais honno.
  • Pan fo nodwedd ffisegol yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl mae gofyniad i osgoi'r anfantais honno neu fabwysiadu dull amgen rhesymol o ddarparu'r gwasanaeth neu arfer y swyddogaeth.
  • Pan fydd methiant i ddarparu cymorth ategol, er enghraifft ramp i ddefnyddwyr cadair olwyn1 , yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, mae gofyniad i ddarparu'r cymorth ategol hwnnw.

Mae mynediad i'r orsaf bleidleisio yn dal i fod yn rhwystr i rai pobl anabl sydd am fwrw eu pleidlais yn bersonol. Ceir isod rai o'r prif broblemau o ran mynediad ffisegol y dylid eu hystyried fel rhan o adolygiad:

  • mannau a gorsafoedd pleidleisio lle mae grisiau i mewn i'r fynedfa, neu sydd fel arall yn anhygyrch
  • drysau a choridorau cul
  • diffyg lle o fewn y man pleidleisio a oedd yn golygu nad oedd digon o le i gadair olwyn fodur symud o'i amgylch 
  • diffyg lle a chyfrinachedd i'r etholwr a'i gydymaith drafod ei ddewis o bleidlais  
  • diffyg bythau pleidleisio lefel isel neu fythau/byrddau a oedd yn golygu nad oedd pleidleiswyr anabl yn hyderus y gallent fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol am eu bod wedi'u lleoli'n agos i staff yr orsaf bleidleisio
  • diffyg cadeiriau er mwyn i bobl gael gorffwys
  • methiant i arddangos canllawiau neu gymhorthion (megis dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy) yn glir a fyddai'n rhoi hyder i bobl ynglŷn â'r broses 
  • goleuo annigonol 

Mae Deddf Etholiadau 2022 yn rhoi dyletswydd ar Swyddogion Canlyniadau i ddarparu ym mhob gorsaf bleidleisio unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pobl berthnasol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.2  Felly, fel rhan o'r adolygiad, dylid ystyried a oes digon o le yn yr adeilad ar gyfer y cyfarpar y byddwch yn ei ddarparu i gynorthwyo pleidleiswyr anabl. 

Rydym wedi paratoi rhestr wirio hygyrchedd y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a phob gorsaf bleidleisio sy'n cwmpasu'r rhain, yn ogystal â materion eraill. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Amseriad adolygiadau gorfodol o fannau pleidleisio

Pennir amseriad adolygiadau gorfodol o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio Senedd y DU drwy ddeddfwriaeth.1  Rhaid i adolygiadau gorfodol ddechrau a chael eu cwblhau o fewn y cyfnod o 16 mis sy'n dechrau ar 1 Hydref bob pumed blwyddyn ar ôl 1 Hydref 2013.

Rhestr o adolygiadau gorfodol arfaethedig: 

Yn dechrau ar I'w gwblhau gan
1 Hydref 2023 31 Ionawr 2025
1 Hydref 2028 31 Ionawr 2030
1 Hydref 2033 31 Ionawr 2035


Adolygiad yw'r holl gamau a nodwyd yn Atodlen A1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Rhaid i broses yr adolygiad, o gyhoeddi'r hysbysiad o'r adolygiad nes i'r dogfennau ar y diwedd gael eu cyhoeddi, gael ei chynnal o fewn y cyfnod penodedig.  

Pa mor hir y dylai proses yr adolygiad bara?

Nid yw hyd proses yr adolygiad wedi'i ragnodi, ar yr amod y gall yr holl gamau sy'n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth gael eu cymryd oddi mewn iddo. Fodd bynnag, dylai'r amser a ganiateir ar gyfer ymgynghori fod yn ddigon i'w gwneud yn bosibl i bersonau a grwpiau â diddordeb ddarllen a deall y cynigion, casglu sylwadau ac ymateb drwy nodi unrhyw drefniadau amgen y maent yn dymuno eu cyflwyno. Efallai y bydd yr awdurdod lleol yn dymuno ystyried unrhyw ganllawiau gan y cyngor ar ymgynghori â'r cyhoedd wrth gynnal yr adolygiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Ystyriaethau ar gyfer cyfnod adolygu gorfodol 2023 - 2025

Y cyfnod adolygu gorfodol nesaf yw'r 16 mis rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Ionawr 2025.

Bydd hwn yn gyfnod heriol oherwydd lefel uchel o flaenoriaethau cystadleuol y bydd angen eu cyflawni ochr yn ochr â'r broses adolygu orfodol. Bydd angen i chi benderfynu pryd i gynnal eich adolygiad yn seiliedig ar asesiad o sawl ffactor, gan gynnwys: 

  • eich cynllun gwaith 'busnes fel arfer' cyffredin
  • effaith ffiniau etholaethau Seneddol newydd y DU, y disgwylir iddynt ddod i rym yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU
  • darparu etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU y mae'n rhaid ei gynnal cyn 28 Ionawr 2025, ac y gellid ei alw ar fyr rybudd yn dilyn diddymu'r Ddeddf Senedd Cyfnod Penodol. Bydd angen i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) sicrhau bod etholiad Senedd y DU yn cael ei gynnal ar y ffiniau newydd a bod y dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio yn adlewyrchu'r ffiniau diwygiedig hyn
  • gweithredu'r newidiadau deddfwriaethol sylweddol sy'n rhan o gam nesaf darpariaethau Deddf Etholiadau 2022.  

Bydd angen i chi sicrhau bod gennych yr amser a'r adnoddau i gynnal yr adolygiad ochr yn ochr â'ch darpariaeth o wasanaethau etholiadol dydd i ddydd. 

O ystyried maint y newidiadau disgwyliedig ac effaith newidiadau i ffiniau ar etholaethau Seneddol y DU, byddem yn cynghori eich bod yn cynnal a chwblhau'r adolygiad mor gynnar â phosibl yn y cyfnod gorfodol. 

Mae'r argymhellion ar gyfer newidiadau i ffiniau etholaethau Seneddol y DU wedi cael eu cyhoeddi gan y Comisiynau Ffiniau ar gyfer Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Disgwylir y byddant yn gwneud erbyn diwedd mis Tachwedd, gydag etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn cael eu cynnal ar ôl y dyddiad hwn i gael eu cynnal ar y ffiniau newydd. 

Bydd cynnal eich adolygiad yn gynnar yn y cyfnod gorfodol yn sicrhau y byddwch yn gallu cynnal etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU ar y ffiniau cywir, os caiff ei alw ar fyr rybudd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ‘Effaith y ffiniau newydd ar y broses adolygu gorfodol'. Yn ôl yr arfer, bydd y Comisiwn yn darparu canllawiau a chymorth i reoli effaith etholiad cyffredinol Senedd y DU a alwyd ar fyr rybudd ar reolaeth gweithgarwch gwasanaethau etholiadol eraill, yn dibynnu ar bryd y caiff ei alw (er enghraifft, yn ystod y canfasio blynyddol neu yn y cyfnod cyn etholiadau a drefnwyd).

Er y bydd ffiniau etholaethau Seneddol newydd y DU yn dod i rym yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU, os cynhelir is-etholiad Senedd y DU cyn y dyddiad hwn, bydd hyn yn dal i ddefnyddio'r ffiniau presennol. Felly, bydd angen i Swyddogion Canlyniadau wneud cynlluniau i gynnal etholiadau ar y ddwy set o ffiniau etholaethau Seneddol.

Os ydych yn bwriadu newid eich trefniadau dosbarthiadau etholiadol i gefnogi ffiniau etholaethau Seneddol newydd y DU, bydd angen i chi sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn adlewyrchu'r trefniadau newydd hyn. Felly, efallai y bydd gofyn i chi gyhoeddi eich cofrestr ddwywaith: ar 1 Rhagfyr yn dilyn diwedd y canfasio blynyddol (oni bai eich bod yn oedi cyn cyhoeddi oherwydd is-etholiad), ac eto, yn dilyn yr adolygiad, os na chaiff ei chwblhau erbyn 1 Rhagfyr.

Wrth ystyried goblygiadau'r amseriad ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig yn dilyn yr adolygiad, bydd angen i chi ystyried:

  • sut y byddwch yn sicrhau bod gan ymgeiswyr ac asiantiaid yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi eu cyfranogiad yn y cyfnod cyn etholiadau a drefnwyd, yn enwedig os cynhelir hyn cyn etholiadau mis Mai 2024. Er enghraifft, i sicrhau bod ganddynt y data cofrestr etholiadol cywir i gefnogi eu hymgyrchoedd.
  • unrhyw effaith ar gynhyrchu cardiau pleidleisio, er mwyn sicrhau y gallwch gyflenwi data i'ch argraffwyr mewn pryd i gwrdd â'ch terfynau amser arferol ar gyfer cardiau pleidleisio. 

