Diweddariadau i’n canllawiau
| Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o'r newid |
|---|---|
| Medi 2025 | Ers yr etholiad Senedd diwethaf, ailysgrifennwyd y canllaw hwn mewn ffurf HTML. Fel rhan o’r broses ailysgrifennu, rydym wedi gwneud y diweddariadau nodedig canlynol:
Mae yna ddiweddariadau hefyd i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys:
|
Ynghylch y canllawiau hyn
Dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae yna gyfreithiau ar godi arian a gwariant y mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol eu dilyn yn y cyfnod cyn etholiadau penodol.
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am y cyfnod a reoleiddir, terfynau gwariant, gwariant ar ymgyrch, gofynion adrodd a dyddiadau cau ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026.
Gall ymgeiswyr yn etholiad y Senedd sefyll fel ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid yn un o’r 16 etholaeth.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i ymgeiswyr rhestr plaid a phleidiau gwleidyddol yn unig. Mae’r rheolau i ymgeiswyr unigol yn wahanol. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau ar wahân i ymgeiswyr a’u hasiantiaid, sydd i'w cael yma: Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid: etholiad y Senedd.
Pan mae pleidiau yn cyhoeddi deunyddiau etholiad, rhaid iddynt gynnwys manylion a elwir yn argraffnod. Mae gennym ganllawiau ar wahân ar argraffnodau.
Termau ac ymadroddion yr ydym yn eu defnyddio
Yn y canllaw hwn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ pan fyddwn yn cyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sy'n arferion da sylfaenol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ neu’r ‘person cyfrifol’ i gyfeirio at y person sy’n gyfrifol am wariant ar ymgyrch. Y swyddog ymgyrch cofrestredig fydd y person hwn, os oes un wedi’i benodi, neu’r trysorydd cofrestredig fel arall.
Cyfieithiadau a fformatau eraill
Am wybodaeth ynghylch caffael y cyhoeddiad hwn mewn iaith arall neu mewn fersiwn Braille, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol:
Ffôn: 0333 103 1928
E-bost: [email protected]
Canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant i bleidiau gwleidyddol cofrestredig
Dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i gynhyrchu canllawiau i bleidiau gwleidyddol cofrestredig i’w hannog i hyrwyddo amrywiaeth eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau Cymru. O ganlyniad i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gwirfoddol i bleidiau. Am fanylion, gweler llyw.cymru/canllawiau-ar-amrywiaeth-chynhwysiant-ar-gyfer-pleidiau-gwleidyddol-cofrestredig.
Y cyfnod a reoleiddir
Gwariant ar ymgyrch yw’r swm y mae eich plaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo’r blaid neu i feirniadu pleidiau eraill yn ystod cyfnod penodol cyn yr etholiad.
Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Y cyfnod a reoleiddir yw’r adeg pan mae’r rheolau a’r terfynau gwariant yn berthnasol.
Mae’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn dechrau ar 7 Ionawr 2026 ac yn rhedeg hyd nes y diwrnod pleidleisio ar 7 Mai 2026.1
Bydd gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeiswyr rhestr plaid hefyd yn wariant ar ymgyrch plaid. Mae unrhyw wariant rydych yn ei ysgwyddo sy’n hyrwyddo eich plaid neu unrhyw un o’i hymgeiswyr yn y cyfnod a reoleiddir yn cael ei gynnwys, oni bai bod y gwariant hwnnw wedi ei nodi mewn ffurflen ymgeisydd neu ffurflen deiseb adalw.
Mae hyn yn cynnwys gwariant i hyrwyddo eich plaid yn etholiad y Senedd, ond hefyd gwariant i hyrwyddo eich plaid mewn unrhyw etholiad arall yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
- 1. Atodlen 9, paragraff 6(3), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Y terfyn gwariant
Mae’r swm uchaf y gallwch ei wario ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn seiliedig ar nifer yr ymgeiswyr sydd gennych yn sefyll ym mhob etholaeth.
Mae 16 etholaeth yng Nghymru. Mae chwe sedd ym mhob etholaeth, ond gall plaid gyflwyno hyd at wyth ymgeisydd ar eu rhestr ar gyfer etholaeth.
Mae pob etholaeth y mae eich plaid yn ei frwydro yn ychwanegu swm at eich terfyn gwariant, yn seiliedig ar nifer yr ymgeiswyr sydd gennych yn sefyll yn yr etholaeth honno. Mae’r terfyn gwariant yn derfyn cenedlaethol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi roi eich gwariant i etholaethau penodol. Nid oes terfyn gwariant i etholaethau.
Ar gyfer pob etholaeth rydych yn sefyll ynddi, rydych yn ychwanegu rhwng £52,500 a £70,000 i’ch terfyn gwariant, fel y nodir yn y tabl isod.1 Os oes gennych o leiaf chwe ymgeisydd yn sefyll mewn etholaeth, byddwch yn cael uchafswm o £70,000.
| Nifer yr ymgeiswyr | Cyfanswm a ychwanegir at y terfyn gwariant |
|---|---|
| 1 | £52,500 |
| 2 | £56,000 |
| 3 | £59,500 |
| 4 | £63,000 |
| 5 | £66,500 |
| 6-8 | £70,000 |
Os yw eich plaid yn sefyll o leiaf chwe ymgeisydd ym mhob etholaeth, bydd cyfanswm eich terfyn gwariant yn £1,120,000:
£70,000 × 16 = £1,120,000
Er enghraifft, mae eich plaid yn brwydro chwe etholaeth. Mewn un etholaeth rydych yn sefyll wyth ymgeisydd, mewn tair etholaeth rydych yn sefyll chwe ymgeisydd, ac mewn dwy etholaeth dim ond un ymgeisydd rydych yn sefyll.
Mae pob un o'r pedair etholaeth rydych yn sefyll o leiaf
chwe ymgeisydd yn cyfrannu £70,000 at eich terfyn gwariant. Mae pob un o'r ddwy etholaeth rydych yn sefyll un ymgeisydd yn cyfrannu £52,500 at eich terfyn.
Eich terfyn gwariant cenedlaethol yw (4 x £70,000) + (2 x £52,500) = £385,000
Am ragor o wybodaeth am yr 16 etholaeth, gweler Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
- 1. Atodlen 9, paragraff 6(2), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Rheoli gwariant ar ymgyrch
Pwy sy’n gyfrifol am wariant ymgyrch plaid?
