Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio, neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan unrhyw asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safleoedd neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir wrth:
hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo’r blaid
ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiadau arall yn fyw mewn unrhyw ffordd
Mae’n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu’r digwyddiad, mewn unrhyw ffordd.
Mae'n cynnwys cost unrhyw ddigwyddiad a gynhelir drwy ddolen o unrhyw fath neu sy’n cael ei ffrydio neu ei ddarlledu’n fyw, lle mae’r digwyddiad yn agored i gael ei weld gan ddefnyddwyr sianel neu blatfform neu drwy unrhyw ffordd arall.
Mae’n cynnwys y gost o ddarparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft y gost o logi seddi.
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall sy’n gysylltiedig â:
chynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo’r blai
ffrydio neu ddarlledu cyfarfod cyhoeddus yn fyw mewn unrhyw ffordd
Costau cysylltiedig
Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffôn a mynediad at y rhyngrwyd
sy’n gysylltiedig â:
hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
cynnal rali neu ddigwyddiad arall i hyrwyddo’r blaid
ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiadau arall yn fyw mewn unrhyw ffordd
Mae’n cynnwys cost bwyd a/neu lety ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n darparu gwasanaethau o ran:
hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
cynnal rali neu ddigwyddiad i hyrwyddo’r blaid
ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiadau arall yn fyw mewn unrhyw ffordd