Os ydych yn bwriadu cyhoeddi eich adolygiad ôl-orfodol diwygiedig o gofrestrau ar ôl 1 Rhagfyr, yn dilyn y canfasio blynyddol, bydd angen i chi hefyd roi rhybudd o'ch bwriad i ailgyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth am y camau y bydd angen i chi eu cymryd wedi'i nodi yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban.

Paratoi ar gyfer yr adolygiad

Er na allwch ddechrau eich adolygiad yn ffurfiol tan ddechrau'r cyfnod adolygu gorfodol nesaf, mae camau y gallwch eu cymryd ymlaen llaw i gefnogi'r gwaith hwn:

  • ymgyfarwyddo â'r newidiadau arfaethedig i etholaethau Seneddol y DU yn eich ardal
  • cysylltu â Swyddogion Canlyniadau mewn awdurdodau cyfagos, os bydd trefniadau trawsffiniol newydd yn cael eu creu o dan y newidiadau arfaethedig
  • cysylltwch â'ch cyflenwyr EMS ynghylch strwythuro'r gofrestr i adlewyrchu newidiadau arfaethedig i ffiniau
  • cysylltu â'ch cyflenwr print i ddeall y dyddiadau cau ar gyfer darparu data iddynt cyn unrhyw etholiadau a drefnwyd ym mis Mai 2024 
  • cysylltu â thimau eraill yn eich awdurdod a allai gefnogi'r broses adolygu
  • i baratoi ar gyfer yr adolygiad, cyfathrebu cynnar gyda grwpiau sydd â diddordeb er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'ch cynlluniau a phryd a sut y bydd y cam ymgynghori ffurfiol yn cael ei gynnal a sut y gallant gymryd rhan
  • paratoi data i ragweld dechrau'r cyfnod adolygu gorfodol ym mis Hydref
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Rhagfyr 2024

Effaith y ffiniau newydd ar y broses adolygu gorfodol

Cynhelir adolygiadau dosbarthiadau pleidleisio mewn perthynas â, a dyrennir mannau pleidleisio yn seiliedig ar, etholaethau Seneddol y DU. Bydd newidiadau arfaethedig i ffiniau etholaethau presennol yn effeithio ar eich cynllunio ar gyfer yr adolygiad.  

Bydd dosbarthiadau etholiadol yn ffurfio blociau adeiladu eich adolygiad a bydd nodi strwythur presennol dosbarthiadau etholiadol ar gyfer ffiniau presennol Senedd y DU yn sylfaen ddefnyddiol i'r adolygiad.

Wrth gynllunio a chynnal yr adolygiad gorfodol, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried pa effaith y bydd y ffiniau newydd sy'n cael eu gosod yn ei chael ar eu dosbarthiadau etholiadol, a sut y gallai graddfa unrhyw newidiadau gofynnol effeithio ar amseriad yr adolygiad. 

Er mwyn cefnogi'r adolygiad, dylai awdurdodau lleol ystyried y canlynol:

  • nodi lle y mae’n bosib y bydd angen newid dosbarthiadau etholiadol yr effeithir arnynt gan y ffiniau newydd
  • nodi mannau pleidleisio posibl lle gall dosbarthiadau pleidleisio newid, a chynnal asesiad cychwynnol ar adeiladau addas o fewn yr ardal
  • nodi'r dosbarthiadau pleidleisio lle mae'n debygol y bydd angen newid y man pleidleisio
  • nodi lle nad yw'r ffiniau newydd yn effeithio ar ddosbarthiadau pleidleisio (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) 

Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi syniad i chi o gwmpas unrhyw newidiadau sydd eu hangen pan ddaw'r ffiniau newydd i rym. Bydd dosbarthiadau pleidleisio a lleoedd nad oes ganddynt newidiadau gorfodol o ganlyniad i newidiadau ffiniau yn dal i fod yn agored i'r broses adolygu lawn.  

Mae canllawiau pellach yn ymwneud â newidiadau ffiniau llywodraeth leol sy'n dod i rym yn yr un cyfnod wedi'u nodi yn 'Newidiadau ffiniol llywodraeth leol'.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Newidiadau ffiniol llywodraeth leol

Yn ogystal â'r newidiadau arfaethedig i ffiniau etholaethau Seneddol y DU, efallai y bydd gennych newidiadau i ffiniau llywodraeth leol yn dod i rym hefyd. O ganlyniad, os cynigir newidiadau sylweddol ar gyfer eich ardal, efallai y bydd yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal yr adolygiad yn cynyddu.

Os yw ffiniau etholiadol lleol eich awdurdod lleol yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfnod adolygu statudol, bydd angen i chi ystyried sut y bydd yr adolygiad ffiniau etholiadol yn cyd-fynd â'r adolygiad dosbarthiadau etholiadol/mannau pleidleisio ac a fyddai'n bosibl ac yn ddymunol alinio'r ddau adolygiad. Er nad oes ei angen, efallai y bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ei chael yn fuddiol eu cyfuno.

Dylech feddwl am unrhyw newidiadau i’ch ffiniau llywodraeth leol sy'n debygol o effeithio ar eich dosbarthiadau etholiadol ac ymgorffori'r newidiadau hynny yn eich cynllunio adolygu. Er enghraifft, os oedd ffiniau etholaethau Seneddol newydd y DU yn seiliedig ar hen ffiniau eich wardiau, efallai y bydd angen i chi greu dosbarthiadau etholiadol ychwanegol i gefnogi'r ffiniau newydd. 

Nodir enghraifft isod, sy'n dangos sut y gellir gwneud gwelliannau i ddosbarthiadau etholiadol i adlewyrchu newidiadau i ffiniau wardiau, ac i'ch galluogi i gynhyrchu cofrestrau ar yr hen strwythur a’r strwythur newydd.

Enghraifft

Mae Cyngor Dosbarth Unrhywdref wedi cael adolygiad ffiniau llywodraeth leol sydd wedi newid patrwm wardiau. Rhennir y wardiau presennol rhwng dwy etholaeth Seneddol, ‘Unrhywdref’ a ‘Trefnewydd’. Nid yw'r ffiniau seneddol ar gyfer yr etholaethau hyn wedi newid.

Mae'r ward 'Canolog' bresennol, sy'n cynnwys dau dosbarth etholiadol 'Gogledd Midway' a 'De Midway' ar hyn o bryd, i'w diddymu a'i hamsugno i wardiau 'Bunhill' ac 'Ansell'. Bydd ffin newydd y ward yn torri ar draws dosbarth etholiadol 'Gogledd Midway' gyda hanner yn dod yn rhan o ward 'Bunhill', a hanner yn rhan o ward 'Ansell'. Fel y cyfryw, mae angen rhannu dosbarth etholiadol 'Gogledd Midway' yn ddau dosbarth etholiadol, fel Gogledd Midway A a B, gydag 'A' i ddod yn rhan o ward 'Bunhill' a 'B' i ddod yn rhan o ward 'Ansell'.  

Yn yr enghraifft hon, bydd angen dyrannu dosbarth etholiadol newydd Gogledd Midway B, a grëwyd i adlewyrchu ffiniau newydd y wardiau, i'r etholaeth Seneddol gywir.

Strwythur Presennol

Etholaeth Seneddol  Ward  Dosbarth Etholiadol
Unrhywdref  Bunhill

A - Bunhill Uchaf

B - Bunhill Isaf

Trefnewydd Canolog

C - Gogledd Midway

D - De Midway

Trefnewydd Ansell

E - Dwyrain Ansell

F - Gorllewin Ansell

Strwythur Newydd

Etholaeth Seneddol Ward  Dosbarth Etholiadol
Unrhywdref  Bunhill

A - Bunhill Uchaf

B- Bunhill Isaf

Trefnewydd Bunhill C1 - Gogledd Midway A
Trefnewydd Ansell

C2 - Gogledd Midway B

D - De Midway

E - Dwyrain Ansell

F - Gorllewin Ansell

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cynllunio adolygiad gorfodol o fannau pleidleisio

Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu pryd y byddant yn cynnal yr adolygiad gorfodol o fewn y terfynau amser a ddarperir o dan y ddeddfwriaeth.

