Adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio

Seiliau apelio

Gellir dim ond cyflwyno apêl ar y sail na chynhaliwyd adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio Seneddol y DU i 1 :

  • fodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth neu unrhyw gorff o'r etholwyr hynny, neu
  • rhoi ystyriaeth ddigonol i hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio i bobl anabl mewn man pleidleisio dynodedig.

Gellir cyflwyno apêl ar y naill sail uchod neu'r llall neu'r ddwy sail uchod. 

Mae'r seiliau hyn yn cynnwys y ffordd y cynhaliwyd yr adolygiad, h.y. proses yr adolygiad, a chanlyniad yr adolygiad, h.y. y dosbarth etholiadol a/neu'r man pleidleisio a ddynodwyd. 

Er enghraifft, mae'n bosibl na chynhaliwyd adolygiad mewn ffordd a oedd yn bodloni gofynion rhesymol yr etholwyr yn yr etholaeth mewn perthynas â'r naill gam gweithdrefnol neu'r llall neu'r ddau gam gweithdrefnol a gymerwyd gan yr awdurdod / CEONI yn ystod yr adolygiad neu benderfyniad yr awdurdod / CEONI ar ddiwedd y broses i ddynodi dosbarth etholiadol neu fan pleidleisio.

Dim ond mewn perthynas ag adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio Seneddol y DU a gwblhawyd y gellir cyflwyno apêl. Ni ellir cyflwyno apêl, er enghraifft:

  • os nad yw'r adolygiad wedi cael ei gwblhau – dim ond ar ôl i'r awdurdod / CEONI wneud penderfyniad ar ddiwedd yr adolygiad i ddynodi dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio y gellir cyflwyno apêl. 
  • os yw'r awdurdod / CEONI wedi methu â chynnal adolygiad, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth2 , a phan fo'r apelydd yn ceisio herio'r methiant hwnnw. Dylai unrhyw un sy'n ceisio herio unrhyw fethiant o'r fath geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. Mae methiant i gynnal adolygiad yn cynnwys methiant i gyhoeddi hysbysiad o adolygiad neu fethiant i wneud penderfyniad ynglŷn â dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio newydd.
  • os oes un o ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio Seneddol y DU wedi cael ei newid y tu allan i adolygiad – dylai unrhyw un sy'n ceisio herio unrhyw newid o'r fath geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun.

Nid oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas â phenderfyniad Swyddog Canlyniadau ynglŷn â lleoliad gorsafoedd pleidleisio mewn unrhyw etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023