| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwahanu gwariant

Y rhesymau posibl dros wahanu gwariant

Efallai y bydd angen i chi wahanu eich costau rhwng gweithgareddau a deunyddiau sy’n cyfrif fel gwariant ar ymgyrch a’r rhai nad ydynt yn cyfrif. 

Dyma ddwy enghraifft gyffredin o bryd mae angen i chi wahanu gwariant:

  • os ydych chi’n defnyddio eich swyddfa fel lleoliad i ganfasio dros y ffôn, bydd angen i chi rannu’r bil ffôn rhwng galwadau canfasio, a galwadau a wnaed at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â’r ymgyrch
  • os ydych chi’n dylunio gwaith ar gyfer ymgyrchu cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir, ac yn parhau i’w ddefnyddio ar ôl iddo ddechrau, bydd angen i chi rannu’r costau dylunio rhwng y ddau gyfnod

Er enghraifft, rydych yn comisiynu gwaith dylunio ar gyfer logo ymgyrch ar gyfer eich plaid yr ydych yn ei ddefnyddio ar eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol eraill ac ar eich holl ddeunydd ymgyrch am fis cyn dechrau’r cyfnod a reoleiddir ac yn ystod 4 mis y cyfnod a reoleiddir. 

Dylech rannu cost y dyluniad yn gyfartal ar draws yr holl gyfnod yr ydych yn ei ddefnyddio yn y ffordd hon. 

Costiodd y gwaith dylunio £15,000, a defnyddiwyd y gwaith gennych dros gyfnod o 5 mis, y gost fesul mis yw £15,000 ÷ 5 = £3,000 y mis. 

Roedd y cyfnod a reoleiddir yn cynnwys y 4 mis diwethaf, felly cost y gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw:

4 x £3,000 = £12,000 

Rhaid i £12,000 gael ei gofnodi fel gwariant ar ymgyrch plaid

Yr egwyddor asesiad gonest

Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli’n deg i’ch ymgyrch.

Weithiau, gall fod yn anodd gwneud rhaniad union. Er enghraifft, efallai y bydd eich bil ffôn yn darparu manylion am gostau galwadau sydd dros werth penodol yn unig.

Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest o’r wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu’r bil ag un nad yw’n cynnwys cyfnod a reoleiddir.

Os ydych dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyngor.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen wariant, mae’n rhaid i chi ddatgan bod eich ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred.1  Mae’r datganiad hwn yn cynnwys unrhyw asesiadau rydych chi wedi eu gwneud ynghylch gwahanu gwariant.

Mae gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu yn fyrbwyll yn drosedd.2

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2025