Unwaith y bydd y cyngor wedi cytuno ar y cynigion, rhaid i fanylion y dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio newydd fod ar gael i'r cyhoedd.
Dylai'r rhain fod ar gael yn swyddfeydd yr awdurdod lleol, mewn o leiaf un man amlwg yn yr etholaeth (neu etholaethau), ac ar wefan yr awdurdod lleol. Rhaid rhoi'r rhesymau dros ddewis pob dosbarth etholiadol a man pleidleisio penodol.
Ynghyd â'r rhesymau dros benderfyniad terfynol yr adolygiad, rhaid cyhoeddi'r canlynol hefyd:
yr holl ohebiaeth a anfonir at y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) mewn cysylltiad â'r adolygiad
yr holl ohebiaeth a anfonwyd at unrhyw un y mae'r awdurdod wedi cysylltu ag ef/hi am fod ganddo/ganddi arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl anabl
yr holl sylwadau a wnaed gan unrhyw un mewn cysylltiad â'r adolygiad
cofnodion unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd gan y cyngor i ystyried unrhyw ddiwygiad i ddynodiad dosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio yn ei ardal o ganlyniad i'r adolygiad
manylion am ddynodi dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio yn ei ardal o ganlyniad i'r adolygiad
manylion am y mannau lle mae canlyniadau'r adolygiad wedi cael eu cyhoeddi
Mae'n bwysig bod etholwyr yn ymwybodol o unrhyw newidiadau a wnaed i'r man y mae'n rhaid iddynt fynd iddo er mwyn pleidleisio. Er enghraifft, gallai'r cerdyn pleidleisio ar gyfer yr etholiad nesaf y mae ganddynt hawl i bleidleisio ynddo nodi a yw eu gorsaf bleidleisio wedi newid.