Er na all adolygiad gorfodol ddechrau cyn y cyfnod adolygu statudol, gall awdurdodau lleol ddechrau cynllunio ar gyfer yr adolygiad cyn hynny a dylent hefyd gynnal adolygiad rhagarweiniol o fannau pleidleisio

Nodir rhai camau paratoi isod, y gellir eu cymryd y tu allan i ofynion cyfreithiol ffurfiol yr adolygiad.

Er enghraifft, gall awdurdodau lleol ddechrau paratoi ystadegau a gwybodaeth a all fod o gymorth iddynt yn ystod yr adolygiad. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Ffigurau ynglŷn ag etholwyr, wedi'u dadansoddi ar lefel stryd o fewn y wardiau a'r dosbarthiadau etholiadol presennol.
  • Unrhyw ystadegau gan yr awdurdod lleol neu ystadegau cenedlaethol sy'n amcangyfrif newid ym mhoblogaeth yr ardal.
  • Yng Nghymru a Lloegr, adroddiad gan adran gynllunio'r awdurdod sy'n nodi unrhyw ardaloedd lle y bydd datblygiadau newydd o bosibl ac amcangyfrif o nifer yr anheddau a niferoedd y boblogaeth ddisgwyliedig ar gyfer yr ardaloedd hynny.
  • Yn yr Alban, gellir cael y wybodaeth hon gan Housing Land Audit.
  • Mapiau cyfredol manwl ar raddfa a fydd yn helpu i ddynodi ffiniau dosbarthiadau etholiadol.
  • Manylion am fannau pleidleisio presennol ac arwydd o'u haddasrwydd cyffredinol at y diben (gan gynnwys, er enghraifft, unrhyw arolygon, diagramau neu ffotograffau a gwblhawyd gyda chymorth Swyddogion Llywyddu neu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio neu fel rhan o adolygiad blaenorol neu werthusiad ar ôl etholiad). 
  • Unrhyw sylwadau neu gwynion ynglŷn â'r trefniadau presennol gan y cyhoedd, aelodau etholedig neu gyrff eraill.
  • Gwybodaeth gyfredol gan reolwyr lleoliadau gorsafoedd pleidleisio presennol a rhai posibl yn y dyfodol ynghylch a fyddant yn parhau i fod ar gael (gan dynnu sylw, er enghraifft, at waith adnewyddu arfaethedig neu gynlluniau eraill yn y dyfodol).
  • Manylion am adeiladau amgen posibl (cyhoeddus, preifat neu strwythurau dros dro) a allai ymddangos yn addas.
  • Cyngor ac arweiniad gan grwpiau anabledd lleol a sefydliadau anabledd (megis, er enghraifft, SCOPE, Mencap neu Capability Scotland), ac unrhyw gymorth arbenigol gan swyddogion yn y cyngor sy'n gyfrifol am gynlluniau cydraddoldeb.
  • Cylchoedd gorchwyl a'r meini prawf ar gyfer asesu addasrwydd y trefniadau presennol/arfaethedig

Hefyd, gellid paratoi'r dogfennau y bydd angen eu cyhoeddi neu eu cyfleu yn ystod yr adolygiad, megis yr hysbysiad o adolygiad a'r llythyrau at y Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) a'r rhai sydd ag arbenigedd ym maes mynediad i bobl anabl. Fodd bynnag, ni ellir cyhoeddi'r hysbysiad nac anfon y llythyrau cyn dechrau cyfnod yr adolygiad gorfodol.

Amserlen 

Gallai awdurdodau lleol hefyd bennu'r amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad. 

Wrth lunio'r amserlen mae'n bwysig ystyried dyddiad mwyaf tebygol cyfarfod y cyngor neu bwyllgor lle y byddai'r cynigion manwl ynglŷn â'r adolygiad yn cael eu hystyried a'u cymeradwyo'n ffurfiol.

Dylai swyddogion yr adolygiad weithio'n agos gyda'r swyddog arweiniol sy'n gyfrifol am y cyfarfodydd hyn er mwyn sicrhau y gellir ystyried dyddiad y cyfarfod a'r terfynau amser cysylltiedig wrth amserlennu'r adolygiad.

Staff / grŵp prosiect / arweinydd prosiect

Wrth gynllunio ar gyfer yr adolygiad, bydd angen hefyd i'r awdurdod lleol nodi pwy fydd yn arwain ac yn cefnogi'r adolygiad, gan ddefnyddio staff nid yn unig o wasanaethau etholiadol, ond hefyd o rannau eraill o'r awdurdod a all feddu ar yr arbenigedd i gynorthwyo. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cynnal adolygiad rhagarweiniol o fannau pleidleisio

Dylai'r awdurdod lleol gynnal adolygiad rhagarweiniol o'r dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio presennol gyda'r nod o gadarnhau eu haddasrwydd, a nodi unrhyw ddewisiadau amgen posibl yn ôl y gofyn. Gellir gwneud hyn cyn dechrau cyfnod penodedig yr adolygiad. 

Nid oes unrhyw ofyniad i newid unrhyw un o'r dosbarthiadau etholiadol na'r mannau pleidleisio os ydynt yn addas, ond rhaid i unrhyw benderfyniad ‘dim newid’ gael ei gyfiawnhau'n llawn fel rhan o'r cynigion cyffredinol.

Dylai proses yr adolygiad fod wedi'i strwythuro, a rhaid ei chynnal yn ffurfiol gyda dogfennaeth ategol. Bydd hyn yn sicrhau bod trywydd archwilio cyflawn ar gyfer pob penderfyniad sy'n cael ei wneud a bydd yn cyfrannu at dryloywder y broses.

Bydd cydgysylltu agos ag adrannau eraill y cyngor, megis cyfathrebu, y rhai sy'n darparu gwasanaethau i drigolion anabl, a chynllunio yn helpu i wneud proses gyffredinol yr adolygiad yn fwy effeithlon.

Gall adrannau cynllunio a gwasanaethau eiddo'r awdurdod lleol, er enghraifft, roi arweiniad ar argaeledd lleoliadau a safleoedd a manylion unrhyw ddatblygiadau preswyl a allai gael effaith ar ffigurau etholwyr yn y dyfodol.

Gellir modelu opsiynau posibl lle y tybir y bydd angen newidiadau drwy ddefnyddio adnoddau mapio a chynllunio sydd ar gael yn yr awdurdod lleol, yn enwedig gan y bydd gwasanaethau mapio GIS sy'n gallu defnyddio data o amrywiol ffynonellau ar gael i'r rhan fwyaf o awdurdodau.

Dylai awdurdodau lleol bennu'r dull mwyaf priodol o gynnwys staff perthnasol yr awdurdod lleol a grwpiau eraill â diddordeb fel y bo'n briodol. 

Asesu'r trefniadau presennol a chynigion ar gyfer newid

Mae'r ddeddfwriaeth yn awgrymu y dylid dechrau gyda dosbarthiadau etholiadol, yna ddewis mannau pleidleisio ac wedyn ystyried gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae'n bwysig bod mannau pleidleisio o ansawdd da yn cael eu nodi'n gyntaf, y gellir wedyn eu defnyddio fel rhan o'r broses o bennu trefniadau addas ar gyfer dosbarthiadau etholiadol sy'n cydymffurfio â'r gofynion a nodwyd yn y ddeddfwriaeth.

Rydym wedi paratoi rhestr wirio i'ch helpu i werthuso'ch mannau pleidleisio a'ch gorsafoedd pleidleisio presennol a'r rhai arfaethedig. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Ystyriaethau ar gyfer adolygiad rhagarweiniol o fannau pleidleisio

Fel rhan o'r adolygiad rhagarweiniol dylid edrych ar ffactorau penodol wrth ystyried addasrwydd y gorsafoedd pleidleisio a'r mannau pleidleisio presennol a nodi rhai newydd o bosibl.

Polling Districts

Dylai'r canlynol gael ei ystyried fel rhan o'r asesiad o addasrwydd ffiniau dosbarthiadau etholiadol:

  • A yw'r ffiniau wedi'u diffinio'n dda? Er enghraifft, a ydynt yn dilyn ffiniau naturiol yr ardal? Os nad ydynt, a yw'n glir pa eiddo sy'n rhan o'r dosbarth etholiadol?
  • A oes cysylltiadau trafnidiaeth addas o fewn y dosbarth etholiadol, a beth yw eu perthynas â'r ardaloedd mwyaf poblog yn y dosbarth etholiadol? 
  • A oes unrhyw rwystrau i bleidleiswyr sy'n croesi'r dosbarth etholiadol presennol i gyrraedd y man pleidleisio e.e., rhiwiau serth, prif ffyrdd, llinellau rheilffyrdd, afonydd?