Fel arfer, trysorydd cofrestredig plaid sy’n gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn dilyn y cyfreithiau ar wariant ymgyrch.1 Fodd bynnag, os yw plaid wedi cofrestru swyddog ymgyrch, y person hwn sy’n gyfrifol am wariant ymgyrch yn hytrach.2
Gallwch benodi dirprwyon i gynorthwyo gyda rhai o’ch cyfrifoldebau. Gallwch wneud hyn ar PEF Ar-lein neu drwy ddefnyddio Ffurflen RP5.
Awdurdodi a thalu treuliau ymgyrch
Yr unig rai a all ysgwyddo a thalu am wariant ymgyrch plaid yw’r person cyfrifol sydd wedi'i gofrestru gyda ni, ei ddirprwyon, a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol.3
Drwy'r term ‘ysgwyddo’ rydym yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario’r arian. Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.
Rydych yn ysgwyddo gwariant etholiad pan rydych yn dod yn rhan o drafodiad gyda chyflenwr ac yn dod yn atebol am dalu am yr eitem, y nwyddau neu’r gwasanaeth y maent wedi ei ddarparu i chi. Er enghraifft, rydych yn prynu gwasanaeth cwmni argraffu i argraffu taflenni, neu rydych yn arwyddo cytundeb i rentu swyddfa.
Yn aml, caiff taliadau eu hysgwyddo a'u talu ar yr un pryd. Er enghraifft, os ydych yn prynu rhywbeth ar-lein neu mewn siop.
Weithiau, caiff gwariant ei ysgwyddo cyn iddo gael ei dalu. Er enghraifft, os ydych yn cael cwmni digwyddiadau i gynnal eich lansiad maniffesto, ysgwyddir y gwariant pan fyddwch yn gwneud defnydd o’i wasanaethau. Gwneir y taliad hwyrach ymlaen, ar ôl i'r cwmni eich anfonebu ar ôl y digwyddiad.
Bydd gwariant gan y blaid neu ar ei rhan i hyrwyddo ymgeiswyr rhestr plaid yn cyfrif fel gwariant ymgyrch plaid.4 Felly, rhaid i’r person cyfrifol awdurdodi’r treuliau hyn.
Mae’r cyfreithiau hyn ar waith i sicrhau bod gennych reolaeth o wariant eich plaid a’ch bod yn ei gofnodi ac yn adrodd arno'n gywir. Mae’n bwysig bod gennych brosesau digonol ar waith i’ch galluogi i gadw golwg ar wariant.
Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a’ch ymgyrchwyr yn gwybod pwy all a phwy na all ysgwyddo a thalu costau.
Pleidiau gydag unedau cyfrifyddu
Efallai bod gan eich plaid unedau cyfrifyddu sydd wedi’u cofrestru gyda ni, megis pleidiau etholaeth. Er eu bod yn adrodd am eu cyfrifon ar wahân, mae unedau cyfrifyddu yn parhau’n rhan o’r blaid.
Mae unrhyw wariant gan neu ar ran uned gyfrifyddu yn wariant gan y blaid.5 Felly, mae’n rhaid iddo gael ei ysgwyddo a’i dalu gan rywun a awdurdodwyd gan y person cyfrifol ac mae’n rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen wariant, ynghyd â derbynebau ar gyfer unrhyw eitemau sydd dros £200.6
Mae unrhyw drafodiad rhwng unedau cyfrifyddu, neu rhwng uned gyfrifyddu a’r blaid ganolog, yn drafodiad mewnol. Mae hyn yn cynnwys er enghraifft unrhyw anrhegion, benthyciadau neu werthiannau.
Golyga hyn nad yw’n bosibl i uned gyfrifyddu roi rhodd i’r blaid ganolog. Yn hytrach, byddai hyn yn cael ei ystyried fel y blaid yn symud ei hasedau o gwmpas yn fewnol fyddai hyn.
Yn yr un modd, os yw uned gyfrifyddu yn darparu neu’n trosglwyddo rhywbeth i’r blaid ganolog i'w ddefnyddio yn yr ymgyrch, nid yw hyn yn wariant tybiannol. Y rheswm am hyn yw, gan fod yr uned gyfrifyddu yn rhan o’r blaid, ni all ddarparu na throsglwyddo unrhyw beth nad yw’r blaid eisoes yn berchen arno.
Yn y sefyllfa hon, byddai’r blaid ganolog yn defnyddio rhywbeth y mae eisoes yn berchen arno. Felly, os dyma’r tro cyntaf i blaid ei ddefnyddio, byddai’r gwariant yn cyfrif fel gwariant plaid yn yr etholiad hwn - gweler Defnyddio eitemau.
Er enghraifft, mae gan uned gyfrifyddu lawer iawn o bapur dros ben y mae’n ei roi i’r blaid ganolog i’w ddefnyddio ar gyfer argraffu taflenni. Gan fod y papur eisoes yn eiddo i'r blaid, nid rhodd yw hyn. Rhaid i’r gwariant ar y papur ymddangos yn y ffurflen blaid, a chan ei fod yn werth mwy na £200, rhaid cynnwys yr anfoneb am y papur a brynwyd gan yr uned gyfrifyddu hefyd.
- 1. Adran 24(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 25 PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 75 a 76 PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 72(4)(a)(ii) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 72(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 76(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
Treuliau personol ymgeiswyr
Mae gwariant ar hyrwyddo ymgeiswyr rhestr plaid yn cyfrif tuag at derfyn gwariant ymgyrch y blaid a rhaid i’r blaid adrodd amdano.
Gall ymgeiswyr sy’n sefyll ar restr plaid ysgwyddo treuliau personol. Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau byw a theithio rhesymol yr ymgeisydd at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas â’r etholiad.1 Yr unig adeg y bydd y treuliau hyn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid yw os bydd y blaid yn ad-dalu’r ymgeisydd am y treuliau personol.
Mae treuliau personol yn adroddadwy drwy gydol y cyfnod a reoleiddir. Unwaith y byddant yn ymgeisydd swyddogol, dim ond hyd at £900 y gall ymgeiswyr ei wario ar dreuliau personol. Rhaid i unrhyw dreuliau personol ychwanegol gael eu talu gan drysorydd y blaid.2 Nid oes terfyn ar faint y gall ymgeiswyr ei dalu am dreuliau personol cyn iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Rhaid i ymgeiswyr ar restr plaid gyflwyno datganiad i'r Swyddog Canlyniadau i roi gwybod am gyfanswm y treuliau personol a dalwyd ganddynt yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganiad hwn yw o fewn 35 diwrnod i gyhoeddi canlyniad yr etholiad.3 Ni ddylai'r ymgeisydd gynnwys unrhyw dreuliau personol a dalwyd neu a ad-dalwyd gan y blaid yn y datganiad.4
Am ragor o wybodaeth, gweler y Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid.
