Yn ogystal â'r newidiadau arfaethedig i ffiniau etholaethau Seneddol y DU, efallai y bydd gennych newidiadau i ffiniau llywodraeth leol yn dod i rym hefyd. O ganlyniad, os cynigir newidiadau sylweddol ar gyfer eich ardal, efallai y bydd yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal yr adolygiad yn cynyddu.
Os yw ffiniau etholiadol lleol eich awdurdod lleol yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfnod adolygu statudol, bydd angen i chi ystyried sut y bydd yr adolygiad ffiniau etholiadol yn cyd-fynd â'r adolygiad dosbarthiadau etholiadol/mannau pleidleisio ac a fyddai'n bosibl ac yn ddymunol alinio'r ddau adolygiad. Er nad oes ei angen, efallai y bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ei chael yn fuddiol eu cyfuno.
Dylech feddwl am unrhyw newidiadau i’ch ffiniau llywodraeth leol sy'n debygol o effeithio ar eich dosbarthiadau etholiadol ac ymgorffori'r newidiadau hynny yn eich cynllunio adolygu. Er enghraifft, os oedd ffiniau etholaethau Seneddol newydd y DU yn seiliedig ar hen ffiniau eich wardiau, efallai y bydd angen i chi greu dosbarthiadau etholiadol ychwanegol i gefnogi'r ffiniau newydd.
Nodir enghraifft isod, sy'n dangos sut y gellir gwneud gwelliannau i ddosbarthiadau etholiadol i adlewyrchu newidiadau i ffiniau wardiau, ac i'ch galluogi i gynhyrchu cofrestrau ar yr hen strwythur a’r strwythur newydd.
Enghraifft
Mae Cyngor Dosbarth Unrhywdref wedi cael adolygiad ffiniau llywodraeth leol sydd wedi newid patrwm wardiau. Rhennir y wardiau presennol rhwng dwy etholaeth Seneddol, ‘Unrhywdref’ a ‘Trefnewydd’. Nid yw'r ffiniau seneddol ar gyfer yr etholaethau hyn wedi newid.
Mae'r ward 'Canolog' bresennol, sy'n cynnwys dau dosbarth etholiadol 'Gogledd Midway' a 'De Midway' ar hyn o bryd, i'w diddymu a'i hamsugno i wardiau 'Bunhill' ac 'Ansell'. Bydd ffin newydd y ward yn torri ar draws dosbarth etholiadol 'Gogledd Midway' gyda hanner yn dod yn rhan o ward 'Bunhill', a hanner yn rhan o ward 'Ansell'. Fel y cyfryw, mae angen rhannu dosbarth etholiadol 'Gogledd Midway' yn ddau dosbarth etholiadol, fel Gogledd Midway A a B, gydag 'A' i ddod yn rhan o ward 'Bunhill' a 'B' i ddod yn rhan o ward 'Ansell'.
Yn yr enghraifft hon, bydd angen dyrannu dosbarth etholiadol newydd Gogledd Midway B, a grëwyd i adlewyrchu ffiniau newydd y wardiau, i'r etholaeth Seneddol gywir.