Mae nifer o ffactorau y bydd angen eu hystyried wrth adolygu'r mannau pleidleisio presennol neu wrth asesu mannau pleidleisio newydd, gan gynnwys:

Ffactor Ystyriaethau 
Lleoliad 

A yw'n weddol hygyrch o fewn y dosbarth etholiadol?

A yw'n osgoi rhwystrau i bleidleiswyr megis rhiwiau serth, prif ffyrdd, afonydd, ac ati?

A oes unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth cyfleus?

Maint 

A oes digon o le i fwy nag un gorsaf bleidleisio os bydd angen?

Os bydd angen nifer o orsafoedd pleidleisio, a oes digon o le yn y man pleidleisio i'r holl bleidleiswyr a'r staff angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth da i bleidleiswyr?

A yw'n ddigon mawr i ddarparu ardaloedd preifat angenrheidiol neu sgriniau preifatrwydd ar gyfer gwiriadau prawf adnabod ffotograffig?

A yw'n ddigon mawr i sicrhau llif pleidleiswyr a lleihau'r risg o dagfa a chiwiau hyd yn oed pan fydd niferoedd mawr yn pleidleisio?

Argaeledd 

A fydd yr adeilad ar gael os bydd unrhyw etholiadau annisgwyl?

A oes unrhyw bosibilrwydd y caiff yr adeilad ei ddymchwel fel rhan o ddatblygiad newydd?

Hygyrchedd 

A yw'r adeilad yn hygyrch i bawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol yn y man pleidleisio?

A oes digon o le yn yr adeilad ar gyfer unrhyw gyfarpar a ddarperir i gynorthwyo pleidleiswyr anabl?

Yn ddelfrydol, byddai dewis o blith nifer o adeiladau cwbl hygyrch, mewn lleoliad cyfleus i etholwyr yn yr ardal y gellid sefydlu gorsafoedd pleidleisio ynddynt. 

Fodd bynnag, yn ymarferol, bydd y dewis o fannau pleidleisio yn aml yn golygu cydbwyso rhwng ansawdd adeilad (mynediad, cyfleusterau, ac ati) ac agosrwydd yr adeilad i'r etholwyr. Wrth wneud penderfyniad, bydd angen ystyried yr holl ffactorau a bydd angen i'r awdurdod allu dangos ei resymau dros y penderfyniad.

Os bydd man pleidleisio nad yw'n gwbl hygyrch wedi cael ei ddewis oherwydd amgylchiadau lleol, yna rhaid gwneud addasiadau rhesymol i roi mynediad i bob etholwr. Fel arall, dylai'r awdurdod lleol ystyried a fyddai'n briodol dynodi man pleidleisio sydd y tu allan i'r dosbarth etholiadol.

Mae rhan o'r broses gwneud penderfyniadau yn golygu asesu a oes digon o le yn y man pleidleisio i fwy nag un orsaf bleidleisio ynghyd â'r staff a'r cyfarpar angenrheidiol, yn enwedig o dan amgylchiadau lle mae nifer mawr o etholwyr wedi cael eu neilltuo i fan pleidleisio. 

Ni ddylai nifer yr etholwyr a neilltuwyd i orsaf bleidleisio benodol fod yn fwy na 2,250.

Mewn achosion lle y gall fod niferoedd uwch o bleidleiswyr, megis mewn etholiad ar gyfer Senedd y DU, efallai y bydd Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) yn dymuno sefydlu nifer o orsafoedd pleidleisio yn y man pleidleisio. Bydd angen ystyried a yw maint a chynllun yr ardal neu'r adeilad yn addas ar gyfer trefniadau o'r fath.

Wrth asesu addasrwydd ystafell neu fan at ddefnydd gorsaf bleidleisio, dylai’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ystyried sut y byddai’r maint a’r diwyg yn caniatáu’r mewnbwn mwyaf effeithiol o bleidleiswyr, gan gymryd i ystyriaeth pa mor hir y byddai’n cymryd i wirio ID ffotograffig pleidleiswyr wrth sicrhau llif y pleidleiswyr a lleihau’r perygl o dagfeydd a chiwiau. Dylid hefyd ystyried yr achosion hynny lle bydd nifer fawr o etholwyr mewn gorsaf bleidleisio ar unrhyw un adeg. 

Dylid cynllunio pob gorsaf bleidleisio i ddarparu amodau addas:

  • i'r etholwr ddangos ei hunaniaeth ffotograffig yn breifat os gofynnir amdano yn ogystal â phleidleisio'n breifat 
  • i staff gynnal etholiadau mewn modd effeithlon ac effeithiol a
  • i'r rhai sydd â hawl i arsylwi ar y broses bleidleisio i wneud hynny heb gyfaddawdu cyfrinachedd y bleidlais 
     

Dylid nodi, at ddiben cynnal y bleidlais yng Nghymru a Lloegr, fod gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yr hawl i ddefnyddio ysgolion a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod lleol am ddim, yn ogystal â'r ysgolion hynny sy'n cael grantiau o arian a ddarperir gan Senedd y DU. 

Mae hyn yn cynnwys academïau ac ysgolion rhydd.

Yn yr Alban, mae'r ystafelloedd mewn ysgolion y gellir eu defnyddio am ddim i gynnal y bleidlais yn rhai mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion annibynnol o fewn ystyr Deddf Addysg (Yr Alban) 1980.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Proses yr adolygiad o fannau pleidleisio

Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

  • cyhoeddi hysbysiad o gynnal adolygiad
  • ymgynghori â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer pob etholaeth seneddol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ei ardal 
  • cyhoeddi'r holl sylwadau a wnaed gan Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o fewn 30 diwrnod i'w derbyn drwy gyhoeddi copi ohonynt yn swyddfa'r awdurdod lleol ac mewn o leiaf un man amlwg yn ei ardal a thrwy osod copi ar wefan yr awdurdod. 
  • ceisio sylwadau gan y rhai hynny y credant eu bod yn meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl â gwahanol fathau o anabledd. Rhaid i unigolion o'r fath gael cyfle i gyflwyno sylwadau ac ymateb i sylwadau y Swyddog(ion) Canlyniadau (Gweithredol).

Ar ôl cwblhau adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi rhesymau dros ei benderfyniadau a cyhoeddi:

  • yr holl ohebiaeth a anfonir at Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) mewn cysylltiad â'r adolygiad
  • yr holl ohebiaeth a anfonwyd at unrhyw un y cred yr awdurdod ei fod yn meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safleoedd neu gyfleusterau i bobl sydd â gwahanol fathau o anabledd
  • yr holl sylwadau a wnaed gan unrhyw un mewn cysylltiad â'r adolygiad
  • cofnodion unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd gan y cyngor i ystyried unrhyw ddiwygiad i ddynodiad dosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio yn ei ardal o ganlyniad i'r adolygiad
  • manylion dynodiad dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio o fewn ardal awdurdod lleol o ganlyniad i'r adolygiad
  • manylion am y mannau lle mae canlyniadau'r adolygiad wedi cael eu cyhoeddi 
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cam 1 – Hysbysiad o'r adolygiad

Er mwyn dechrau'r adolygiad yn ffurfiol rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o gynnal adolygiad.  

Rhaid i'r hysbysiad:

  • gael ei arddangos yn swyddfa'r awdurdod lleol ac mewn o leiaf un man amlwg o fewn yr awdurdod
  • cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol

Hefyd, gallai'r awdurdod arddangos copïau mewn adeiladau cyhoeddus eraill ac, yn benodol, yn yr adeiladau hynny a ddefnyddir yn rheolaidd gan drigolion anabl. Dylai swyddog anabledd yr awdurdod fod mewn sefyllfa i roi arweiniad ar y mannau mwyaf addas i gyrraedd trigolion anabl.