- 1. Erthygl 37(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 45(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 56(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 56(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant?
Gwariant ar ymgyrch yw’r swm y mae’r blaid yn ei wario ar weithgareddau penodol i hyrwyddo ei hun neu ei hymgeiswyr, neu i feirniadu pleidiau eraill, yn ystod y cyfnod a reoleiddir.1
Bydd gwariant ar ymgyrch plaid hefyd yn cynnwys gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeiswyr. Rhaid i’r blaid awdurdodi gwariant a ysgwyddir gan ymgeiswyr rhestr plaid.2
Mae gwariant ar ymgyrch yn cynnwys unrhyw eitemau neu wasanaethau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, gan gynnwys:
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddiwyd yn ei ystod3
- eitemau neu wasanaethau a roddwyd i’r blaid am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o dros 10% ac yna’n cael eu defnyddio yn eich ymgyrch (gweler Gwariant tybiannol)4
Rhaid i holl wariant y blaid gael ei adrodd i’r Comisiwn Etholiadol ar ôl yr etholiad.5
Mae gweithgareddau sydd wedi’u cynnwys yn y gwariant ar ymgyrch yn cynnwys:6
- darllediadau gwleidyddol plaid, os oes gan eich plaid hawl i un
- hysbyseb plaid o unrhyw fath. Er enghraifft, baneri stryd, gwefannau neu fideos YouTube
- deunydd digymell a anfonwyd at bleidleiswyr ynghylch y blaid. Er enghraifft, costau cynhyrchu’r anerchiadau etholiadol a'r llythyrau neu daflenni a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
- y maniffesto ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n nodi polisïau eich plaid
- ymchwil i'r farchnad neu ddulliau eraill o ganfod pa blaid y mae pobl yn bwriadu pleidleisio drosti (fodd bynnag, lle mae’r ymchwil yn cynnwys ymgeiswyr a nodwyd, gall fod yn wariant ymgeisydd)
- cynadleddau gwasg plaid neu gysylltiadau eraill â'r cyfryngau
- trafnidiaeth o ran hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i’ch plaid
- digwyddiadau neu ralïau plaid, gan gynnwys cost presenoldeb pobl, ac unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir
Pa gostau sydd wedi’u cynnwys?
Rhaid i chi gynnwys unrhyw gostau perthnasol sy’n gysylltiedig â phob gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych chi’n cynhyrchu taflenni neu’n hysbysebu, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu. Rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw gostau gweinyddol neu orbenion sy’n gysylltiedig â phob gweithgaredd.
Mae canllawiau ar y costau perthnasol sy’n gysylltiedig â phob gweithgaredd wedi’u cynnwys yn yr adrannau canlynol. Nid yw’n rhestr gynhwysfawr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch costau gorbenion penodol, cysylltwch â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 72, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 75 a 76 PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 79(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 73 PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 80 PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 8, para.1 PPERA ↩ Back to content at footnote 6
Gorbenion cyffredinol a chostau cysylltiedig
Pan ysgwyddir gorbenion perthnasol a chostau cysylltiedig, y swm sy’n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’n rhesymol y defnydd yn ystod yr ymgyrch. Y gyfran honno sydd rhaid ei chynnwys yn y ffurflen ac sy’n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.1
Mae hyn yn berthnasol i eitemau fel:
- swyddfeydd
- ardrethi busnes
- biliau trydan
- darparu llinellau ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
- darparu cyfarpar swyddfa o unrhyw fath
Yn gyffredinol, y gyfran sy’n adlewyrchu defnydd yn rhesymol yw’r swm a ysgwyddir y tu hwnt i’r costau arferol o fewn cyfnod penodol.
Er enghraifft, mae plaid yn talu swm safonol pob mis am drydan. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, mae’n ysgwyddo swm ychwanegol sy’n uwch na’r hyn fyddai’n ei dalu fel arfer. Y swm ychwanegol yw’r swm y mae’n rhaid adrodd amdano yn y ffurflen.
Er enghraifft, mae gan blaid gontract ar gyfer band eang am swm penodol pob mis. Er bod y blaid yn defnyddio band eang yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae’r pris yn aros yr un fath â’r arfer. Felly, nid oes angen adrodd am unrhyw wariant yn y ffurflen.
TAW
Os ydych chi wedi talu TAW ar eitem, rhaid i chi gynnwys hwn wrth adrodd am gostau’r eitem yn eich ffurflen. Rhaid i chi gynnwys TAW hyd yn oed os gellir ei adennill fel traul busnes.
Efallai na fydd anfonebau ar gyfer taliadau a wnaed i gwmnïau tramor yn cynnwys TAW bob amser. Os ydych chi wedi talu TAW, dylech gynnwys hwn fel rhan o gost yr eitem wrth adrodd, hyd yn oes nad yw TAW wedi’i gynnwys ar yr anfoneb.
Er enghraifft, rydych yn talu i ddeunydd digidol gael ei gyhoeddi fel hysbyseb ar blatfform cyfryngau cymdeithasol a leolir dramor. Rydych yn talu TAW ar yr hysbysebion, ond nid yw eich anfoneb yn cynnwys TAW. Rhaid i chi gynnwys y TAW a daloch wrth adrodd am gostau’r hysbysebion yn eich ffurflen.
Pa gostau nad ydynt wedi’u cynnwys?
Nid oes angen adrodd am gostau dŵr, nwy, treth y cyngor a gofal plant. Ni ystyrir bod ganddynt gysylltiad digon agos â gweithgareddau ymgyrch a reoleiddir.
- 1. Adran 79, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Darllediadau gwleidyddol pleidiau
Os oes gennych chi hawl i ddarllediad gwleidyddol plaid, rhaid i chi gynnwys costau cynhyrchu fel gwariant ar ymgyrch. Nid oes angen i chi gynnwys gwerth yr amser ar yr awyr.
Rhaid i chi gynnwys cost defnyddio, neu logi, unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu’r cynnwys neu i ddarlledu’r cynnwys.
Gorbenion a chostau cysylltiedig
Mae’n cynnwys cost unrhyw feddalwedd o unrhyw fath a ddefnyddir ar unrhyw ddyfais ar gyfer dylunio a chynhyrchu deunyddiau yn fewnol.
