Mae'n bosibl y bydd apeliadau sy'n codi materion ynglŷn â mynediad i bobl anabl yn gwneud pwyntiau sy'n ymwneud â phroses yr adolygiad, er enghraifft a oedd ymgynghori digonol ac ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd yn ystod yr adolygiad, a hefyd bwyntiau ynglŷn â chanlyniad yr adolygiad, er enghraifft a yw'r man pleidleisio dynodedig yn ddigon hygyrch. Bydd y Comisiwn yn ystyried sut yr aed i'r afael â'r ddau fath hyn o faterion yn yr adolygiad o fannau pleidleisio.
O ran proses yr adolygiad, byddai'r Comisiwn yn disgwyl bod yr awdurdod / CEONI wedi cymryd y camau a nodwyd yn ei ganllawiau ar gynnal adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio.
Rydym wedi paratoi rhestr wirio hygyrchedd sy'n nodi pwyntiau allweddol y byddem yn disgwyl iddynt gael eu hystyried wrth asesu addasrwydd pob man pleidleisio a phob gorsaf bleidleisio.
Yn ogystal ag ysgrifennu at y grwpiau neu'r unigolion hynny y mae'r awdurdod lleol wedi nodi bod ganddynt arbenigedd ym maes hygyrchedd, dylai'r awdurdod hefyd fod wedi ymgysylltu ag unrhyw grŵp mynediad i bobl anabl a/neu swyddog anabledd mewnol fel rhan o'r adolygiad. Os nad oes unrhyw grŵp na swyddog o'r fath ar gael, dylid bod wedi defnyddio arbenigwr allanol ar anabledd.
O ran canlyniad yr adolygiad, byddai'r Comisiwn yn disgwyl bod y man pleidleisio a ddynodwyd yn hygyrch i etholwyr sy'n anabl, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ac yn ymarferol, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.1
Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, gan gynnwys, er enghraifft, argaeledd adeiladau yn yr ardal y gellid eu defnyddio fel man pleidleisio. Os bydd man pleidleisio wedi cael ei ddewis nad yw'n gwbl hygyrch, yna rhaid gwneud addasiadau rhesymol i roi mynediad i bob etholwr.
Fel arall, mae gan yr awdurdod / CEONI y pŵer i ystyried fel rhan o'r adolygiad a fyddai'n briodol dynodi man pleidleisio sydd y tu allan i'r dosbarth etholiadol.