Cynnwys yr hysbysiad 

Nid yw cynnwys yr hysbysiad wedi'i ragnodi, ond dylai nodi:

  • bod yr awdurdod lleol yn cynnal adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio
  • y bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwneud sylwadau ar orsafoedd pleidleisio arfaethedig, ac arwydd o bryd a ble y bydd sylwadau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gael
  • y gall etholwyr sydd o fewn yr awdurdod neu o fewn etholaeth Seneddol y DU sy'n rhan o'r awdurdod wneud sylwadau
  • y byddai'r awdurdod yn croesawu barn yr holl drigolion, yn enwedig trigolion anabl, ar gynigion yr awdurdod, sylwadau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu unrhyw faterion eraill
  • y byddai'r awdurdod yn croesawu sylwadau gan unrhyw berson neu gorff ag arbenigedd ar fynediad i bobl ag unrhyw fath o anabledd ar gynigion yr awdurdod, sylwadau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu unrhyw faterion eraill
  • y dylai'r personau neu'r cyrff sy'n gwneud sylwadau, os oes modd, gynnig mannau amgen y gellir eu defnyddio fel mannau pleidleisio
  • y cyfeiriad post, y cyfeiriad e-bost a chyfeiriad y wefan ar gyfer archwilio dogfennau a gwneud sylwadau
  • arwydd o amserlen yr adolygiad a therfyn amser ar gyfer sylwadau

Dylai'r awdurdod hefyd anfon copi o'r hysbysiad at bartïon â diddordeb megis cynrychiolwyr etholedig, pleidiau gwleidyddol, grwpiau anabledd a rhanddeiliaid eraill. 

Hefyd, gallai'r awdurdod gyhoeddi datganiad i'r wasg a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at yr adolygiad a'r broses.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cam 2 – Ymgynghori ar yr adolygiad

Bwriedir i'r cam ymgynghori roi cyfle i wneud sylwadau ar y trefniadau presennol ac arfaethedig ar gyfer dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. Mae dwy agwedd ar y cam hwn:

  • Cyflwyniad gorfodol gan Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) y DU Etholaeth neu etholaethau Seneddol, y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cyhoeddi
  • Sylwadau a gyflwynir gan etholwyr a phersonau a chyrff eraill â diddordeb, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig a'r rhai ag arbenigedd mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl anabl

Y cyflwyniad gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) 

Rhaid i gyflwyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol):

  • gynnwys sylwadau ar y gorsafoedd pleidleisio presennol a'r gorsafoedd pleidleisio a fyddai'n debygol o gael eu defnyddio yn seiliedig ar unrhyw fannau pleidleisio arfaethedig
  • cynnwys gwybodaeth am leoliad gorsafoedd pleidleisio o fewn mannau pleidleisio

Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi sylwadau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o fewn 30 diwrnod calendr i'w derbyn. Dylai'r sylwadau gael eu cyhoeddi yn swyddfeydd yr awdurdod lleol ac mewn o leiaf un man amlwg ym mhob un o etholaethau Seneddol y DU sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr awdurdod lleol.

Gellid copïo ymateb y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a sicrhau ei fod ar gael i drigolion ei weld. Dylid hefyd ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol. 

Y sylwadau a gyflwynir gan yr ymgyngoreion

Dylai'r awdurdod ymgynghori'n gyffredinol ar yr adolygiad a dylai geisio barn grwpiau neu gyrff â diddordeb, gan gynnwys:

  • etholwyr
  • ymgeiswyr ac asiantiaid
  • pleidiau gwleidyddol
  • aelodau o'r cyngor 
  • cynrychiolwyr etholedig eraill 

Bydd yn arbennig o bwysig ymgynghori â'r rhai sydd wedi cael profiad penodol o asesu mynediad i bobl ag anableddau gwahanol. Gallai'r rhain gynnwys:

  • adrannau anabledd 
  • adrannau iechyd galwedigaethol yn y cyngor
  • grwpiau anabledd lleol a chenedlaethol

Dylai'r awdurdod ystyried y gwahanol fathau o anabledd a all wneud y broses pleidleisio'n bersonol yn fwy anodd, a dylai hefyd ystyried polisi'r cyngor ei hun ar fynediad i bobl anabl. Dylid gofyn i ymgyngoreion wneud sylwadau yn gyffredinol ac, os yw'n briodol, sylwadau am adeiladau neu ardaloedd penodol o fewn yr awdurdod.

Mae gan unrhyw un sy'n ymwneud â'r ymgynghoriad yr hawl i wneud sylwadau ar yr argymhellion a gynigir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).

Gall unrhyw etholwr yn un o etholaethau Seneddol y DU sydd naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr awdurdod lleol wneud sylwadau ar unrhyw un o'r argymhellion o fewn ardal gyfan yr awdurdod lleol.

Dylid gofyn i unrhyw berson neu gorff sy'n gwneud sylwadau awgrymu dosbarthiadau etholiadol/mannau pleidleisio amgen a dylid ei annog i roi rheswm dros y cynnig amgen fel y gellir ei ystyried yn briodol. 

Dylai'r hysbysiad a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol gynnwys terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cam 3 – Cwblhau'r adolygiad

Ar ôl ystyried yr holl sylwadau, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu ar y dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio mwyaf priodol, y mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y cyngor. 

Os bydd yr adolygiad yn arwain at newid un neu fwy o ddosbarthiadau etholiadol, rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol wneud y newidiadau angenrheidiol i'r gofrestr etholiadol. Yn dibynnu ar amseriad yr adolygiad a maint y newidiadau, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol dri opsiwn i sicrhau bod y gofrestr yn adlewyrchu'r dosbarthiadau etholiadol newydd:

  • diweddaru'r gofrestr ar adeg cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig ar ôl i'r canfasiad blynyddol ddod i ben 
  • ailgyhoeddi cofrestr ddiwygiedig ar adeg arall o'r flwyddyn
  • cyhoeddi hysbysiad newid

Pan fo'r Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi penderfynu diwygio ei gofrestr drwy ei hailgyhoeddi i ymgorffori'r newidiadau, o dan y gyfraith, mae'n rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad 14 diwrnod calendr cyn cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr mewn papur newydd lleol, yn ei swyddfa ac mewn rhyw fan neu fannau amlwg eraill yn yr ardal. 

O dan y ddeddfwriaeth ni chaniateir cyhoeddi rhan o'r gofrestr – dim ond ar gyfer ardal gyfan awdurdod lleol y gellir cyhoeddi cofrestr ddiwygiedig. 

Bydd unrhyw newid yn weithredol ar y dyddiad y mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cyhoeddi hysbysiad sy'n nodi bod y newidiadau wedi cael eu gwneud, a ddylai gael ei gyhoeddi ar yr un pryd ag y caiff y gofrestr ei diwygio neu y caiff hysbysiad newid ei gyhoeddi, fel y bo'n briodol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Cam 4 – Cyhoeddi casgliadau'r adolygiad

Unwaith y bydd y cyngor wedi cytuno ar y cynigion, rhaid i fanylion y dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio newydd fod ar gael i'r cyhoedd.

Dylai'r rhain fod ar gael yn swyddfeydd yr awdurdod lleol, mewn o leiaf un man amlwg yn yr etholaeth (neu etholaethau), ac ar wefan yr awdurdod lleol. Rhaid rhoi'r rhesymau dros ddewis pob dosbarth etholiadol a man pleidleisio penodol.
 
Ynghyd â'r rhesymau dros benderfyniad terfynol yr adolygiad, rhaid cyhoeddi'r canlynol hefyd: 

  • yr holl ohebiaeth a anfonir at y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) mewn cysylltiad â'r adolygiad
  • yr holl ohebiaeth a anfonwyd at unrhyw un y mae'r awdurdod wedi cysylltu ag ef/hi am fod ganddo/ganddi arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl anabl
  • yr holl sylwadau a wnaed gan unrhyw un mewn cysylltiad â'r adolygiad
  • cofnodion unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd gan y cyngor i ystyried unrhyw ddiwygiad i ddynodiad dosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio yn ei ardal o ganlyniad i'r adolygiad
  • manylion am ddynodi dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio yn ei ardal o ganlyniad i'r adolygiad
  • manylion am y mannau lle mae canlyniadau'r adolygiad wedi cael eu cyhoeddi

Mae'n bwysig bod etholwyr yn ymwybodol o unrhyw newidiadau a wnaed i'r man y mae'n rhaid iddynt fynd iddo er mwyn pleidleisio. Er enghraifft, gallai'r cerdyn pleidleisio ar gyfer yr etholiad nesaf y mae ganddynt hawl i bleidleisio ynddo nodi a yw eu gorsaf bleidleisio wedi newid. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Gweithredu'r adolygiad cyn bod y ffiniau newydd yn dod i rym

Lle cynhelir yr adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol/mannau pleidleisio cyn i'r ffiniau etholiadol newydd ddod i rym, bydd angen iddo adlewyrchu'r ffiniau etholiadol presennol a hefyd y ffiniau newydd a ddaw i rym yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU.