Er enghraifft, ffi drwyddedu ar gyfer rhaglen feddalwedd i’w defnyddio i ddylunio cynnwys darlledu.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar ar gyfer paratoi, cynhyrchu, hwyluso cynhyrchiad neu ddarlledu’r cynnwys.
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso cynhyrchiad a/neu ddarlledu’r cynnwys.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â darlledu ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.
Hysbysebu
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso cynhyrchu deunydd hysbysebu
- dosbarthu neu hwyluso’r gwaith o rannu’r deunydd hysbysebu hwnnw gan ddefnyddio unrhyw ddull, gan gynnwys unrhyw gostau a briodolir i gynyddu gwelededd cynnwys mewn unrhyw ffordd.
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safleoedd i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysebu.
Er enghraifft, prynu safle mwy amlwg ar dudalen o fewn peiriant chwilio.
Mae’n cynnwys cost unrhyw feddalwedd, o unrhyw fath, i’w defnyddio ar unrhyw ddyfais er mwyn:
- dylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- rhannu neu hwyluso’r gwaith o ddosbarthu deunydd hysbysebu
boed y deunydd hwnnw’n cael ei ddosbarthu’n ddigidol, yn electronig neu mewn unrhyw ffordd arall.
Er enghraifft, ffi drwyddedu ar gyfer rhaglen feddalwedd i’w defnyddio ar ddyfais.
Mae’n cynnwys y gost o baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu deunydd hysbysebu ar gyfer:
- ei lawrlwytho a'i ddefnyddio gan eraill
- postio am y blaid, a’i hyrwyddo, drwy unrhyw fath o blatfform neu sianel cyfryngau cymdeithasol
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu i hyrwyddo’r blaid a bostir ar dudalen cyfryngau cymdeithasol i annog dilynwyr i'w rannu.
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n:
- hwyluso dosbarthu neu rannu deunydd hysbysebu mewn unrhyw ffordd
- hwyluso neu gynyddu gwelededd deunydd hysbysebu mewn unrhyw ffordd
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir er mwyn gwneud i ddeunydd ymddangos fel pe bai wedi cael ei weld a’i gymeradwyo gan nifer fawr o ddefnyddwyr ar blatfform cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy’n hyrwyddo’r blaid
- dylunio a chreu’r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy’n cael ei sefydlu er mwyn sicrhau arian ar gyfer y blaid ond sydd hefyd yn hyrwyddo’r blaid yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Mae’n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso cynhyrchu’r deunydd hysbysebu
- rhannu deunydd hysbysebu drwy ddosbarthu neu drwy unrhyw fodd arall
Mae’n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y caiff deunydd hysbysebu ei argraffu arno
- arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft rhwymyn cebl neu lud ar gyfer gosod posteri
Mae’n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
i'w defnyddio wrth argraffu deunydd hysbysebu.
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
mewn cysylltiad â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso cynhyrchu’r deunydd hysbysebu
- rhannu deunydd hysbysebu drwy ddosbarthu neu drwy unrhyw fodd arall
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran hysbysebu deunyddiau ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.
Deunydd y gellir ei lawrlwytho
Os ydych yn rhoi deunydd ar wefan i bobl ei argraffu ar gyfer eu defnydd personol, fel posteri ffenestr neu ffurflenni deiseb, mae’r costau dylunio a’r costau gwefan yn cyfrif fel gwariant ar ymgyrch. Nid oes rhaid i chi gyfrif costau argraffu pobl yn erbyn eich terfyn gwariant, gan y bydd y costau yn isel iawn.
Os yw’r deunydd yn gallu cael ei argraffu a’i ddosbarthu i bleidleiswyr -er enghraifft taflen - bydd angen i chi nodi’r glir sut yr ydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio. Os ydych yn awdurdodi defnydd ehangach o’r deunydd, mae’n bosibl y bydd y costau yn cyfrif fel gwariant ar ymgyrch, pwy bynnag sy’n gwneud yr argraffu.
Deunydd digymell a anfonir at etholwyr
Costau sy’n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu adnabod pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data cyswllt
- unrhyw wybodaeth, drwy ba bynnag ffordd
a ddefnyddir i hwyluso’r broses o anfon deunydd digymell i bleidleiswyr.
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost.
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddi data i dargedu pleidleiswyr drwy ba bynnag ffordd, gan gynnwys cost meddalwedd, asiantaethau, sefydliadau neu eraill sy’n adnabod grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba bynnag ffordd.
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a delir i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso targedu pleidleiswyr ar draws ardaloedd etholiadol a chost modelu gan unrhyw asiantaeth yn seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
Mae’n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i adnabod pleidleiswyr sy’n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond sy’n cael eu defnyddio i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Pan geir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, mae'r gost fasnachol o gael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi’i chynnwys.
Costau sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso cynhyrchu deunydd hysbysebu digymell
- rhannu’r deunydd digymell drwy ddosbarthu neu drwy ddull arall, gan gynnwys unrhyw gost a briodolir i gynyddu gwelededd deunydd mewn unrhyw ffordd.
Mae’n cynnwys y gost o ddanfon deunydd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu deunyddiau yn ffisegol, er enghraifft cost amlenni a stampiau neu gost prynu system i anfon e-byst.
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy’n hyrwyddo neu’n cynyddu gwelededd unrhyw ddeunydd digymell ar unrhyw blatfform.
Er enghraifft, taliad i ddatblygwr greu ap sy’n hwyluso’r gwaith o dargedu deunydd y blaid ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n cynnwys y gost o oruchwylio a chynnal yr holl gyfryngau cymdeithasol, cyfryngau digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal yr holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan endid/unigolyn arall.
Anerchiad etholiadol
Mae gan swyddog enwebu pob plaid yr hawl i gostau postio am ddim i anfon dau anerchiad etholiadol at bleidleiswyr yn yr etholaeth. Rhaid i’r anerchiad gynnwys materion sy’n gysylltiedig â’r etholiad yn unig.1
Rhaid adrodd am gostau cynhyrchu’r anerchiadau etholiadol hyn fel gwariant plaid.
Costau eraill sydd wedi’u cynnwys
Mae’n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.
Mae’n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y caiff deunydd digymell ei argraffu arno.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu’r deunydd digymell
- rhannu deunydd digymell drwy ddosbarthu neu drwy unrhyw fodd arall
Mae’n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
i'w defnyddio i argraffu deunydd digymell.
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
- sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, rhannu a dosbarthu deunydd digymell.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â deunydd digymell ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.
