Gallwn ond ystyried apêl a wneir gan berson yr ydym yn fodlon ei fod yn gymwys i apelio.1
Nodir y personau cymwys a'r dystiolaeth y gallwn gofyn amdani er mwyn bodloni ein hunain eu bod yn gymwys, yn y tabl isod.
Personau cymwys
Tystiolaeth
Awdurdod â diddordeb.
Yn Lloegr, ‘awdurdod â diddordeb’ yw cyngor plwyf, neu lle nad oes cyngor o'r fath, gyfarfod plwyf mewn plwyf, sydd wedi'i leoli'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn yr etholaeth.
Yng Nghymru, ‘awdurdod â diddordeb’ yw cyngor cymuned sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn yr etholaeth.
Cofnodion cyngor y plwyf neu'r cyngor cymuned (neu, os yw'n gymwys, gyfarfod y plwyf) yn dangos bod y cyngor (neu, os yw'n gymwys, gyfarfod y plwyf) yn dymuno cyflwyno'r apêl.
Dylai'r apêl ei hun gael ei hamlinellu mewn llythyr gan glerc y cyngor.
O leiaf 30 o etholwyr yn etholaeth Seneddol y DU, lle mae'r dosbarth etholiadol a / neu'r man pleidleisio sy'n destun yr apêl wedi’i leoli
Enw, cyfeiriad a llofnod pob etholwr, ynghyd â datganiad sy'n cadarnhau:
ei fod yn etholwr cofrestredig yn y dosbarth etholiadol a / neu'r man pleidleisio sy'n destun yr apêl, a
bod yr apêl yn cael ei hanfon ar ei ran.
Os bydd y llofnodion yn mynd dros fwy nag un dudalen, rhaid ei bod yn glir ar bob tudalen bod yr etholwyr yn cadarnhau eu bod yn etholwyr cofrestredig yn yr etholaeth berthnasol a bod yr apêl yn cael ei hanfon ar eu rhan.
Person (heblaw'r Swyddog Canlyniadau) sydd wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod / Prif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon (CEONI) yn ystod yr adolygiad o dan Atodlen A1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Copi o'r sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd i'r awdurdod / CEONI yn ystod yr adolygiad. Er enghraifft, llythyr neu e-bost sy'n cynnwys sylwadau.
Os cyflwynwyd y sylwadau ar lafar, bydd y Comisiwn yn cysylltu â'r awdurdod / CEONI i gael cadarnhad.
Person nad yw'n etholwr mewn etholaeth yn ardal yr awdurdod lleol (mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae hyn yn golygu ardal gyfan Gogledd Iwerddon) ond sydd â diddordeb digonol yn hygyrchedd mannau pleidleisio i bobl anabl yn yr ardal neu sy'n meddu ar arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i safleoedd neu gyfleusterau i bobl anabl ym marn y Comisiwn.
Gwybodaeth gan yr apelydd yn esbonio pam mae ganddo/ganddi ddiddordeb neu arbenigedd mewn mynediad i bobl anabl. Mae enghreifftiau o'r rhai a all ddod o dan y categori hwn yn cynnwys elusennau sy'n cynrychioli buddiannau pobl anabl ac unigolion sy'n anabl.
Gall apêl ond ymwneud ag un dosbarth etholiadol a/neu fan pleidleisio. Gellir cyflwyno apeliadau mewn perthynas â mwy nag un dosbarth etholiadol a/neu fan pleidleisio ond bydd pob un yn gyfystyr ag apêl ar wahân. Mae hyn yn golygu y bydd angen i bob apêl gael ei chyflwyno gan berson(au) cymwys, er enghraifft o leiaf 30 o etholwyr ar gyfer pob apêl (ond gall yr un pobl gyflwyno apeliadau ar wahân).