Er mwyn osgoi gorfod adolygu'r dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio unwaith y bydd y ffiniau newydd yn gyfan gwbl mewn grym, gellid gwneud unrhyw rannau o'r ardaloedd etholiadol presennol a gaiff eu rhannu pan ddaw'r ffiniau newydd i rym yn ddosbarthiadau etholiadol ar wahân fel rhan o'r adolygiad.

Hefyd, nes bod y ffiniau newydd yn gyfan gwbl mewn grym, bydd angen llunio'r gofrestr etholiadol mewn ffordd a all adlewyrchu'r ffiniau presennol a'r ffiniau newydd. Unwaith eto, gellir cyflawni hyn drwy wneud unrhyw rannau o'r ardaloedd etholiadol presennol a gaiff eu rhannu pan ddaw'r ffiniau newydd i rym yn ddosbarthiadau etholiadol ar wahân. Bydd eich cyflenwr meddalwedd EMS yn gallu cynghori sut y gellir gweithredu hyn yn ymarferol.

Am yr un rhesymau, lle na fydd ardaloedd etholiadol yn rhannu'r un ffiniau mwyach, o ganlyniad i adolygiad o un set o ffiniau etholiadol, gellid gwneud yr ardaloedd hynny nad ydynt yn rhannu'r un ffiniau mwyach hefyd yn ddosbarthiadau etholiadol ar wahân.

Mae'r enghraifft isod yn nodi sut y gellid rhannu cofrestrau, er mwyn sicrhau y gellir cynhyrchu cofrestrau ar y strwythurau presennol a rhai newydd. 

Enghraifft

Mae gan Gyngor Dinas Unrhywfaes 20 o wardiau wedi'u rhannu rhwng dwy etholaeth Seneddol, Unrhywfaes a Trenewydd. Mae'r holl ddosbarthiadau etholiadol wedi'u rhifo yn ôl etholaeth (A neu N) yna rhif ward (1-20) [rhifau a ddefnyddir at ddibenion eglurhaol ar gyfer yr enghraifft hon yn unig].

Roedd ffiniau wardiau Cyngor Dinas Unrhywfaes yn cyfateb i hen ffiniau etholaethau Seneddol y DU, gyda wardiau 1-10 yn etholaeth Unrhywfaes ac 11-20 yn etholaeth Trefnewydd. Fodd bynnag, o dan ffiniau newydd yr etholaeth, mae ward 11 wedi'i rhannu rhwng y ddwy etholaeth.

Felly, adolygwyd y pedwar dosbarth etholiadol (N11A-N11D) yn ward 11 er mwyn gwahanu'r strydoedd yn etholaeth Anyfield, gan greu dosbarth etholiadol newydd, A11E:

  • N11A
  • N11B
  • N11C
  • N11D
  • A11E

Er mai dim ond ychydig o strydoedd sydd gan dosbarthiadau etholiadol fel A11E, bydd creu dosbarth etholiadol ar wahân yn sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn adlewyrchu'r ffiniau newydd.

Os oes angen, gallwch gynhyrchu cofrestrau ar hen ffiniau Seneddol y DU neu rai newydd rhag ofn y bydd ceisiadau gan ddarpar ymgeiswyr/pleidiau yn seiliedig ar y dosbarthiadau etholiadol gofynnol ar gyfer yr etholaeth.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Proses apelio'r adolygiad o fannau cyhoeddus 

Ar ôl i adolygiad yr awdurdod lleol ddod i ben, mae gan rai personau yr hawl i gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Etholiadol. Os byddwn yn gweld, ar ôl cael sylwadau o'r fath, nad oedd adolygiad yr awdurdod lleol:

  • wedi bodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth, neu gorff ohonynt, neu
  • wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd gorsaf bleidleisio/gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl o fewn man pleidleisio dynodedig 

Gallwn gyfarwyddo'r awdurdod i wneud unrhyw newidiadau i'r mannau pleidleisio ag sy'n angenrheidiol yn ein barn ni ac, os na wneir y newidiadau o fewn deufis, gallwn wneud y newidiadau ein hunain.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Pwy sy'n gymwys i apelio?

Gallwn ond ystyried apêl a wneir gan berson yr ydym yn fodlon ei fod yn gymwys i apelio.1 Nodir y personau cymwys a'r dystiolaeth y gallwn gofyn amdani er mwyn bodloni ein hunain eu bod yn gymwys, yn y tabl isod.

Personau cymwys Tystiolaeth

Awdurdod â diddordeb.

Yn Lloegr, ‘awdurdod â diddordeb’ yw cyngor plwyf, neu lle nad oes cyngor o'r fath, gyfarfod plwyf mewn plwyf, sydd wedi'i leoli'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn yr etholaeth. 

Yng Nghymru, ‘awdurdod â diddordeb’ yw cyngor cymuned sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn yr etholaeth.

Cofnodion cyngor y plwyf neu'r cyngor cymuned (neu, os yw'n gymwys, gyfarfod y plwyf) yn dangos bod y cyngor (neu, os yw'n gymwys, gyfarfod y plwyf) yn dymuno cyflwyno'r apêl. 

Dylai'r apêl ei hun gael ei hamlinellu mewn llythyr gan glerc y cyngor.
 

 

O leiaf 30 o etholwyr yn etholaeth Seneddol y DU, lle mae'r dosbarth etholiadol a / neu'r man pleidleisio sy'n destun yr apêl wedi’i leoli

Enw, cyfeiriad a llofnod pob etholwr, ynghyd â datganiad sy'n cadarnhau:

  • ei fod yn etholwr cofrestredig yn y dosbarth etholiadol a / neu'r man pleidleisio sy'n destun yr apêl, a 
  • bod yr apêl yn cael ei hanfon ar ei ran. 

Os bydd y llofnodion yn mynd dros fwy nag un dudalen, rhaid ei bod yn glir ar bob tudalen bod yr etholwyr yn cadarnhau eu bod yn etholwyr cofrestredig yn yr etholaeth berthnasol a bod yr apêl yn cael ei hanfon ar eu rhan.
 

Person (heblaw'r Swyddog Canlyniadau) sydd wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod / Prif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon (CEONI) yn ystod yr adolygiad o dan Atodlen A1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Copi o'r sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd i'r awdurdod / CEONI yn ystod yr adolygiad. Er enghraifft, llythyr neu e-bost sy'n cynnwys sylwadau.

Os cyflwynwyd y sylwadau ar lafar, bydd y Comisiwn yn cysylltu â'r awdurdod / CEONI i gael cadarnhad.

Person nad yw'n etholwr mewn etholaeth yn ardal yr awdurdod lleol (mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae hyn yn golygu ardal gyfan Gogledd Iwerddon) ond sydd â diddordeb digonol yn hygyrchedd mannau pleidleisio i bobl anabl yn yr ardal neu sy'n meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safleoedd neu gyfleusterau i bobl anabl ym marn y Comisiwn. Gwybodaeth gan yr apelydd yn esbonio pam mae ganddo/ganddi ddiddordeb neu arbenigedd mewn mynediad i bobl anabl. Mae enghreifftiau o'r rhai a all ddod o dan y categori hwn yn cynnwys elusennau sy'n cynrychioli buddiannau pobl anabl ac unigolion sy'n anabl. 

Gall apêl ond ymwneud ag un dosbarth etholiadol a/neu fan pleidleisio. Gellir cyflwyno apeliadau mewn perthynas â mwy nag un dosbarth etholiadol a/neu fan pleidleisio ond bydd pob un yn gyfystyr ag apêl ar wahân. Mae hyn yn golygu y bydd angen i bob apêl gael ei chyflwyno gan berson(au) cymwys, er enghraifft o leiaf 30 o etholwyr ar gyfer pob apêl (ond gall yr un pobl gyflwyno apeliadau ar wahân). 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Seiliau apelio

Gellir dim ond cyflwyno apêl ar y sail na chynhaliwyd adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio Seneddol y DU i 1 :

  • fodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth neu unrhyw gorff o'r etholwyr hynny, neu
  • rhoi ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl mewn man pleidleisio dynodedig.

Gellir cyflwyno apêl ar y naill sail uchod neu'r llall neu'r ddwy sail uchod. 

Mae'r seiliau hyn yn cynnwys y ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad, h.y. proses yr adolygiad, a chanlyniad yr adolygiad, h.y. y dosbarth etholiadol a/neu'r man pleidleisio a ddynodwyd. 