Costau nad ydynt wedi’u cynnwys
Nid yw’n cynnwys unrhyw gost sy’n gysylltiedig â chael data fel y caniateir dan unrhyw statud neu reoliad.
Er enghraifft, mae gan bleidiau gwleidyddol yr hawl i gopi o’r gofrestr etholiadol yn ôl rheoliad 102 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001. Nid oes angen cyfrifo am unrhyw wariant tybiannol o ran defnyddio cofrestr o’r fath.
- 1. Erthygl 67, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
Eich maniffesto a dogfennau eraill sy’n nodi polisïau eich plaid
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu unrhyw faniffesto neu ddogfen arall
- rhannu neu ddosbarthu’r maniffesto neu ddogfen arall, mewn unrhyw ffordd
gan gynnwys unrhyw gostau a briodolir i gynyddu gwelededd cynnwys mewn unrhyw fodd.
Er enghraifft, prynu safle mwy amlwg ar dudalen o fewn peiriant chwilio.
Mae’n cynnwys y gost o lunio’r maniffesto neu ddogfen arall sydd ar gael ar ffurf electronig neu ffisegol a phob dull o’i rhannu.
Mae’n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu maniffesto neu ddogfen arall.
Mae’n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y caiff deunydd digymell ei argraffu arno.
Costau cyfarpar
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu maniffesto neu ddogfen arall
- rhannu maniffesto neu ddogfen arall drwy ddosbarthu neu drwy unrhyw fodd arall
Mae hyn yn cynnwys cost prynu, neu logi:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
i'w defnyddio i argraffu’r maniffesto neu ddogfen arall.
Costau cysylltiedig
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig ag unrhyw gostau mewnol ar gyfer dylunio’r maniffesto neu ddogfen arall ac ar gyfer ei gynhyrchu a’i rannu.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran y maniffesto neu ddogfen arall ar gyfer y blaid, lle delir neu ad-delir hynny gan y blaid.
Ymchwil marchnad neu ganfasio
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o ganfasio neu ymchwil marchnad
- cynnal neu gydlynu canfasio neu ymchwil marchnad
- cofnodi neu ddadansoddi neu fel arall defnyddio canlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgaredd canfasio
Er enghraifft, cost defnyddio banc ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu sgriptiau at ddefnydd gweithwyr banciau ffôn a ddyluniwyd i ddylanwadu ar bleidleiswyr.
Costau cael neu gynnal data
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data cyswllt
- setiau data, gan gynnwys y defnydd o ddadansoddiadau data
i hwyluso neu ymgymryd ag ymchwil marchnad neu ganfasio.
Er enghraifft, mae’n cynnwys y gost o ymgymryd â gwrando ar gyfryngau cymdeithasol a dadansoddi’r canlyniad i ddeall bwriad pleidleiswyr. Mae’n cynnwys costau a ysgwyddir cyn y cyfnod a reoleiddir lle caiff y data wedyn ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Costau eraill sydd wedi’u cynnwys
Mae’n cynnwys cost unrhyw bryniant a defnyddio unrhyw gyfarpar sy’n angenrheidiol i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o ganfasio neu ymchwil marchnad
- cynnal neu gydlynu canfasio neu ymchwil marchnad
- cofnodi neu ddadansoddi neu fel arall defnyddio canlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgaredd canfasio
Er enghraifft:
- gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio
- ap canfasio
- ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan yr arweinydd/cydlynydd canfasio
lle telir neu ad-delir costau’r cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig gan y blaid neu drydydd parti.
Mae’n cynnwys cost cyfran berthnasol o:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig ag ymchwil marchnad neu ganfasio.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran ymchwil marchnad neu ganfasio ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.
Cynadleddau i’r wasg neu gysylltiadau eraill â’r cyfryngau
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i baratoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau i’r wasg neu gysylltiadau eraill â’r cyfryngau.
Mae’n cynnwys cost tanysgrifiadau neu feddalwedd cyfryngau neu feddalwedd gwasg arbenigol.
Mae’n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth baratoi, cynhyrchu, neu hwyluso’r gwaith o gynnal cynadleddau i’r wasg neu gysylltiadau eraill gyda'r cyfryngau.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar sy’n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu, hwyluso neu gynnal cynadleddau’r wasg neu gysylltiadau eraill â’r cyfryngau.
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- tryda
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig â delio gyda’r cyfryngau, megis cydlynu cynadleddau’r wasg neu weithgarwch cyfryngau, neu ddrafftio datganiadau i’r wasg, neu unrhyw weithgareddau eraill sy’n berthnasol i’r cyfryngau, gan gynnwys lle mae gan blaid gyfleusterau gwasg eisoes ar ei safleoedd.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran cynadleddau i’r wasg neu gysylltiadau eraill â’r cyfryngau, ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir am hynny gan y blaid.
Trafnidiaeth o ran hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i’ch plaid
Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae’n cynnwys cost cludo:
- gwirfoddolwyr
- aelodau’r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
- ymgyrchwyr eraill
o amgylch yr ardal etholiadol, neu i’r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
- tocynnau ar gyfer unrhyw drafnidiaeth, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
- llogi unrhyw drafnidiaeth
- tanwydd neu drydan ar gyfer unrhyw drafnidiaeth
- parcio ar gyfer unrhyw drafnidiaeth
lle maent yn ymgymryd ag ymgyrchu ar ran y blaid.
Mae’n cynnwys cost trafnidiaeth sy’n cael ei thalu gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall a delir neu ad-delir gan y blaid wleidyddol neu drydydd parti, lle roedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â'r ymgyrch ar gyfer y blaid.
Costau eraill sydd wedi’u cynnwys
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi, unrhyw gerbyd neu ddull arall o drafnidiaeth sy’n arddangos deunydd i hyrwyddo’r blaid, gan gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â:
- dylunio a chymhwyso’r dyluniad i’r cerbyd neu’r dull trafnidiaeth
- teithio rhwng ardaloedd etholiadol
- teithio o gwmpas ardal etholiadol
- ffioedd parcio lle caiff cerbyd ei ddefnyddio i arddangos deunydd
Mae’n cynnwys cyfran o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
pan mae’r rhain yn gysylltiedig â chynllunio, archebu neu ddefnyddio trafnidiaeth o unrhyw fath, neu pan mae cerbyd neu ddull trafnidiaeth yn cael ei baratoi at ddefnydd mewn ardaloedd etholiadol. Er enghraifft, cost dylunio a chymhwyso’r dyluniad sy’n hyrwyddo’r blaid ar ochr bws.
