Newid mannau pleidleisio y tu allan i gyfnod yr adolygiad gorfodol
Os nad yw gorsaf bleidleisio ar gael mwyach, dylai'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ystyried a ellid dynodi gorsaf bleidleisio arall o fewn y man pleidleisio. Ni fyddai angen adolygiad er mwyn newid yr orsaf bleidleisio o fewn y man pleidleisio.
Os nad yw adeilad ar gael mwyach cyn etholiad, gall yr awdurdod lleol newid y man pleidleisio yn unol â'i drefniadau gwneud penderfyniadau. Os oes gweithdrefnau dirprwyo ar waith, er enghraifft i un o bwyllgorau'r cyngor, dylid dilyn y rhain fel y'i nodwyd yng nghyfansoddiad y cyngor a dylid cysylltu â'r person neu'r personau sydd â hawl i wneud newidiadau i fannau pleidleisio.
Rhwng adolygiadau gorfodol, dylid parhau i ystyried mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio, a dylid cynnal gwerthusiad o'u haddasrwydd ar ôl pob etholiad. Os nodir unrhyw newidiadau a fyddai'n ddymunol, dylid dilyn yr un camau ag sy'n cael eu dilyn wrth gynnal yr adolygiad gorfodol.
Gall yr awdurdod lleol gynnal adolygiad interim a newid rhai o'i ddosbarthiadau etholiadol a'i fannau pleidleisio cyn diwedd y cylch o 5 mlynedd, ond dylid cynnal yr un prosesau ar gyfer yr ardaloedd dan sylw ag y dylid eu cynnal ar gyfer yr adolygiad gorfodol. Os na fydd yr awdurdod lleol yn mynd trwy'r prosesau hyn, bydd yn cael anhawster i ddangos tystiolaeth o'i broses gwneud penderfyniad ac esbonio sut yr ystyriodd farn pobl anabl a gofynion rhesymol etholwyr.