Er enghraifft, mae'n bosibl na chynhaliwyd adolygiad mewn ffordd a oedd yn bodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth mewn perthynas â'r naill gam gweithdrefnol neu'r llall neu'r ddau gam gweithdrefnol a gymerwyd gan yr awdurdod / CEONI yn ystod yr adolygiad neu benderfyniad yr awdurdod / CEONI ar ddiwedd y broses i ddynodi dosbarth etholiadol neu fan pleidleisio.

Dim ond mewn perthynas ag adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio Seneddol y DU a gwblhawyd y gellir cyflwyno apêl. Ni ellir cyflwyno apêl, er enghraifft:

  • os nad yw'r adolygiad wedi cael ei gwblhau – dim ond ar ôl i'r awdurdod / CEONI wneud penderfyniad ar ddiwedd yr adolygiad i ddynodi dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio y gellir cyflwyno apêl. 
  • os yw'r awdurdod / CEONI wedi methu â chynnal adolygiad, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth2 , a phan fo'r apelydd yn ceisio herio'r methiant hwnnw. Dylai unrhyw un sy'n ceisio herio unrhyw fethiant o'r fath geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. Mae methiant i gynnal adolygiad yn cynnwys methiant i gyhoeddi hysbysiad o adolygiad neu fethiant i wneud penderfyniad ynglŷn â dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio newydd.
  • os oes un o ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio Seneddol y DU wedi cael ei newid y tu allan i adolygiad – dylai unrhyw un sy'n ceisio herio unrhyw newid o'r fath geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun.

Nid oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas â phenderfyniad Swyddog Canlyniadau ynglŷn â lleoliad gorsafoedd pleidleisio mewn unrhyw etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Gwneud apêl 

Dylai apêl, o leiaf, gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Enw'r dosbarth etholiadol a / neu'r man pleidleisio sy'n destun yr apêl, ac ym Mhrydain Fawr enw'r awdurdod lleol a gynhaliodd yr adolygiad.
  • Os oes modd, dyddiad yr adolygiad, gan gynnwys dyddiad yr hysbysiad o gynnal yr adolygiad a dyddiad y penderfyniad.
  • Datganiad ynghylch pa un o'r pedwar categori uchod o berson cymwys sy'n gymwys i'r apelydd, ynghyd â'r dystiolaeth berthnasol.
  • Manylion llawn y seiliau dros apelio, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth y dibynnir arni.
  • Manylion cyswllt yr apelydd fel y gall y Comisiwn hysbysu'r apelydd am ei benderfyniad ac hefyd rhag ofyn y bydd gan y Comisiwn unrhyw ymholiadau. Yn achos apêl a gyflwynwyd gan o leiaf 30 o etholwyr yn yr etholaeth, dylai'r apêl nodi'r person sy'n gweithredu ar ran yr etholwyr y dylid cyfeirio gohebiaeth ato/ati.

Sut i gyflwyno apêl 

Gellir cyflwyno apêl i'r Comisiwn drwy'r post yn y cyfeiriad canlynol: 

Legal Team
Electoral Commission
3 Bunhill Row
Llundain EC1Y 8YZ. 

Gellir hefyd anfon apeliadau i'r cyfeiriad e-bost [email protected]

Os oes modd, dylai apêl gael ei chyflwyno'n ysgrifenedig. Os bydd hyn yn achosi unrhyw anawsterau ffoniwch ni ar 0333 103 1928 i drafod y mater. 

Ar ôl i apêl ddod i law, bydd y Comisiwn yn asesu a yw'r apêl yn ddilys ac yn cydnabod ei fod wedi dod i law. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Terfynau amser ar gyfer cyflwyno apêl 

Nid oes unrhyw derfyn amser ar gyfer cyflwyno apêl i adolygiad o fannau pleidleisio. 

Gellir ei chyflwyno ar unrhyw adeg ar ôl i adolygiad gael ei gwblhau. Fodd bynnag, ni fydd y Comisiwn (ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol) yn gwneud unrhyw benderfyniad ar apêl sy'n effeithio ar etholiad rhwng hysbysiad cyhoeddi'r etholiad hwnnw a'r diwrnod pleidleisio.  

Dylid hefyd nodi bod yr amser a gymer i gwblhau adolygiad yn amrywio, ond gall gymryd sawl mis, felly nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cyflwyno apêl ar unrhyw adeg cyn hyn yn arwain at benderfyniad sy'n effeithio ar etholiad arfaethedig.  

Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi manylion apeliadau blaenorol a phenderfyniadau'r Comisiwn, ar ein gwefan. Mae hefyd yn cyhoeddi dogfennau'r apêl.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Proses ystyried apêl gan y Comisiwn

Er mwyn penderfynu ar apêl, bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl bwyntiau a godwyd gan yr apelydd sy'n dod o dan y seiliau dros apelio.1  

Bydd y Comisiwn yn ysgrifennu at yr awdurdod / CEONI i ofyn am y wybodaeth sy'n ymwneud â'r adolygiad sy'n destun yr apêl ac am ei ymateb i'r apêl. 

Bydd y Comisiwn hefyd yn gofyn i'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholaeth Seneddol berthnasol y DU gyflwyno ei sylwadau ar yr apêl.

Bydd y Comisiwn yn ceisio gwybodaeth arall ac yn ymgynghori ag eraill yn ôl yr angen ar sail achos unigol. Er enghraifft, gall y Comisiwn:

  • anfon aelod o'i staff i ymweld â'r dosbarth etholiadol a'r man pleidleisio i ystyried y materion a godwyd yn yr apêl ar lawr gwlad
  • os yw materion sy'n ymwneud â mynediad i bobl anabl wedi cael eu codi yn yr apêl, cyfarwyddo arbenigwr ar fynediad i bobl anabl i ymweld â'r man pleidleisio a / neu roi cyngor
  • gwahodd mewnbwn gan grwpiau rhanddeiliaid perthnasol
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Y materion y bydd y Comisiwn yn eu hystyried wrth ystyried apêl

Bydd y Comisiwn yn seilio ei broses gwneud penderfyniad ar nifer o ffactorau wrth ystyried apêl. 

Y prif ffactorau yw:

  • a yw'r man pleidleisio yn bodloni gofynion rhesymol etholwyr
  • a yw anghenion hygyrchedd a mynediad i bobl anabl wedi cael eu hystyried 

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystyriaethau hyn i'w gweld ar y tudalennau gwe canlynol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Gofynion rhesymol man pleidleisio

Bydd apeliadau yn aml yn codi materion ynghylch a yw'r man pleidleisio a ddynodwyd yn bodloni 'gofynion rhesymol' etholwyr yn yr etholaeth, neu grŵp penodol o'r etholwyr hynny, er enghraifft etholwyr sy'n byw mewn rhan benodol o'r etholaeth. Wrth benderfynu a yw 'gofynion rhesymol' etholwyr wedi cael eu bodloni wrth ddynodi man pleidleisio, ni fydd y Comisiwn yn ceisio nodi'r man pleidleisio gorau yn y dosbarth etholiadol.

Yn hytrach, bydd y Comisiwn yn ystyried a yw'r man pleidleisio dynodedig yn bodloni gofynion rhesymol etholwyr mewn perthynas â materion a godwyd yn yr apêl, er enghraifft:

  • lleoliad y man pleidleisio 
  • maint y man pleidleisio 
  • argaeledd y man pleidleisio
  • hygyrchedd y man pleidleisio 

Bydd gofynion rhesymol etholwyr yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, er enghraifft efallai y byddant yn wahanol mewn dosbarth etholiadol trefol yn bennaf, o'i gymharu â dosbarth etholiadol sy'n wledig yn bennaf.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Mynediad pobl anabl i fan pleidleisio


Mae'n bosibl y bydd apeliadau sy'n codi materion ynglŷn â mynediad i bobl anabl yn gwneud pwyntiau sy'n ymwneud â phroses yr adolygiad, er enghraifft a oedd ymgynghori digonol ac ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd yn ystod yr adolygiad, a hefyd bwyntiau ynglŷn â chanlyniad yr adolygiad, er enghraifft a yw'r man pleidleisio dynodedig yn ddigon hygyrch. Bydd y Comisiwn yn ystyried sut yr aed i'r afael â'r ddau fath hyn o faterion yn yr adolygiad o fannau pleidleisio.

O ran proses yr adolygiad, byddai'r Comisiwn yn disgwyl bod yr awdurdod / CEONI wedi cymryd y camau a nodwyd yn ei ganllawiau ar gynnal adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. 

