| Argraffu'r canllawiau llawn

Cam 2 – Ymgynghori ar yr adolygiad

Bwriedir i'r cam ymgynghori roi cyfle i wneud sylwadau ar y trefniadau presennol ac arfaethedig ar gyfer dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. Mae dwy agwedd ar y cam hwn:

  • Cyflwyniad gorfodol gan Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) y DU Etholaeth neu etholaethau Seneddol, y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cyhoeddi
  • Sylwadau a gyflwynir gan etholwyr a phersonau a chyrff eraill â diddordeb, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig a'r rhai ag arbenigedd mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl anabl

Y cyflwyniad gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) 

Rhaid i gyflwyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol):

  • gynnwys sylwadau ar y gorsafoedd pleidleisio presennol a'r gorsafoedd pleidleisio a fyddai'n debygol o gael eu defnyddio yn seiliedig ar unrhyw fannau pleidleisio arfaethedig
  • cynnwys gwybodaeth am leoliad gorsafoedd pleidleisio o fewn mannau pleidleisio

Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi sylwadau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o fewn 30 diwrnod calendr i'w derbyn. Dylai'r sylwadau gael eu cyhoeddi yn swyddfeydd yr awdurdod lleol ac mewn o leiaf un man amlwg ym mhob un o etholaethau Seneddol y DU sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr awdurdod lleol.

Gellid copïo ymateb y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a sicrhau ei fod ar gael i drigolion ei weld. Dylid hefyd ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol. 

Y sylwadau a gyflwynir gan yr ymgyngoreion

Dylai'r awdurdod ymgynghori'n gyffredinol ar yr adolygiad a dylai geisio barn grwpiau neu gyrff â diddordeb, gan gynnwys:

  • etholwyr
  • ymgeiswyr ac asiantiaid
  • pleidiau gwleidyddol
  • aelodau o'r cyngor 
  • cynrychiolwyr etholedig eraill 

Bydd yn arbennig o bwysig ymgynghori â'r rhai sydd wedi cael profiad penodol o asesu mynediad i bobl ag anableddau gwahanol. Gallai'r rhain gynnwys:

  • adrannau anabledd 
  • adrannau iechyd galwedigaethol yn y cyngor
  • grwpiau anabledd lleol a chenedlaethol

Dylai'r awdurdod ystyried y gwahanol fathau o anabledd a all wneud y broses pleidleisio'n bersonol yn fwy anodd, a dylai hefyd ystyried polisi'r cyngor ei hun ar fynediad i bobl anabl. Dylid gofyn i ymgyngoreion wneud sylwadau yn gyffredinol ac, os yw'n briodol, sylwadau am adeiladau neu ardaloedd penodol o fewn yr awdurdod.

Mae gan unrhyw un sy'n ymwneud â'r ymgynghoriad yr hawl i wneud sylwadau ar yr argymhellion a gynigir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).

Gall unrhyw etholwr yn un o etholaethau Seneddol y DU sydd naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr awdurdod lleol wneud sylwadau ar unrhyw un o'r argymhellion o fewn ardal gyfan yr awdurdod lleol.

Dylid gofyn i unrhyw berson neu gorff sy'n gwneud sylwadau awgrymu dosbarthiadau etholiadol/mannau pleidleisio amgen a dylid ei annog i roi rheswm dros y cynnig amgen fel y gellir ei ystyried yn briodol. 

Dylai'r hysbysiad a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol gynnwys terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023