Mae’n cynnwys yr holl gostau trafnidiaeth sy’n gysylltiedig â materion gwariant eraill. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.
Ralïau a digwyddiadau
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleoedd neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir wrth:
- hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
- cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo’r blaid
- ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiadau arall yn fyw mewn unrhyw ffordd
Mae’n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu’r digwyddiad, mewn unrhyw ffordd.
Mae'n cynnwys cost unrhyw ddigwyddiad a gynhelir drwy ddolen o unrhyw fath neu sy’n cael ei ffrydio neu ei ddarlledu’n fyw, lle mae’r digwyddiad yn agored i gael ei weld gan ddefnyddwyr sianel neu blatfform neu drwy unrhyw ffordd arall.
Mae’n cynnwys y gost o ddarparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft y gost o logi seddi.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
- chynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo’r blai
- ffrydio neu ddarlledu cyfarfod cyhoeddus yn fyw mewn unrhyw ffordd
Costau cysylltiedig
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig â:
- hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
- cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo’r blaid
- ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiadau arall yn fyw mewn unrhyw ffordd
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran:
- hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
- cynnal rali neu ddigwyddiad i hyrwyddo’r blaid
- ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiadau arall yn fyw mewn unrhyw ffordd
Costau nad ydynt wedi’u cynnwys
Nid yw’n cynnwys costau cynhadledd eich plaid.1
- 1. Atodlen 8, paragraff 1(8), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Beth sydd ddim yn cael eu cynnwys fel gwariant?
Y gweithgareddau nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn gwariant ar ymgyrch yw:
- cylchlythyrau lleol ynghylch cynrychiolwyr etholedig neu ddarpar ymgeiswyr1
- deunydd a anfonir at eich aelodau'n unig2
- treuliau a delir o gronfeydd cyhoeddus. Er enghraifft, cymorth ariannol a ddarperir gan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru i gefnogi ymgeiswyr anabl, neu gostau diogelwch ar gyfer ymweliadau VIP3
- costau rhesymol sy’n gysylltiedig ag anabledd ymgeisydd rhestr plaid4
- costau staff parhaol, cyfnod penodol neu dros dro, lle mae gan yr aelod staff gytundeb cyflogaeth uniongyrchol â’r blaid5
- treuliau rhesymol sy’n gysylltiedig ag amddiffyn pobl neu eiddo, er enghraifft llogi cwmni diogelwch, defnyddio Blwch Post i osgoi cyhoeddi cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrth-feirws i amddiffyn cyfrifiaduron ymgyrch6
- costau sy’n gysylltiedig â chyfieithu unrhyw beth o Saesneg i Gymraeg neu o Gymraeg i Saesneg7
- amser gwirfoddolwyr8
- costau teithio, bwyd a llety pobl wrth iddynt ymgyrchu, oni bai eich bod yn eu had-dalu9
- costau rhedeg swyddfa, ar wahân i gostau sy’n uwch na’r arfer oherwydd ymgyrchu, fel biliau ffôn
- cynadleddau plaid10
- unrhyw beth y mae ymgeisydd yn ei ddatgan yn briodol ar ei ffurflen gwariant11
- unrhyw beth y mae ymgyrchwr deiseb adalw cofrestredig yn datgan yn gywir ar ei ffurflen wariant12
- ernesau ymgeiswyr rhestr plaid
- costau postio o ran yr anerchiad etholiad am ddim sy’n hyrwyddo’r blaid neu ymgeiswyr rhestr plaid
Amser gwirfoddolwyr
Weithiau, efallai na fyddwch yn siŵr os yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylai ei amser gael ei ystyried fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai ei fod yn cynnig gwasanaethau proffesiynol tebyg i’r rhai y mae’n eu gwneud i chi.
Bydd yn wirfoddolwr os:
- nad yw ei gyflogwr yn ei dalu am yr amser y mae’n ei dreulio ar eich ymgyrch chi, neu
- os yw’n defnyddio ei wyliau blynyddol, neu
- os yw’n hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa o unrhyw yswiriannau proffesiynol sydd ganddo
Os yw’n defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, dylech ystyried a yw ei ddefnydd yn wariant tybiannol.
- 1. Atodlen 8, paragraff 2(1)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 8, paragraff 2(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 8, paragraff 2(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 8, para. 2(1)(f)(i) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 8, para. 2(1)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 8, para. 2(1)(ea) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 8, para. 2(1)(f)(ii) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 73(9)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 8, para. 2(1)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 8, para. 1(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Adran 72(7)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Adran 72(7)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 12
Defnyddio eitemau
Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.1
Mae hyn yn cynnwys eitemau a brynwyd ac a dalwyd amdanynt cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod.
Dylech sicrhau eich bod yn cadw’r derbynebau ar gyfer unrhyw beth sy’n costio mwy na £200 y mae posibilrwydd i chi ei ddefnyddio'n hwyrach ymlaen mewn cyfnod a reoleiddir, oherwydd bydd angen i chi ei gynnwys yn eich ffurflen wariant.
Eitemau na chânt eu defnyddio
Nid oes angen i chi adrodd am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft os na chaiff taflenni eu dosbarthu) ac nid yw hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Dylech gadw’r deunydd nas defnyddiwyd neu ddangos tystiolaeth ei fod wedi'i ddinistrio.
Os byddwch yn defnyddio’r eitemau dros ben mewn etholiad diweddarach, rhaid i chi roi gwybod am wariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw.
Ailddefnyddio eitemau
Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio am y tro cyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol.
Os byddwch yn ailddefnyddio eitem mewn etholiad dilynol, nid oes rhaid i chi adrodd am y taliad gwreiddiol am yr eilwaith. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau.
- 1. Adran 79(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Gwariant tybiannol
Weithiau, efallai y byddwch yn defnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu’n rhaid i chi wario arian arno, oherwydd ei fod wedi ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am ostyngiad anfasnachol.
Er enghraifft, gallai hyn fod oherwydd bod y cyflenwr yn cefnogi eich ymgyrch.
Mae rhai enghreifftiau o rodd mewn da yn cynnwys:
- lle mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
- argraffu
- darparu bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr
Pan mae hyn yn digwydd, mae gwerth masnachol llawn o’r hyn a ddefnyddiwyd gennych yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid adrodd arno.1
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Mae’n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem (h.y. nwyddau, cyfleuster neu wasanaeth) gyfrif fel gwariant tybiannol:
- ei bod yn cael ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i’w defnyddio gennych chi neu er eich budd chi
- rydych yn derbyn yr eitem am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%
- mae’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a’r hyn rydych chi’n ei dalu dros £200
- mae'r eitem yn cael ei defnyddio gan y blaid neu ar ei rhan
- byddai wedi bod yn wariant ymgyrch pe byddech chi wedi ysgwyddo’r gwariant (gweler Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant?)
