Y termau a ddefnyddir mewn adolygiad o fannau pleidleisio
Term
Diffiniad
Etholaethau Seneddol y DU
Mae Deddf Etholaethau Seneddol 1986 yn nodi: ‘There shall for the purpose of parliamentary elections be the county and borough constituencies (or in Scotland the county and burgh constituencies), each returning a single member, which are described in Orders in Council made under this Act. […] In this Act and, except where the context otherwise requires, in any Act passed after the Representation of the People Act 1948, “constituency” means an area having separate representation in the House of Commons.1
’
Ni all ffiniau etholaethau Seneddol y DU gael eu newid o dan yr adolygiad.
Dosbarth etholiadol
Ystyr dosbarth etholiadol yw ardal ddaearyddol sy'n cael ei chreu drwy is-rannu un o etholaethau Seneddol y DU at ddibenion etholiad Senedd y DU.
Yn Lloegr, bwriedir i bob plwyf fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân ac, yng Nghymru, dylai pob cymuned fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân oni bai bod amgylchiadau arbennig. Mae hyn yn golygu na ddylai plwyf na chymuned fod mewn dosbarth etholiadol y mae rhan o naill ai plwyf neu gymuned wahanol ynddo, neu unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol nad yw'n blwyf ynddo, oni bai bod amgylchiadau arbennig yn gymwys. Gallai'r amgylchiadau arbennig hynny godi, er enghraifft os mai dim ond nifer bach o etholwyr sydd yn y plwyf/y gymuned ac nad yw'n ymarferol i'r plwyf fod yn ddosbarth etholiadol ynddo'i hun.
Yn yr Alban, rhaid i bob ward etholiadol gael ei rhannu'n ddau ddosbarth etholiadol neu fwy oni bai bod amgylchiadau arbennig. O ystyried maint wardiau yn yr Alban, mae'n anodd rhagweld beth fyddai'r amgylchiadau arbennig hynny yn ymarferol.
Pan nad yw plwyf/cymuned yn ddosbarth etholiadol ar wahân neu pan nad yw ward etholiadol yn yr Alban wedi'i rhannu'n ddau ddosbarth etholiadol neu fwy, dylai'r amgylchiadau arbennig a'r argymhelliad sy'n deillio o'r rhain gael eu nodi'n glir yn y ddogfen adolygu er mwyn i'r cyngor neu'r pwyllgor perthnasol eu hystyried.
Man pleidleisio
Man pleidleisio yw'r adeilad neu'r ardal lle y bydd gorsafoedd pleidleisio yn cael eu dewis gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Rhaid i fan pleidleisio o fewn dosbarth etholiadol gael ei ddynodi er mwyn sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio o fewn cyrraedd hawdd i bob etholwr yn y dosbarth etholiadol.
Rydym yn ymwybodol bod rhai awdurdodau yn dynodi'r dosbarth etholiadol gyfan fel y man pleidleisio. Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi bod 'rhaid i'r man pleidleisio fod yn ddigon bach fel y bydd etholwyr mewn rhannau gwahanol o'r dosbarth yn gwybod sut y byddant yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio'.2
Felly, rydym o'r farn y dylid diffinio mannau pleidleisio'n fwy penodol na'r dosbarth etholiadol yn unig – er enghraifft, drwy ddynodi enw'r man pleidleisio (fel arfer adeilad neu ardal benodol a'i gyffiniau).
Gorsaf bleidleisio
Ystyr gorsaf bleidleisio yw'r ystafell neu'r ardal yn y man pleidleisio lle mae etholwyr yn pleidleisio. Yn wahanol i ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio sydd wedi'u pennu gan yr awdurdod lleol, caiff gorsafoedd pleidleisio eu dewis gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol ar gyfer yr etholiad.