Adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio

Cynnal adolygiad rhagarweiniol o fannau pleidleisio

Dylai'r awdurdod lleol gynnal adolygiad rhagarweiniol o'r dosbarthiadau etholiadol a'r mannau pleidleisio presennol gyda'r nod o gadarnhau eu haddasrwydd, a nodi unrhyw ddewisiadau amgen posibl yn ôl y gofyn. Gellir gwneud hyn cyn dechrau cyfnod penodedig yr adolygiad. 

Nid oes unrhyw ofyniad i newid unrhyw un o'r dosbarthiadau etholiadol na'r mannau pleidleisio os ydynt yn addas, ond rhaid i unrhyw benderfyniad ‘dim newid’ gael ei gyfiawnhau'n llawn fel rhan o'r cynigion cyffredinol.

Dylai proses yr adolygiad fod wedi'i strwythuro, a rhaid ei chynnal yn ffurfiol gyda dogfennaeth ategol. Bydd hyn yn sicrhau bod trywydd archwilio cyflawn ar gyfer pob penderfyniad sy'n cael ei wneud a bydd yn cyfrannu at dryloywder y broses.

Bydd cydgysylltu agos ag adrannau eraill y cyngor, megis cyfathrebu, y rhai sy'n darparu gwasanaethau i drigolion anabl, a chynllunio yn helpu i wneud proses gyffredinol yr adolygiad yn fwy effeithlon.

Gall adrannau cynllunio a gwasanaethau eiddo'r awdurdod lleol, er enghraifft, roi arweiniad ar argaeledd lleoliadau a safleoedd a manylion unrhyw ddatblygiadau preswyl a allai gael effaith ar ffigurau etholwyr yn y dyfodol.

Gellir modelu opsiynau posibl lle y tybir y bydd angen newidiadau drwy ddefnyddio adnoddau mapio a chynllunio sydd ar gael yn yr awdurdod lleol, yn enwedig gan y bydd gwasanaethau mapio GIS sy'n gallu defnyddio data o amrywiol ffynonellau ar gael i'r rhan fwyaf o awdurdodau.

Dylai awdurdodau lleol bennu'r dull mwyaf priodol o gynnwys staff perthnasol yr awdurdod lleol a grwpiau eraill â diddordeb fel y bo'n briodol. 

Asesu'r trefniadau presennol a chynigion ar gyfer newid

Mae'r ddeddfwriaeth yn awgrymu y dylid dechrau gyda dosbarthiadau etholiadol, yna ddewis mannau pleidleisio ac wedyn ystyried gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae'n bwysig bod mannau pleidleisio o ansawdd da yn cael eu nodi'n gyntaf, y gellir wedyn eu defnyddio fel rhan o'r broses o bennu trefniadau addas ar gyfer dosbarthiadau etholiadol sy'n cydymffurfio â'r gofynion a nodwyd yn y ddeddfwriaeth.

Rydym wedi paratoi rhestr wirio i'ch helpu i werthuso'ch mannau pleidleisio a'ch gorsafoedd pleidleisio presennol a'r rhai arfaethedig. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2023