Bydd y Comisiwn yn gwneud penderfyniad cyn gynted â phosibl. Bydd faint o amser a gymerir i wneud penderfyniad yn amrywio ym mhob achos.
Er enghraifft, bydd yn dibynnu ar y canlynol:
a oes unrhyw oedi cyn cael gwybodaeth gan drydydd partïon
cymhlethdod a nfer y materion a godwyd yn yr apêl
nifer yr apeliadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn ystod yr un cyfnod
Yn dibynnu ar ba bryd y daw'r apêl i law a pha faterion y mae'n eu codi, efallai na fydd yn bosibl i'r Comisiwn gyhoeddi penderfyniad mewn pryd i'r awdurdod ei weithredu mewn etholiad arfaethedig.
Caiff penderfyniad ei apêl ei amlinellu mewn llythyr wedi'i gyfeirio at yr apelydd, yr awdurdod a'r Swyddog Canlyniadau. Bydd y llythyr yn cynnwys y manylion canlynol:
Crynodeb o'r penderfyniad
Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol
Yr adolygiad
Yr apêl
Penderfyniad
Cyfarwyddyd/Cyfarwyddiadau (os oes rhai)
Bydd yr adran ‘penderfyniad’ yn nodi casgliad y Comisiwn ynghylch a gynhaliodd yr awdurdod yr adolygiad mewn ffordd:
a oedd yn bodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth neu unrhyw gorff o'r etholwyr hynny, neu
a oedd yn rhoi ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl mewn man pleidleisio dynodedig.