Adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio
Cynllunio adolygiad gorfodol o fannau pleidleisio
Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu pryd y byddant yn cynnal yr adolygiad gorfodol o fewn y terfynau amser a ddarperir o dan y ddeddfwriaeth.
Er na all adolygiad gorfodol ddechrau cyn y cyfnod adolygu statudol, gall awdurdodau lleol ddechrau cynllunio ar gyfer yr adolygiad cyn hynny a dylent hefyd gynnal adolygiad rhagarweiniol o fannau pleidleisio.
Nodir rhai camau paratoi isod, y gellir eu cymryd y tu allan i ofynion cyfreithiol ffurfiol yr adolygiad.
Er enghraifft, gall awdurdodau lleol ddechrau paratoi ystadegau a gwybodaeth a all fod o gymorth iddynt yn ystod yr adolygiad. Gallai'r rhain gynnwys:
- Ffigurau ynglŷn ag etholwyr, wedi'u dadansoddi ar lefel stryd o fewn y wardiau a'r dosbarthiadau etholiadol presennol.
- Unrhyw ystadegau gan yr awdurdod lleol neu ystadegau cenedlaethol sy'n amcangyfrif newid ym mhoblogaeth yr ardal.
- Yng Nghymru a Lloegr, adroddiad gan adran gynllunio'r awdurdod sy'n nodi unrhyw ardaloedd lle y bydd datblygiadau newydd o bosibl ac amcangyfrif o nifer yr anheddau a niferoedd y boblogaeth ddisgwyliedig ar gyfer yr ardaloedd hynny.
- Yn yr Alban, gellir cael y wybodaeth hon gan Housing Land Audit.
- Mapiau cyfredol manwl ar raddfa a fydd yn helpu i ddynodi ffiniau dosbarthiadau etholiadol.
- Manylion am fannau pleidleisio presennol ac arwydd o'u haddasrwydd cyffredinol at y diben (gan gynnwys, er enghraifft, unrhyw arolygon, diagramau neu ffotograffau a gwblhawyd gyda chymorth Swyddogion Llywyddu neu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio neu fel rhan o adolygiad blaenorol neu werthusiad ar ôl etholiad).
- Unrhyw sylwadau neu gwynion ynglŷn â'r trefniadau presennol gan y cyhoedd, aelodau etholedig neu gyrff eraill.
- Gwybodaeth gyfredol gan reolwyr lleoliadau gorsafoedd pleidleisio presennol a rhai posibl yn y dyfodol ynghylch a fyddant yn parhau i fod ar gael (gan dynnu sylw, er enghraifft, at waith adnewyddu arfaethedig neu gynlluniau eraill yn y dyfodol).
- Manylion am adeiladau amgen posibl (cyhoeddus, preifat neu strwythurau dros dro) a allai ymddangos yn addas.
- Cyngor ac arweiniad gan grwpiau anabledd lleol a sefydliadau anabledd (megis, er enghraifft, SCOPE, Mencap neu Capability Scotland), ac unrhyw gymorth arbenigol gan swyddogion yn y cyngor sy'n gyfrifol am gynlluniau cydraddoldeb.
- Cylchoedd gorchwyl a'r meini prawf ar gyfer asesu addasrwydd y trefniadau presennol/arfaethedig
Hefyd, gellid paratoi'r dogfennau y bydd angen eu cyhoeddi neu eu cyfleu yn ystod yr adolygiad, megis yr hysbysiad o adolygiad a'r llythyrau at y Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) a'r rhai sydd ag arbenigedd ym maes mynediad i bobl anabl. Fodd bynnag, ni ellir cyhoeddi'r hysbysiad nac anfon y llythyrau cyn dechrau cyfnod yr adolygiad gorfodol.
Amserlen
Gallai awdurdodau lleol hefyd bennu'r amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad.
Wrth lunio'r amserlen mae'n bwysig ystyried dyddiad mwyaf tebygol cyfarfod y cyngor neu bwyllgor lle y byddai'r cynigion manwl ynglŷn â'r adolygiad yn cael eu hystyried a'u cymeradwyo'n ffurfiol.
Dylai swyddogion yr adolygiad weithio'n agos gyda'r swyddog arweiniol sy'n gyfrifol am y cyfarfodydd hyn er mwyn sicrhau y gellir ystyried dyddiad y cyfarfod a'r terfynau amser cysylltiedig wrth amserlennu'r adolygiad.
Staff / grŵp prosiect / arweinydd prosiect
Wrth gynllunio ar gyfer yr adolygiad, bydd angen hefyd i'r awdurdod lleol nodi pwy fydd yn arwain ac yn cefnogi'r adolygiad, gan ddefnyddio staff nid yn unig o wasanaethau etholiadol, ond hefyd o rannau eraill o'r awdurdod a all feddu ar yr arbenigedd i gynorthwyo.