Adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio
Ystyriaethau ar gyfer adolygiad rhagarweiniol o fannau pleidleisio
Fel rhan o'r adolygiad rhagarweiniol dylid edrych ar ffactorau penodol wrth ystyried addasrwydd y gorsafoedd pleidleisio a'r mannau pleidleisio presennol a nodi rhai newydd o bosibl.
Polling Districts
Dylai'r canlynol gael ei ystyried fel rhan o'r asesiad o addasrwydd ffiniau dosbarthiadau etholiadol:
- A yw'r ffiniau wedi'u diffinio'n dda? Er enghraifft, a ydynt yn dilyn ffiniau naturiol yr ardal? Os nad ydynt, a yw'n glir pa eiddo sy'n rhan o'r dosbarth etholiadol?
- A oes cysylltiadau trafnidiaeth addas o fewn y dosbarth etholiadol, a beth yw eu perthynas â'r ardaloedd mwyaf poblog yn y dosbarth etholiadol?
- A oes unrhyw rwystrau i bleidleiswyr sy'n croesi'r dosbarth etholiadol presennol i gyrraedd y man pleidleisio e.e., rhiwiau serth, prif ffyrdd, llinellau rheilffyrdd, afonydd?
Mae nifer o ffactorau y bydd angen eu hystyried wrth adolygu'r mannau pleidleisio presennol neu wrth asesu mannau pleidleisio newydd, gan gynnwys:
Ffactor | Ystyriaethau |
---|---|
Lleoliad |
A yw'n weddol hygyrch o fewn y dosbarth etholiadol? A yw'n osgoi rhwystrau i bleidleiswyr megis rhiwiau serth, prif ffyrdd, afonydd, ac ati? A oes unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth cyfleus? |
Maint |
A oes digon o le i fwy nag un gorsaf bleidleisio os bydd angen? Os bydd angen nifer o orsafoedd pleidleisio, a oes digon o le yn y man pleidleisio i'r holl bleidleiswyr a'r staff angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth da i bleidleiswyr? A yw'n ddigon mawr i ddarparu ardaloedd preifat angenrheidiol neu sgriniau preifatrwydd ar gyfer gwiriadau prawf adnabod ffotograffig? A yw'n ddigon mawr i sicrhau llif pleidleiswyr a lleihau'r risg o dagfa a chiwiau hyd yn oed pan fydd niferoedd mawr yn pleidleisio? |
Argaeledd |
A fydd yr adeilad ar gael os bydd unrhyw etholiadau annisgwyl? A oes unrhyw bosibilrwydd y caiff yr adeilad ei ddymchwel fel rhan o ddatblygiad newydd? |
Hygyrchedd |
A yw'r adeilad yn hygyrch i bawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol yn y man pleidleisio? A oes digon o le yn yr adeilad ar gyfer unrhyw gyfarpar a ddarperir i gynorthwyo pleidleiswyr anabl? |
Yn ddelfrydol, byddai dewis o blith nifer o adeiladau cwbl hygyrch, mewn lleoliad cyfleus i etholwyr yn yr ardal y gellid sefydlu gorsafoedd pleidleisio ynddynt.
Fodd bynnag, yn ymarferol, bydd y dewis o fannau pleidleisio yn aml yn golygu cydbwyso rhwng ansawdd adeilad (mynediad, cyfleusterau, ac ati) ac agosrwydd yr adeilad i'r etholwyr. Wrth wneud penderfyniad, bydd angen ystyried yr holl ffactorau a bydd angen i'r awdurdod allu dangos ei resymau dros y penderfyniad.
Os bydd man pleidleisio nad yw'n gwbl hygyrch wedi cael ei ddewis oherwydd amgylchiadau lleol, yna rhaid gwneud addasiadau rhesymol i roi mynediad i bob etholwr. Fel arall, dylai'r awdurdod lleol ystyried a fyddai'n briodol dynodi man pleidleisio sydd y tu allan i'r dosbarth etholiadol.
Mae rhan o'r broses gwneud penderfyniadau yn golygu asesu a oes digon o le yn y man pleidleisio i fwy nag un orsaf bleidleisio ynghyd â'r staff a'r cyfarpar angenrheidiol, yn enwedig o dan amgylchiadau lle mae nifer mawr o etholwyr wedi cael eu neilltuo i fan pleidleisio.
Ni ddylai nifer yr etholwyr a neilltuwyd i orsaf bleidleisio benodol fod yn fwy na 2,250.
Mewn achosion lle y gall fod niferoedd uwch o bleidleiswyr, megis mewn etholiad ar gyfer Senedd y DU, efallai y bydd Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) yn dymuno sefydlu nifer o orsafoedd pleidleisio yn y man pleidleisio. Bydd angen ystyried a yw maint a chynllun yr ardal neu'r adeilad yn addas ar gyfer trefniadau o'r fath.
Wrth asesu addasrwydd ystafell neu fan at ddefnydd gorsaf bleidleisio, dylai’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ystyried sut y byddai’r maint a’r diwyg yn caniatáu’r mewnbwn mwyaf effeithiol o bleidleiswyr, gan gymryd i ystyriaeth pa mor hir y byddai’n cymryd i wirio ID ffotograffig pleidleiswyr wrth sicrhau llif y pleidleiswyr a lleihau’r perygl o dagfeydd a chiwiau. Dylid hefyd ystyried yr achosion hynny lle bydd nifer fawr o etholwyr mewn gorsaf bleidleisio ar unrhyw un adeg.
Dylid cynllunio pob gorsaf bleidleisio i ddarparu amodau addas:
- i'r etholwr ddangos ei hunaniaeth ffotograffig yn breifat os gofynnir amdano yn ogystal â phleidleisio'n breifat
- i staff gynnal etholiadau mewn modd effeithlon ac effeithiol a
- i'r rhai sydd â hawl i arsylwi ar y broses bleidleisio i wneud hynny heb gyfaddawdu cyfrinachedd y bleidlais
Dylid nodi, at ddiben cynnal y bleidlais yng Nghymru a Lloegr, fod gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yr hawl i ddefnyddio ysgolion a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod lleol am ddim, yn ogystal â'r ysgolion hynny sy'n cael grantiau o arian a ddarperir gan Senedd y DU.
Mae hyn yn cynnwys academïau ac ysgolion rhydd.
Yn yr Alban, mae'r ystafelloedd mewn ysgolion y gellir eu defnyddio am ddim i gynnal y bleidlais yn rhai mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion annibynnol o fewn ystyr Deddf Addysg (Yr Alban) 1980.