Eich maniffesto a dogfennau eraill sy’n nodi polisïau eich plaid
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safleoedd neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i:
baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu unrhyw faniffesto neu ddogfen arall
rhannu neu ddosbarthu’r maniffesto neu ddogfen arall, mewn unrhyw ffordd
gan gynnwys unrhyw gostau a briodolir i gynyddu gwelededd cynnwys mewn unrhyw fodd.
Er enghraifft, prynu safle mwy amlwg ar dudalen o fewn peiriant chwilio.
Mae’n cynnwys y gost o lunio’r maniffesto neu ddogfen arall sydd ar gael ar ffurf electronig neu ffisegol a phob dull o’i rhannu.
Mae’n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu maniffesto neu ddogfen arall.
Mae’n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y caiff deunydd digymell ei argraffu arno.
Costau cyfarpar
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o gynhyrchu maniffesto neu ddogfen arall
rhannu maniffesto neu ddogfen arall drwy ddosbarthu neu drwy unrhyw fodd arall
Mae hyn yn cynnwys cost prynu, neu logi:
cyfarpar llungopïo
cyfarpar argraffu
i'w defnyddio i argraffu’r maniffesto neu ddogfen arall.
Costau cysylltiedig
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig ag unrhyw gostau mewnol ar gyfer dylunio’r maniffesto neu ddogfen arall ac ar gyfer ei gynhyrchu a’i rannu.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran y maniffesto neu ddogfen arall ar gyfer y blaid, lle delir neu ad-delir hynny gan y blaid.