| Argraffu'r canllawiau llawn

Eich ffurflen wariant

Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy’n cymryd rhan yn yr etholiad roi gwybod i ni am fanylion eu gwariant ar ymgyrch ar ôl yr etholiad.1

Rhaid i chi gofnodi eich holl wariant ar ymgyrch. Bydd angen i chi anfon y wybodaeth hon atom yn eich ffurflen wariant ar ôl yr etholiad. 

Mae’n rhaid i’r holl gostau gynnwys TAW, hyd yn oed os nad yw TAW wedi’i nodi ar yr anfoneb, neu os ydych chi’n gallu hawlio taliadau TAW.

Rydym yn darparu ffurflen dempled i chi ei defnyddio i’ch helpu i gadw cofnodion a chwblhau eich ffurflen dreth. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ein templed i sicrhau eich bod yn darparu’r manylion sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod a’i chyflwyno i ni wedi’i chwblhau trwy e-bostio [email protected]. Fel arall gallwch anfon y ffurflen atom drwy’r post.

Fel arall, gallwch gyflwyno’ch ffurflen ar CPE Ar-lein.

Os ydych chi’n postio’ch ffurflen dreth, rydym yn argymell eich bod chi’n ei phostio mewn pryd i gyrraedd dim hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau.

Yr hyn sydd angen i chi ei gofnodi

Dylech gofnodi’r wybodaeth ganlynol i’w rhoi ar eich ffurflen wariant:

  • ar gyfer beth oedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu2
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • ar gyfer taliad a wnaed, y swm
  • ar gyfer gwariant tybiannol, y gwerth3
  • y dyddiad y cafodd yr arian ei wario gennych
  • unrhyw anfonebau nas derbyniwyd erbyn y dyddiad cau (hawliadau heb eu talu)4
  • unrhyw daliadau nas talwyd erbyn y dyddiad cau (hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch)5

Rhaid i chi hefyd gynnwys anfonebau neu dderbynebau am unrhyw daliadau dros £200.6

Nid yw anfonebau yn ofynnol ar gyfer gwariant tybiannol, gan nad yw’n daliad, ond yn hytrach gwerth rhywbeth sydd wedi’i ddarparu. Mae cynnwys tystiolaeth o sut rydych wedi cyfrifo’r gwerth yn arfer dda.

Rhaid i’r ffurflen gael ei hategu gyda datganiad gan y person cyfrifol i ddweud bod y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn. Mae gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu yn fyrbwyll yn drosedd.7

Gallwch adrodd am eich gwariant ar ymgyrchu drwy PEF Ar-lein.

Rydym hefyd yn cynhyrchu ffurflenni a nodiadau esboniadol y gallwch eu defnyddio i wneud hyn. Maent yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Rhoddion a benthyciadau

Adroddir am roddion a benthyciadau gan bleidiau yn chwarterol pan maent yn mynd tu hwnt i drothwy penodol neu nad ydynt yn cael eu caniatáu.

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol i bleidiau adrodd am roddion a benthyciadau yn etholiad y Senedd.

Bydd rhoddion a benthyciadau a roddir i helpu gydag ymgyrchoedd ymgeiswyr rhestr plaid yn cyfrif fel rhoddion i’r blaid.

Trysorydd cofrestredig eich plaid sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y blaid yn dilyn y gyfraith ar roddion a benthyciadau. Dylech sicrhau bod gennych systemau ar waith i asiantiaid ac ymgeiswyr rhestr plaid ddarparu’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r trysorydd ynghylch y rhoddion a’r benthyciadau y maent yn eu derbyn.

Gweler ein canllawiau ar roddion a benthyciadau plaid am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2025