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r blaid os yw’n fwy na £500, a rhaid adrodd amdano ar wahân. Gweler ein canllawiau ar ragor o wybodaeth am roddion i bleidiau gwleidyddol.
Os byddwch yn derbyn eitemau am ddim, yna mae’n rhaid i chi gofnodi gwerth marchnad llawn yr eitem os yw’n fwy na £200.
Os byddwch yn derbyn eitemau am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% ac mae’r gwahaniaeth mewn gwerth yn fwy na £200, rhaid i chi gynnwys gwerth y gwariant fel gwariant tybiannol. Rhaid i'r swm rydych yn ei dalu mewn gwirionedd gael ei gynnwys fel gwariant plaid arferol.
Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol
Dim ond i ostyngiadau anfasnachol sy’n ostyngiadau arbennig a roddwyd i chi, yn benodol, gan gyflenwyr, mae gwariant tybiannol yn berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored.
Mae’r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, fel gostyngiadau ar gyfer archebion mawr neu ostyngiadau tymhorol. Ni fydd eitemau, nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu prynu gyda gostyngiadau masnachol yn cael eu trin fel gwariant tybiannol.
Defnydd gan y blaid neu ar ei rhan
Os ydych yn cael eitem ond nid ydych yn ei defnyddio, bydd hon yn parhau i fod yn rhodd os yw’r gwerth dros £500, ond ni fydd yn wariant tybiannol.2
Yr unig adeg y mae person yn gwneud defnydd o rywbeth ar ran plaid wleidyddol yw pan mae’r defnydd hwnnw wedi’i gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan y blaid, y person cyfrifol, neu un o’i ddirprwyon.3
Prisio gwariant tybiannol
Os yw’r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae’n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Os nad yw’r wybodaeth hon ar gael, dylech ganfod faint mae darparwyr tebyg yn ei godi am yr un nwyddau neu wasanaethau a defnyddio hwn fel y gwerth masnachol.
Dylech gadw cofnod o sut y gwnaethoch chi bennu'ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a dderbynioch.
Dylai’r gwerth rydych yn ei ddatgan ar eich ffurflen wariant fod yn asesiad gonest a rhesymol o’r gwerth masnachol.
Er enghraifft, darperir swyddfa i chi gynnal eich ymgyrch ohoni am ddim, ac rydych yn ei defnyddio am bedwar mis o’r cyfnod a reoleiddir.
Byddech yn cyfrifo ac yn adrodd y gwariant tybiannol fel y nodir isod:
Cyfradd fasnachol ar gyfer rhent misol: £1,200
Gwerth masnachol pedwar mis o rent: £1,200 x 4 = £4,800
Gwariant tybiannol i'w adrodd: £4,800
Gweler yma am ganllawiau ar brisio rhodd: Sut ydych chi’n cyfrifo gwerth rhodd?
Staff ar secondiad
Os yw cyflogwr yn rhoi aelod staff ar secondiad i’ch ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel y gwerth tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau pensiwn nac yswiriant gwladol y cyflogwr.4
- 1. Adran 73, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 4 PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 73(1A) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 73(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Gwahanu gwariant
Y rhesymau posibl dros wahanu gwariant
Efallai y bydd angen i chi wahanu eich costau rhwng gweithgareddau a deunyddiau sy’n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch a’r rhai nad ydynt yn cyfrif.
Dyma ddwy enghraifft gyffredin o bryd mae angen i chi wahanu gwariant:
- os ydych chi’n defnyddio eich swyddfa fel lleoliad i ganfasio dros y ffôn, bydd angen i chi rannu’r bil ffôn rhwng galwadau canfasio, a galwadau a wnaed at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â’r ymgyrch
- os ydych chi’n dylunio gwaith ar gyfer ymgyrchu cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ac yn parhau i’w ddefnyddio ar ôl iddo ddechrau, bydd angen i chi rannu’r costau dylunio rhwng y ddau gyfnod
Er enghraifft, rydych yn comisiynu gwaith dylunio ar gyfer logo ymgyrch ar gyfer eich plaid yr ydych yn ei ddefnyddio ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol eraill ac ar eich holl ddeunydd ymgyrch am fis cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir ac yn ystod 4 mis y cyfnod a reoleiddir.
Dylech rannu cost y dyluniad yn gyfartal ar draws yr holl gyfnod yr ydych yn ei ddefnyddio yn y ffordd hon.
Costiodd y gwaith dylunio £15,000, a defnyddiwyd y gwaith gennych dros gyfnod o 5 mis, y gost fesul mis yw £15,000 ÷ 5 = £3,000 y mis.
Roedd y cyfnod a reoleiddir yn cynnwys y 4 mis diwethaf, felly cost y gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw:
4 x £3,000 = £12,000
Rhaid i £12,000 gael ei gofnodi fel gwariant ar ymgyrch plaid
Yr egwyddor asesiad gonest
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli’n deg i’ch ymgyrch.
Weithiau, gall fod yn anodd gwneud rhaniad union. Er enghraifft, efallai y bydd eich bil ffôn yn darparu manylion am gostau galwadau sydd dros werth penodol yn unig.
Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest o’r wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu’r bil ag un nad yw’n cynnwys cyfnod a reoleiddir.
Os ydych dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyngor.
Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen wariant, mae’n rhaid i chi ddatgan bod eich ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred.1 Mae’r datganiad hwn yn cynnwys unrhyw asesiadau rydych chi wedi eu gwneud ynghylch gwahanu gwariant.
Mae gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu yn fyrbwyll yn drosedd.2
- 1. Adran 83, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 83(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau
Mae terfynau amser y mae’n rhaid i’r person cyfrifol dderbyn a thalu’r holl anfonebau ar gyfer eich gwariant ymgyrch.
Derbyn anfonebau gan gyflenwyr
Rhaid i chi gael eich holl anfonebau gwariant ar ymgyrch gan gyflenwyr cyn pen 30 diwrnod o’r etholiad.1 Gan fod y dyddiad hwn yn disgyn ar benwythnos, caiff ei symud i’r diwrnod gwaith nesaf.2
Y diwrnod olaf i dderbyn anfonebau gan eich cyflenwyr yw Dydd Llun 8 Mehefin 2026.
