Adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio
Gofynion hygyrchedd adolygiad o fannau pleidleisio
Dylai pob person allu pleidleisio heb wynebu rhwystrau. Drwy nodi a deall y rhwystrau ffisegol a seicolegol y gall pobl anabl eu hwynebu, yn ogystal â rhwystrau o ran gwybodaeth, bydd Swyddogion Canlyniadau mewn sefyllfa well i wneud trefniadau priodol i’w helpu.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Deall y rhwystrau i bleidleisio i bobl anabl.
Fel rhan o’r adolygiad gorfodol, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio dichonadwy wrth ystyried dynodi neu adolygu man pleidleisio. Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio sicrhau'r canlynol:
- bydd gan bob etholwr mewn etholaeth yn ardal yr awdurdod lleol y cyfryw gyfleusterau rhesymol i bleidleisio ag sy'n ymarferol o dan yr amgylchiadau
- i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol, bydd pob man pleidleisio y mae'n gyfrifol amdano yn hygyrch i etholwyr sy'n anabl
Ymgysylltu ag arbenigwyr ar hygyrchedd
Fel rhan o'r adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol ofyn am sylwadau gan y rhai sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau ar gyfer pobl sydd â gwahanol fathau o anabledd, yn ogystal ag ymgysylltu ag unrhyw grwpiau mynediad i bobl anabl a/neu swyddog anabledd.
Eich dyletswydd i ystyried y materion hygyrchedd
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu hygyrchedd pob man pleidleisio i bleidleiswyr anabl a sicrhau bod pob man pleidleisio, a phob man pleidleisio posibl, y mae'n gyfrifol amdano yn hygyrch i bleidleiswyr anabl i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol.
Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol, mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys tri gofyniad.
Ar gyfer darparwyr gwasanaethau a'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus, mae'r gofynion hyn fel a ganlyn:
- Pan fo darpariaeth, maen prawf neu arfer yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â rhai nad ydynt yn anabl, mae gofyniad i gymryd camau rhesymol i osgoi'r anfantais honno.
- Pan fo nodwedd ffisegol yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o'u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl mae gofyniad i osgoi'r anfantais honno neu fabwysiadu dull amgen rhesymol o ddarparu'r gwasanaeth neu arfer y swyddogaeth.
- Pan fydd methiant i ddarparu cymorth ategol, er enghraifft ramp i ddefnyddwyr cadair olwyn1 , yn rhoi pobl anabl o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, mae gofyniad i ddarparu'r cymorth ategol hwnnw.
Mae mynediad i'r orsaf bleidleisio yn dal i fod yn rhwystr i rai pobl anabl sydd am fwrw eu pleidlais yn bersonol. Ceir isod rai o'r prif broblemau o ran mynediad ffisegol y dylid eu hystyried fel rhan o adolygiad:
- mannau a gorsafoedd pleidleisio lle mae grisiau i mewn i'r fynedfa, neu sydd fel arall yn anhygyrch
- drysau a choridorau cul
- diffyg lle o fewn y man pleidleisio a oedd yn golygu nad oedd digon o le i gadair olwyn fodur symud o'i amgylch
- diffyg lle a chyfrinachedd i'r etholwr a'i gydymaith drafod ei ddewis o bleidlais
- diffyg bythau pleidleisio lefel isel neu fythau/byrddau a oedd yn golygu nad oedd pleidleiswyr anabl yn hyderus y gallent fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol am eu bod wedi'u lleoli'n agos i staff yr orsaf bleidleisio
- diffyg cadeiriau er mwyn i bobl gael gorffwys
- methiant i arddangos canllawiau neu gymhorthion (megis dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy) yn glir a fyddai'n rhoi hyder i bobl ynglŷn â'r broses
- goleuo annigonol
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn rhoi dyletswydd ar Swyddogion Canlyniadau i ddarparu ym mhob gorsaf bleidleisio unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pobl berthnasol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny.2 Felly, fel rhan o'r adolygiad, dylid ystyried a oes digon o le yn yr adeilad ar gyfer y cyfarpar y byddwch yn ei ddarparu i gynorthwyo pleidleiswyr anabl.
Rydym wedi paratoi rhestr wirio hygyrchedd y gellir ei defnyddio i asesu addasrwydd pob man pleidleisio a phob gorsaf bleidleisio sy'n cwmpasu'r rhain, yn ogystal â materion eraill.
- 1. Yng nghyd-destun gorsaf bleidleisio, gallai cymorth ategol, er enghraifft, fod yn ramp i ddefnyddwyr cadair olwyn. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd gan adran 9 Deddf Etholiadau 2022). ↩ Back to content at footnote 2