Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:
cyhoeddi hysbysiad o gynnal adolygiad
ymgynghori â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer pob etholaeth seneddol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ei ardal
cyhoeddi'r holl sylwadau a wnaed gan Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o fewn 30 diwrnod i'w derbyn drwy gyhoeddi copi ohonynt yn swyddfa'r awdurdod lleol ac mewn o leiaf un man amlwg yn ei ardal a thrwy osod copi ar wefan yr awdurdod.
ceisio sylwadau gan y rhai hynny y credant eu bod yn meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safle neu gyfleusterau i bobl â gwahanol fathau o anabledd. Rhaid i unigolion o'r fath gael cyfle i gyflwyno sylwadau ac ymateb i sylwadau y Swyddog(ion) Canlyniadau (Gweithredol).
Ar ôl cwblhau adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi rhesymau dros ei benderfyniadau a cyhoeddi:
yr holl ohebiaeth a anfonir at Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) mewn cysylltiad â'r adolygiad
yr holl ohebiaeth a anfonwyd at unrhyw un y cred yr awdurdod ei fod yn meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safleoedd neu gyfleusterau i bobl sydd â gwahanol fathau o anabledd
yr holl sylwadau a wnaed gan unrhyw un mewn cysylltiad â'r adolygiad
cofnodion unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd gan y cyngor i ystyried unrhyw ddiwygiad i ddynodiad dosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio yn ei ardal o ganlyniad i'r adolygiad
manylion dynodiad dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio o fewn ardal awdurdod lleol o ganlyniad i'r adolygiad
manylion am y mannau lle mae canlyniadau'r adolygiad wedi cael eu cyhoeddi