Ar ôl i adolygiad yr awdurdod lleol ddod i ben, mae gan rai personau yr hawl i gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Etholiadol. Os byddwn yn gweld, ar ôl cael sylwadau o'r fath, nad oedd adolygiad yr awdurdod lleol:
wedi bodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth, neu gorff ohonynt, neu
wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd gorsaf bleidleisio/gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl o fewn man pleidleisio dynodedig
Gallwn gyfarwyddo'r awdurdod i wneud unrhyw newidiadau i'r mannau pleidleisio ag sy'n angenrheidiol yn ein barn ni ac, os na wneir y newidiadau o fewn deufis, gallwn wneud y newidiadau ein hunain.