Rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n ymwneud ag adolygiad o fannau pleidleisio
Yr awdurdod lleol
Yr awdurdod lleol perthnasol sy'n gyfrifol yn statudol am adolygu dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio Seneddol y DU ym Mhrydain Fawr, a hynny am gymaint o unrhyw etholaeth ag sydd wedi'i lleoli yn ei ardal. Awdurdod lleol perthnasol yw:
yn Lloegr, y cyngor dosbarth neu'r cyngor bwrdeistref yn Llundain;
yr Alban, awdurdod lleol;
yng Nghymru, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref.
Yn dibynnu ar strwythur yr awdurdod lleol, efallai nad y cyngor llawn fydd yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn ag unrhyw newidiadau i ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio. Mae'n bosibl bod rhai awdurdodau lleol wedi dirprwyo'r swyddogaeth honno. Os felly, daw pwyllgor neu is-bwyllgor yn gyfrifol am y penderfyniad ar ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. Bydd hyn wedi'i nodi yng nghyfansoddiad y cyngor.
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Pan fydd awdurdod lleol yn gwneud unrhyw newidiadau i'r dosbarthiadau etholiadol yn ei ardal, rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ddiwygio'r gofrestr etholwyr yn unol â hynny – naill ai ar hysbysiad newid neu drwy gyhoeddi cofrestr ddiwygiedig.
Daw'r newidiadau i'r gofrestr yn weithredol ar y dyddiad y mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cyhoeddi hysbysiad ar wahân yn nodi bod y newidiadau wedi cael eu gwneud, a ddylai gael ei wneud i gyd-daro â chyhoeddi hysbysiad newid/cyhoeddi cofrestr ddiwygiedig.
Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wneud sylwadau yn ystod unrhyw adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio Seneddol y DU ynglŷn â'r gorsafoedd pleidleisio presennol a'r gorsafoedd pleidleisio a fyddai'n debygol o gael eu defnyddio pe bai unrhyw gynnig newydd ar gyfer mannau pleidleisio yn cael ei dderbyn.
Mae'r rheolau etholiadol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu faint o orsafoedd pleidleisio sydd eu hangen ar gyfer pob man pleidleisio a rhaid iddynt neilltuo etholwyr i'r gorsafoedd pleidleisio yn y fath fodd ag sydd fwyaf cyfleus yn eu barn.
Y Comisiwn Etholiadol
Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi unrhyw rôl i'r Comisiwn yn y broses adolygu, mae'n rhoi rôl ar ôl i'r adolygiad ddod i ben.
Unwaith y bydd yr awdurdod lleol wedi cyhoeddi canlyniadau ei adolygiad, caiff partïon â diddordeb a bennwyd wneud sylwadau i'r Comisiwn er mwyn ailystyried unrhyw ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. Gallwn gyfarwyddo'r awdurdod i wneud unrhyw newidiadau i'r mannau pleidleisio ag sy'n angenrheidiol yn ein barn ni ac, os na wneir y newidiadau o fewn deufis, gallwn wneud y newidiadau ein hunain.