Gelwir anfonebau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn hawliadau heb eu talu at ddibenion adrodd. Rhaid i chi gofnodi hawliadau heb eu talu yn eich ffurflen wariant.
Ni ddylech dalu hawliadau heb eu talu oni bai bod gorchymyn llys sy’n eich galluogi chi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd i dalu ac mae modd ei geisio gennych chi neu’r cyflenwr sy’n gwneud cais i’r llys perthnasol cyn y taliad.3
Talu anfonebau gan gyflenwyr
Rhaid i chi dalu eich holl anfonebau gan gyflenwr cyn pen 60 diwrnod o’r etholiad. Y diwrnod olaf i dalu anfonebau yw dydd Llun 6 Gorffennaf 2026.
Gelwir anfonebau a dderbynnir ar amser ond sy'n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad cau hwn yn hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch. Rhaid i chi gofnodi hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch yn eich ffurflen wariant.
Ni ddylech dalu hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch oni bai bod gorchymyn llys sy’n eich galluogi chi i wneud hynny. Gelwir hyn yn ganiatâd talu ac mae modd ei geisio gennych chi drwy wneud cais i’r llys perthnasol cyn y taliad. Gall cyflenwyr hefyd wneud cais i’r llys perthnasol i gael dyfarniad neu orchymyn llys am daliad.4
Gorfodaeth
Efallai y byddwn yn cyhoeddi sancsiwn sifil am dorri’r rheolau hyn.
Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn ystyried cymryd camau gorfodi i fod yn gymesur pan mae’r oedi neu’r swm yn fach.
Mae penderfyniadau terfynol ar erlyniad am dderbyn a thalu anfonebau yn hwyr yn cael eu gwneud gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
- 1. Adran 77(1), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 77(9) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 77(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 78(2) a (3) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Eich ffurflen wariant
Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy’n cymryd rhan yn yr etholiad roi gwybod i ni am fanylion eu gwariant ar ymgyrch ar ôl yr etholiad.1
Rhaid i chi gofnodi eich holl wariant ar ymgyrch. Bydd angen i chi anfon y wybodaeth hon atom yn eich ffurflen wariant ar ôl yr etholiad.
Mae’n rhaid i’r holl gostau gynnwys TAW, hyd yn oed os nad yw TAW wedi’i nodi ar yr anfoneb, neu os ydych chi’n gallu hawlio taliadau TAW.
Rydym yn darparu ffurflen dempled i chi ei defnyddio i’ch helpu i gadw cofnodion a chwblhau eich ffurflen dreth. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ein templed i sicrhau eich bod yn darparu’r manylion sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod a’i chyflwyno i ni wedi’i chwblhau trwy e-bostio [email protected]. Fel arall gallwch anfon y ffurflen atom drwy’r post.
Fel arall, gallwch gyflwyno’ch ffurflen ar CPE Ar-lein.
Os ydych chi’n postio’ch ffurflen dreth, rydym yn argymell eich bod chi’n ei phostio mewn pryd i gyrraedd dim hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau.
Yr hyn sydd angen i chi ei gofnodi
Dylech gofnodi’r wybodaeth ganlynol i’w rhoi ar eich ffurflen wariant:
- ar gyfer beth oedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu2
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- ar gyfer taliad a wnaed, y swm
- ar gyfer gwariant tybiannol, y gwerth3
- y dyddiad y cafodd yr arian ei wario gennych
- unrhyw anfonebau nas derbyniwyd erbyn y dyddiad cau (hawliadau heb eu talu)4
- unrhyw daliadau nas talwyd erbyn y dyddiad cau (hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch)5
Rhaid i chi hefyd gynnwys anfonebau neu dderbynebau am unrhyw daliadau dros £200.6
Nid yw anfonebau yn ofynnol ar gyfer gwariant tybiannol, gan nad yw’n daliad, ond yn hytrach gwerth rhywbeth sydd wedi’i ddarparu. Mae cynnwys tystiolaeth o sut rydych wedi cyfrifo’r gwerth yn arfer dda.
Rhaid i’r ffurflen gael ei hategu gyda datganiad gan y person cyfrifol i ddweud bod y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn. Mae gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu yn fyrbwyll yn drosedd.7
Gallwch adrodd am eich gwariant ar ymgyrchu drwy PEF Ar-lein.
Rydym hefyd yn cynhyrchu ffurflenni a nodiadau esboniadol y gallwch eu defnyddio i wneud hyn. Maent yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Rhoddion a benthyciadau
Adroddir am roddion a benthyciadau gan bleidiau yn chwarterol pan maent yn mynd tu hwnt i drothwy penodol neu nad ydynt yn cael eu caniatáu.
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol i bleidiau adrodd am roddion a benthyciadau yn etholiad y Senedd.
Bydd rhoddion a benthyciadau a roddir i helpu gydag ymgyrchoedd ymgeiswyr rhestr plaid yn cyfrif fel rhoddion i’r blaid.
Trysorydd cofrestredig eich plaid sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y blaid yn dilyn y gyfraith ar roddion a benthyciadau. Dylech sicrhau bod gennych systemau ar waith i asiantiaid ac ymgeiswyr rhestr plaid ddarparu’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r trysorydd ynghylch y rhoddion a’r benthyciadau y maent yn eu derbyn.
Gweler ein canllawiau ar roddion a benthyciadau plaid am ragor o wybodaeth.
- 1. Atodlen 80 ac Atodlen 9, paragraff 6, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 80(3)(a) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 80(4)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 80(3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 80(3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 80(4)(a) a adran 76(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 83 PPERA ↩ Back to content at footnote 7
Dyddiadau cau i adrodd am ymgyrch
Mae’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i chi adrodd i ni yn dibynnu ar faint rydych wedi ei wario ar eich ymgyrch. Mae’r dyddiadau cau i’w gweld isod.
| Gwariant ar ymgyrch o £250K neu is | Gwariant ar ymgyrch dros £250K |
|---|---|
| Adrodd cyn pen tri mis o’r etholiad1 | Adrodd cyn pen chwe mis o’r etholiad2 |
| Dydd Gwener, 7 Awst 2026 | Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2026 |
Efallai y byddwch yn atebol i gosb os nad ydych yn cyflwyno eich ffurflen ar amser.
Os yw eich gwariant ar ymgyrch yn fwy na £250k, rhaid i chi gynnwys adroddiad archwiliwr annibynnol.3
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y ddogfen hon:
- 1. Adran 82(2), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 82(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 81 PPERA ↩ Back to content at footnote 3