Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safleoedd neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i:
baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o ganfasio neu ymchwil marchnad
cynnal neu gydlynu canfasio neu ymchwil marchnad
cofnodi neu ddadansoddi neu fel arall defnyddio canlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgaredd canfasio
Er enghraifft, cost defnyddio banc ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu sgriptiau at ddefnydd gweithwyr banciau ffôn a ddyluniwyd i ddylanwadu ar bleidleiswyr.
Costau cael neu gynnal data
Mae’n cynnwys y gost o gyrchu, prynu, datblygu a chynnal:
meddalwedd TG neu gronfeydd data cyswllt
setiau data, gan gynnwys y defnydd o ddadansoddiadau data
i hwyluso neu ymgymryd ag ymchwil marchnad neu ganfasio.
Er enghraifft, mae’n cynnwys y gost o ymgymryd â gwrando ar gyfryngau cymdeithasol a dadansoddi’r canlyniad i ddeall bwriad pleidleiswyr. Mae’n cynnwys costau a ysgwyddir cyn y cyfnod a reoleiddir lle caiff y data wedyn ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Costau eraill sydd wedi’u cynnwys
Mae’n cynnwys cost unrhyw bryniant a defnyddio unrhyw gyfarpar sy’n angenrheidiol i:
baratoi, cynhyrchu neu hwyluso’r gwaith o ganfasio neu ymchwil marchnad
cynnal neu gydlynu canfasio neu ymchwil marchnad
cofnodi neu ddadansoddi neu fel arall defnyddio canlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgaredd canfasio
Er enghraifft:
gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio
ap canfasio
ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan yr arweinydd/cydlynydd canfasio
lle telir neu ad-delir costau’r cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig gan y blaid neu drydydd parti.
Mae’n cynnwys cost cyfran berthnasol o:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig ag ymchwil marchnad neu ganfasio.
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran ymchwil marchnad neu ganfasio ar gyfer y blaid, lle telir neu ad-delir hynny gan y blaid.