Rydym wedi paratoi rhestr wirio hygyrchedd sy'n nodi pwyntiau allweddol y byddem yn disgwyl iddynt gael eu hystyried wrth asesu addasrwydd pob man pleidleisio a phob gorsaf bleidleisio.  

Yn ogystal ag ysgrifennu at y grwpiau neu'r unigolion hynny y mae'r awdurdod lleol wedi nodi bod ganddynt arbenigedd ym maes hygyrchedd, dylai'r awdurdod hefyd fod wedi ymgysylltu ag unrhyw grŵp mynediad i bobl anabl a/neu swyddog anabledd mewnol fel rhan o'r adolygiad. Os nad oes unrhyw grŵp na swyddog o'r fath ar gael, dylid bod wedi defnyddio arbenigwr allanol ar anabledd.

O ran canlyniad yr adolygiad, byddai'r Comisiwn yn disgwyl bod y man pleidleisio a ddynodwyd yn hygyrch i etholwyr sy'n anabl, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ac yn ymarferol, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.1 Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, gan gynnwys, er enghraifft, argaeledd adeiladau yn yr ardal y gellid eu defnyddio fel man pleidleisio. Os bydd man pleidleisio wedi cael ei ddewis nad yw'n gwbl hygyrch, yna rhaid gwneud addasiadau rhesymol i roi mynediad i bob etholwr. 

Fel arall, mae gan yr awdurdod / CEONI y pŵer i ystyried fel rhan o'r adolygiad a fyddai'n briodol dynodi man pleidleisio sydd y tu allan i'r dosbarth etholiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Sylwedd yr apêl


Bydd y Comisiwn yn ystyried unrhyw bwyntiau a wnaed gan yr apelydd/apelwyr sy'n dod o dan y ddwy sail bosibl dros gyflwyno apêl yn seiliedig ar yr amgylchiadau fel yr oeddent yn bodoli yn ystod yr adolygiad, nid ar adeg yr apêl, a hynny 

am nad oes unrhyw newid mewn amgylchiadau ers yr adolygiad yn berthnasol i'n penderfyniad ynghylch a fodlonodd yr adolygiad y gofynion rhesymol a /neu a roddodd ystyriaeth ddigonol i fynediad i bobl anabl. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau wrth benderfynu a oes angen cyfarwyddo newid i fannau pleidleisio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Pryd y bydd y Comisiwn yn gwneud penderfyniad?

Bydd y Comisiwn yn gwneud penderfyniad cyn gynted â phosibl. Bydd faint o amser a gymerir i wneud penderfyniad yn amrywio ym mhob achos.

Er enghraifft, bydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • a oes unrhyw oedi cyn cael gwybodaeth gan drydydd partïon
  • cymhlethdod a nfer y materion a godwyd yn yr apêl
  • nifer yr apeliadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn ystod yr un cyfnod

Yn dibynnu ar ba bryd y daw'r apêl i law a pha faterion y mae'n eu codi, efallai na fydd yn bosibl i'r Comisiwn gyhoeddi penderfyniad mewn pryd i'r awdurdod ei weithredu mewn etholiad arfaethedig.

Caiff penderfyniad ei apêl ei amlinellu mewn llythyr wedi'i gyfeirio at yr apelydd, yr awdurdod a'r Swyddog Canlyniadau. Bydd y llythyr yn cynnwys y manylion canlynol:

  • Crynodeb o'r penderfyniad
  • Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol
  • Yr adolygiad
  • Yr apêl
  • Penderfyniad
  • Cyfarwyddyd/Cyfarwyddiadau (os oes rhai)

Bydd yr adran ‘penderfyniad’ yn nodi casgliad y Comisiwn ynghylch a gynhaliodd yr awdurdod yr adolygiad mewn ffordd:

  • a oedd yn bodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth neu unrhyw gorff o'r etholwyr hynny, neu
  • a oedd yn rhoi ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl mewn man pleidleisio dynodedig.
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Beth fydd yn digwydd pan fydd apêl yn llwyddiannus?

Cyfarwyddo newidiadau

Caiff y Comisiwn gyfarwyddo'r awdurdod / CEONI i wneud unrhyw newidiadau i'r mannau pleidleisio a ddynodwyd gan yr adolygiad sy'n angenrheidiol ym marn y Comisiwn o dan yr amgylchiadau.1  

Os bydd yr awdurdod yn methu â gwneud y newidiadau hynny cyn diwedd y ddau fis yn dechrau ar y diwrnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd, mae'r ddeddfwriaeth yn darparu y caiff y Comisiwn wneud y newidiadau ei hun.2

Nid oes gan y Comisiwn y pŵer i gyfarwyddo newidiadau i'r dosbarthiadau etholiadol dynodedig. Nid oes gan y Comisiwn unrhyw bŵer ychwaith i gyfarwyddo'r awdurdod / CEONI i gynnal adolygiad arall. Fodd bynnag, os bydd y Comisiwn o'r farn ei bod yn briodol bydd yn argymell bod yr awdurdod yn gwneud newid i'w ddosbarthiadau etholiadol neu'n argymell bod yr awdurdod / CEONI yn cynnal adolygiad arall.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023

Apeliadau presennol

Nid oes unrhyw apeliadau ar hyn o bryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Chwefror 2024

Penderfyniadau apeliadau blaenorol

AwdurdodDyddiad y penderfyniadDogfennau’r penderfyniad
Cyngor Gorllewin Suffolk16 Tachwedd 2023Ein penderfyniad yn yr apêl yn erbyn cau'r man pleidleisio yn Westley
Cyngor Dosbarth Dyffrynnoedd Swydd Derby (Derbyshire Dales District Council)29 Mawrth 2021Ein llythyr penderfyniad i Gyngor Dosbarth Dyffrynnoedd Swydd Derby
Cyngor Dosbarth De Norfolk (South Norfolk District Council)7 Awst 2020Ein llythyr penderfyniad i Gyngor Plwyf Saxlingham Nethergate (Saxlingham Nethergate Parish Council)
Cyngor Bwrdeistref Elmbridge (Elmbridge Borough Council)22 Mehefin 2016Ein llythyr penderfyniad i Gyngor Bwrdeistref Elmbridge
Cyngor Bwrdeistref Woking (Woking Borough Council)16 Tachwedd 2016


Ein llythyr penderfyniad i Gyngor Bwrdeistref Woking (1 o 2)

Ein llythyr penderfyniad i Gyngor Bwrdeistref Woking (2 o 2)

Crynodeb o apêl (1 o 2)

Crynodeb o apêl (2 o 2)

Mae nifer o’n hapeliadau wedi’u harchifo. Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Chwefror 2024

Newid mannau pleidleisio y tu allan i gyfnod yr adolygiad gorfodol 

Os nad yw gorsaf bleidleisio ar gael mwyach, dylai'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ystyried a ellid dynodi gorsaf bleidleisio arall o fewn y man pleidleisio. Ni fyddai angen adolygiad er mwyn newid yr orsaf bleidleisio o fewn y man pleidleisio.

Os nad yw adeilad ar gael mwyach cyn etholiad, gall yr awdurdod lleol newid y man pleidleisio yn unol â'i drefniadau gwneud penderfyniadau. Os oes gweithdrefnau dirprwyo ar waith, er enghraifft i un o bwyllgorau'r cyngor, dylid dilyn y rhain fel y'i nodwyd yng nghyfansoddiad y cyngor a dylid cysylltu â'r person neu'r personau sydd â hawl i wneud newidiadau i fannau pleidleisio.

Rhwng adolygiadau gorfodol, dylid parhau i ystyried mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio, a dylid cynnal gwerthusiad o'u haddasrwydd ar ôl pob etholiad. Os nodir unrhyw newidiadau a fyddai'n ddymunol, dylid dilyn yr un camau ag sy'n cael eu dilyn wrth gynnal yr adolygiad gorfodol. 

Gall yr awdurdod lleol gynnal adolygiad interim a newid rhai o'i ddosbarthiadau etholiadol a'i fannau pleidleisio cyn diwedd y cylch o 5 mlynedd, ond dylid cynnal yr un prosesau ar gyfer yr ardaloedd dan sylw ag y dylid eu cynnal ar gyfer yr adolygiad gorfodol. Os na fydd yr awdurdod lleol yn mynd trwy'r prosesau hyn, bydd yn cael anhawster i ddangos tystiolaeth o'i broses gwneud penderfyniad ac esbonio sut yr ystyriodd farn pobl anabl a gofynion rhesymol etholwyr.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023